Datblygu cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
URN: LANGWM3
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
                    Datblygwyd gan: Lantra
                    Cymeradwy ar: 
2022                        
                    
                Trosolwg
Mae’r safon hon yn amlinellu’r cymwyseddau sydd yn ofynnol gan unigolion sy’n gyfrifol am ddatblygu cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i amrywiaeth o sefyllfaoedd gwahanol lle mae angen rheoli helfilod a bywyd gwyllt.  
Gellir disgrifio rheoli bywyd gwyllt fel ymyrraeth wedi ei thargedu i newid poblogaeth, strwythur neu ddosbarthiad rhywogaethau gwyllt. Gall gynnwys eu cadwraeth, eu hailgyflwyno neu eu trawsleoli, diogelu eu hiechyd a’u lles neu eu didol a’u difa i reoli eu niferoedd a’u heffaith ar gynefinoedd neu rywogaethau eraill.  
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a gwaith i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth, ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a bywyd gwyllt ac sy’n gyfrifol am ddatblygu cynllun ar gyfer rheoli helfilod a bywyd gwyllt.   
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau allai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu systemau i gefnogi casglu a dadansoddi data perthnasol yn ymwneud â’r ardal rheoli bywyd gwyllt yn gywir
 - dadansoddi’r data i bennu’r angen i reoli helfilod a bywyd gwyllt a’r cyfleoedd sydd ar gael i hwyluso mwy o gynnyrch helfilod
 - ystyried unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol neu gyfyngiadau eraill ar ddatblygiad cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
 - ceisio cyngor arbenigol lle bo angen
 - defnyddio dadansoddi poblogaeth helfilod a data arall i bennu nodau ac amcanion mesuradwy ar gyfer cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt ar gyfer y tymor byr - (1 – 2 fis), y tymor canolig - (12 mis) a’r hirdymor - (5 mlynedd) – yn cynnwys cynefin, helfilod, bywyd gwyllt, gallu saethu a’r elw ariannol
 - pennu’r ymyriadau y gellir eu defnyddio i reoli’r helfilod a’r bywyd gwyllt yn effeithiol
 - pennu’r adnoddau sydd yn angenrheidiol i gefnogi gweithredu’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt yn llwyddiannus
 - asesu arwyddocâd dylanwadau a allai effeithio ar weithredu’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
 - pennu dulliau gweithredol sydd yn cynnal iechyd a diogelwch ac sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol
 - cadarnhau bod y cynllun yn ystyried gweithgareddau eraill ardal rheoli bywyd gwyllt ac yn ystyried cyfleoedd ar gyfer ymagwedd reoli integredig
 - cadarnhau bod y cynllun yn ystyried yr angen i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
 - cadarnhau bod y cynllun yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’r polisïau sy’n benodol i wlad, codau ymarfer, arweiniad sector a gofynion sefydliadol perthnasol
 - sefydlu’r gweithdrefnau sydd yn angenrheidiol i fesur effeithiolrwydd y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
 - ystyried safbwyntiau pobl eraill, yn cynnwys y rheiny sydd yn gysylltiedig â, neu wedi eu heffeithio gan, y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt, cyfathrebu gofynion yn cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’i weithredu
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y technegau a ddefnyddir i gasglu data poblogaeth helfilod i bennu gofynion cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
 - y dulliau a ddefnyddir i bennu gallu saethu helfilod
 - technegau casglu a dadansoddi data, yn cynnwys defnydd a dehongliad o fapiau a data graffigol, deunydd wedi ei gyhoeddi a chofnodion eraill
 - y rheoliadau cenedlaethol a lleol yn ymwneud â mynediad i gefn gwlad, rheoli bywyd gwyllt a helfilod gwyllt
 - ble i gael cyngor arbenigol
 - y broses o bennu nodau ac amcanion mesuradwy ar gyfer y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
 - y berthynas rhwng y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt ac amcanion cyffredinol yr ardal rheoli bywyd gwyllt
 - egwyddorion rheoli bywyd gwyllt a’r ymyriadau y gellir eu defnyddio i gyflawni amcanion rheoli helfilod a bywyd gwyllt, yn cynnwys monitro a rheoli cynefin, monitro poblogaeth helfilod a bywyd gwyllt, rheoli plâu ac ysglyfaethwyr, mesurau i gynnal lles helfilod a mesurau i wella iechyd helfilod
 - y ffodd y mae helfilod yn rhyngweithio gyda bywyd gwyllt a’i amgylchedd a sut gellir rheoli, cefnogi ac annog hyn
 - yr adnoddau sydd yn ofynnol i gefnogi gweithredu’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt, er enghraifft, pobl, cyfarpar, cyllid, anifeiliaid
 - y dylanwadau sy’n effeithio ar reoli helfilod a bywyd gwyllt,
 - gweithgareddau eraill rheoli bywyd gwyllt a gwerth datblygu cynllun integredig rheoli helfilod a bywyd gwyllt
 - y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
 - rôl y ddeddfwriaeth a’r polisïau sy’n benodol i wlad, y codau ymarfer, arweiniad sector a’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol sy’n cefnogi rheoli helfilod a bywyd gwyllt
 - y gweithdrefnau y gellir eu defnyddio i fesul effeithiolrwydd y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
 - sut i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt, neu wedi eu heffeithio ganddynt
 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai data gynnwys data:
•   daearyddol (hinsawdd, daearegol, priddoedd, ac ati)
•   bywyd gwyllt a chynefin
•   plâu ac ysglyfaethwyr
• poblogaeth helfilod (maint a strwythur, dosbarthiad)
•  cofnodion saethu
•  defnydd o dir
• dynodiadau tir
•    deddfwriaeth sy’n benodol i wlad
Gallai dynodiadau gynnwys:  
• Parc Cenedlaethol
• Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
•  Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SAC)
•    Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (SPA)
• RAMSAR
•    Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
•   Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
• Safle Archaeolegol
•    Ymddiriedolaeth Genedlaethol
•  Parth Perygl Nitrogen (NVZ)
•   Parthau Diogelu Dŵr Yfed
•  Henebion Cofrestredig (SM)
•    Adeiladau Rhestredig (LB)
• Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
•   Meysydd Brwydrau Cofrestredig (RB) 
•   Safleoedd a nodir ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)
Helfilod:
unrhyw rywogaeth cyfreithlon o ysglyfaeth yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod’ yn gwahaniaethu ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Dylanwadau sy’n effeithio ar reoli helfilod a bywyd gwyllt:  
e.e. amgylchedd ffisegol, cynefin, bywyd gwyllt, rhyngweithio â phlâu ac ysglyfaethwyr, lles a maeth helfilod, clefydau helfilod, defnydd arall o’r tir, gwrthdaro buddiannau, pwysau gwleidyddol, deddfwriaeth
Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
•  Lloegr – DEFRA
•    Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
•  Yr Alban – NatureScot
• Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru
Gallai arweiniad sector gynnwys:
•  Cod Ymarfer Saethu Da
• Canllawiau Arfer Gorau Mentrau Ceirw 
• Canllawiau Arfer Gorau Ceirw Gwyllt yr Alban
•  Cynllun Sicrwydd Saethu Cynghrair Helfilod Prydain
Ardal rheoli bywyd gwyllt:  
Unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Lantra
        
    
URN gwreiddiol
        LANGWM3
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Ystadau, Rheoli Helfiod a Bywyd Gwyllt        
    
Cod SOC
        5119
        
    
Geiriau Allweddol
            helfilod; bywyd gwyllt; rheoli