Gweithredu a monitro cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
URN: LANGWM4
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn amlinellu’r cymwyseddau sydd yn ofynnol gan unigolion sy’n gyfrifol am weithredu a monitro cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt. Mae wedi cael ei ddatblygu er mwyn gallu ei gymhwyso i amrywiaeth o sefyllfaoedd.
Gellir disgrifio rheoli bywyd gwyllt fel ymyrraeth wedi ei thargedu i newid poblogaeth, strwythur neu ddosbarthiad rhywogaeth wyllt. Gall gynnwys eu cadwraeth, eu hailgyflwyno neu eu trawsleoli, diogelu eu hiechyd a’u lles neu eu didol a’u difa i reoli eu niferoedd a’u heffaith ar gynefinoedd neu rywogaethau eraill.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a bywyd gwyllt ac sy’n gyfrifol am weithredu a monitro llwyddiant cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a gwaith yn gwarchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth, ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’i leddfu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- monitro a chynnal gweithgareddau i sicrhau gweithredu’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt yn effeithiol
- rheoli dyrannu adnoddau i gyflawni amcanion y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
- cadarnhau bod dulliau gwaith yn cynnal iechyd a diogelwch a’u bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol
- cadarnhau bod gweithredu’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt yn cynnal lles anifeiliaid a bioddiogelwch bob amser
- gweithredu i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
- gweithredu a monitro’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt yn unol â’r ddeddfwriaeth, y polisïau cenedlaethol, y codau ymarfer, arweiniad y sector a’r gofynion sefydliadol perthnasol
- cadarnhau bod ymyriadau wedi eu cynllunio’n cael eu gweithredu i gyflawni amcanion y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
- ymateb i sefyllfaoedd brys fel y bo angen
- cael cyngor proffesiynol pan fydd cyfyngiadau neu argyfyngau yn syrthio y tu allan i’ch maes arbenigedd eich hun
- casglu a dadansoddi data i bennu cynnydd yn erbyn amcanion a gynlluniwyd
- cael ac adolygu adborth gan y rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithredu’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
- gwneud addasiadau i’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt yn seiliedig ar adborth a geir a hefyd pan fydd cyfyngiadau’n effeithio ar effeithiolrwydd y cynllun
- cadarnhau bod cofnodion cywir yn cael eu cynnal i gefnogi gweithredu’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y technegau a ddefnyddir i asesu nodweddion poblogaeth helfilod
- sut i gynnal iechyd a lles rhywogaethau helfilod sy’n berthnasol i’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
- y clefydau sydd yn gysylltiedig â’r rhywogaethau perthnasol o helfilod, yn cynnwys gallu adnabod clefydau a gwybod pa gamau i’w cymryd
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sydd yn rheoleiddio lles anifeiliaid, bioddiogelwch, rheoli clefydau a rheoli plâu
- yr adnoddau sy’n ofynnol i gefnogi gweithredu’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt, yn cynnwys pobl, cyfarpar, cyllid
- y cyfyngiadau a’r argyfyngau sydd yn gallu effeithio ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt, er enghraifft, amcanion busnes, pwysau gwleidyddol, clefydau, deddfwriaeth, materion adnoddau a chyfarpar
- y technegau cofnodi a dadansoddi data addas a ddefnyddir i fonitro effeithiolrwydd y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt, yn cynnwys technegau ansoddol a meintiol
- y rheoliadau cenedlaethol a lleol a’r codau ymarfer sy’n rheoli rheolaeth helfilod a bywyd gwyllt yn ymwneud â mynediad i gefn gwlad, rheoli helfilod a bywyd gwyllt
- y gweithgareddau sydd yn ofynnol i fonitro a chynnal gweithredu’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt yn effeithiol
- y ffordd y gall rheoli helfilod ddylanwadau ar rywogaethau bywyd gwyllt
- y ffordd y gellir dylanwadu ar ymddygiad helfilod trwy ddefnyddio ymyriadau gwahanol fel monitro a rheoli cynefin, monitro poblogaeth helfilod a bywyd gwyllt, rheoli plâu ac ysglyfaethwyr, mesurau i gynnal lles helfilod a mesurau i wella iechyd helfilod
- y ffordd y mae gweithgareddau rheoli helfilod yn rhyngweithio gyda gweithgareddau a defnddwyr eraill yr ardal rheoli bywyd gwyllt a sut i reoli neu ddylanwadu ar y rhyngweithio hyn mewn ffordd gadarnhaol
- y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
- rôl y ddeddfwriaeth, y polisïau cenedlaethol, y codau ymarfer, arweiniad y sector a’r gofynion sefydliadol perthnasol sy’n cefnogi rheoli helfilod a bywyd gwyllt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Helfilod:
unrhyw rywogaeth gyfreithlon o ysglyfaeth yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod’ yn gwahaniaethu ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Dylanwadau sy’n effeithio ar reoli helfilod a bywyd gwyllt:
e.e. amgylchedd ffisegol, cynefin, bywyd gwyllt, rhyngweithio â phlâu ac ysglyfaethwyr, lles a maeth helfilod, clefydau helfilod, defnydd arall o’r tir, gwrthdaro buddiannau, pwysau gwleidyddol, deddfwriaeth
Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
• Lloegr – DEFRA
• Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
• Yr Alban – NatureScot
• Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru
Rheoli plâu:
• plaladdwyr
• gwenwyn llygod
• trapiau a maglau
• saethu
Gallai arweiniad sector gynnwys:
• Cod Ymarfer Saethu Da
• Canllawiau Arfer Gorau Mentrau Ceirw
• Canllawiau Arfer Gorau Ceirw Gwyllt yr Alban
• Cynllun Sicrwydd Saethu Cynghrair Helfilod Prydain
Ardal rheoli bywyd gwyllt:
Unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGWM4
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Ystadau, Rheoli Helfiod a Bywyd Gwyllt
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
helfilod; bywyd gwyllt; rheolaeth; cynllunio