Datblygu cynllun rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt
URN: LANGWM5
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn amlinellu’r cymwyseddau sydd yn ofynnol gan unigolion sy’n gyfrifol am ddatblygu cynllun rheoli cynefin ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt i gefnogi poblogaethau helfilod. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes cadwraeth helfilod a bywyd gwyllt ac sy’n gyfrifol am bennu nodweddion cynefin ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt a sefydlu amcanion rheoli cynefin.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a gweithio i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth, ac ymateb i’r effeithiau ar newid hinsawdd a’u lleddfu.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu a gweithredu gweithdrefnau i gefnogi casglu a dadansoddi data a gwybodaeth rheoli cynefin yn gywir i gefnogi datblygiad cynllun rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt
- cael cyngor arbenigol lle bo angen
- dadansoddi data a gwybodaeth rheoli cynefin i sefydlu llinell sylfaen a phennu nodau ac amcanion mesuradwy ar gyfer rheoli cynefin, yn cynnwys rhywogaethau planhigion a’u dosbarthiad, eu daearyddiaeth a thopograffeg yr ardal, rhyngweithio gyda bywyd gwyllt, ardaloedd o niwed ac sy’n peri pryder
- sefydlu blaenoriaethau ar gyfer rheoli cynefin
- pennu’r gofynion adnoddau sydd yn angenrheidiol i gefnogi gweithredu’r cynllun rheoli cynefin yn llwyddiannus
- asesu arwyddocâd y dylanwadau a allai effeithio ar reoli cynefin
- sefydlu amrywiaeth o ymyriadau y gellir eu defnyddio i gadarnhau bod amcanion y cynllun rheoli cynefin wedi cael eu cyflawni
- pennu dulliau gwaith sydd yn cynnal iechyd a diogelwch ac sydd yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol
- sefydlu’r gweithdrefnau sydd yn ofynnol i fesur dylanwad y cynllun rheoli cynefin
- cadarnhau bod y cynllun rheoli cynefin yn ystyried gweithgareddau eraill yr ardal rheoli bywyd gwyllt a’r dynodiadau tir ac yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, y polisïau cenedlaethol, y codau ymarfer, arweiniad y sector a’r gofynion sefydliadol perthnasol
- ystyried safbwyntiau pobl eraill, yn cynnwys y rheiny sydd yn gysylltiedig â’r cynllun rheoli cynefin neu wedi eu heffeithio ganddo, fel rhan o ddatblygiad cyffredinol y cynllun
- cyfathrebu gofynion y cynllun rheoli cynefin i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’i weithredu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gwerth cynllun rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt
- y berthynas rhwng y cynllun rheoli cynefin ac amcanion cyffredinol yr ardal rheoli bywyd gwyllt
- technegau casglu a dadansoddi data, yn cynnwys defnyddio a dehongli mapiau a data graffigol arall, deunydd wedi ei gyhoeddi, cofnodion ac asesu effaith ar gynefin
- y mathau o niwed i gynefin a thechnegau asesu niwed
- ble i gael cyngor arbenigol
- y broses o ddatblygu cynllun rheoli cynefin, yn cynnwys sefydlu nodau ac amcanion mesuradwy yn cwmpasu’r tymor byr - (1 – 2 fis), tymor canolig - (12 mis) a’r hirdymor (5 mlynedd)
- cynllunio a defnyddio adnoddau, er enghraifft, pobl, cyfarpar a chyllid
- y dylanwadau hysbys sy’n effeithio ar reoli cynefin, fel defnydd o gynefin, gweithredoedd plâu a fermin, clefydau, defnydd o dir, dylanwadau dynol ac amcanion cenedlaethol
- y rheoliadau cenedlaethol a lleol yn ymwneud â mynediad i gefn gwlad, rheoli bywyd gwyllt a chynefin
- sut i adnabod rhywogaethau cynefin, a’u nodweddion gwahaniaethol, sy’n berthnasol i’r ardal rheoli bywyd gwyllt
- egwyddorion rheoli cynefin
- ecoleg yr ardal rheoli bywyd gwyllt
- y ffordd y gall rheoli cynefin gefnogi poblogaethau helfilod a bywyd gwyllt
- y rhyngweithio rhwng defnydd, yr ardal rheoli bywyd gwyllt a bioamrywiaeth
- ymyriadau y gellir eu defnyddio i gyflawni amcanion rheoli cynefin fel creu cynefin, cynnal cynefin, rheoli plâu a fermin, mesurau i wella iechyd y cynefin
- y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
- effaith rhywogaethau a dynodiadau tir ar y defnydd o dir
- rôl deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, codau ymarfer, arweiniad sector a gofynion sefydliadol perthnasol sy’n cefnogi rheoli cynefin
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai dynodiadau gynnwys:
• Parc Cenedlaethol
• Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
• Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SAC)
• Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (SPA)
• RAMSAR
• Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
• Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
• Safle Archaeolegol
• Ymddiriedolaeth Genedlaethol
• Parth Perygl Nitrogen (NVZ)
• Parthau Diogelu Dŵr Yfed
• Henebion Cofrestredig (SM)
• Adeiladau Rhestredig (LB)
• Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
• Meysydd Brwydrau Cofrestredig (RB)
• Safleoedd a nodir ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)
Helfilod:
unrhyw rywogaeth cyfreithlon o ysglyfaeth yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod’ yn gwahaniaethu ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
• Lloegr – DEFRA
• Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
• Yr Alban – NatureScot
• Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru
Gallai arweiniad sector gynnwys:
• Cod Ymarfer Saethu Da
• Canllawiau Arfer Gorau Mentrau Ceirw
• Canllawiau Arfer Gorau Ceirw Gwyllt yr Alban
• Cynllun Sicrwydd Saethu Cynghrair Helfilod Prydain
Ardal rheoli bywyd gwyllt:
Unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGWM5
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Ystadau, Rheoli Helfiod a Bywyd Gwyllt
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
helfilod; bywyd gwyllt; rheolaeth; cynllunio; cynefin