Rheoli gweithredu gweithgareddau saethu helfilod

URN: LANGWM2
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn amlinellu’r cymwyseddau sydd yn ofynnol gan unigolion sy’n gyfrifol am reoli gweithredu gweithgareddau saethu helfilod. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i unrhyw raglen saethu helfilod ar unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer saethu helfilod.  

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes cadwraeth helfilod a bywyd gwyllt ac sy’n gyfrifol am reoli’r gwaith o weithredu gwethgareddau ar ddiwrnod saethu.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd a gweithio i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. rheoli gweithgareddau saethu helfilod er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu yn unol â gofynion asesu risg a’r rhaglen saethu helfilod
  2. rheoli dyraniad adnoddau i gyflawni’r amcanion a gynlluniwyd gan y rhaglen saethu helfilod
  3. rheoli staff a gwirfoddolwyr i hwyluso gweithredu’r gweithgareddau saethu helfilod sydd wedi eu cynllunio yn effeithiol 
  4. cadarnhau bod gofynion y rhaglen saethu helfilod yn cael eu cyfathrebu i bawb sydd yn gysylltiedig â’u gweithredu
  5. sefydlu a chynnal cyfathrebu effeithiol bob amser, gyda saethwyr, a’r rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithredu’r gweithgareddau saethu helfilod
  6. cadarnhau bod cynlluniau wrth gefn yn eu lle i ymdrin ag unrhyw ffactorau sy’n effeithio ar y gweithgareddau saethu helfilod, yn cynnwys dylanwadau dynol, ymddygiad annisgwyl helfilod, y tywydd a gweithredoedd bwriadol i amharu ar y gweithgareddau
  7. cadarnhau bod yr holl weithgareddau saethu helfilod yn bodloni amcanion y rhaglen saethu helfilod ac yn cael eu gweithredu yn unol â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  8. cadarnhau bod mesurau addas yn eu lle i gynnal iechyd a diogelwch a’u bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol
  9. cadarnhau bod carcasau helfilod yn cael eu trin a’u storio’n lân, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
  10. cadarnhau bod cofnodion cywir yn cael eu cadw o’r holl weithgareddau saethu helfilod, yn cynnwys yr ysglyfaeth sydd wedi ei saethu, amser a lleoliad yr ergydion a gymerwyd
  11. cael adborth gan y rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithgareddau saethu helfilod, yn cynnwys ciperiaid, staff cymorth, gwirfoddolwyr a saethwyr, i gefnogi datblygiad y rhaglen saethu helfilod 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y rolau sy’n hanfodol i weithredu gweithgareddau saethu helfilod yn ddiogel
  2. yr adnoddau sydd yn ofynnol i gefnogi gweithgareddau saethu, fel pobl, trafnidiaeth, cyfarpar, cyllid ac anifeiliaid
  3. y dulliau a ddefnyddir i baratoi a briffio pawb sydd yn gysylltiedig â gweithgareddau saethu helfilod
  4. y rheoliadau cenedlaethol a lleol perthnasol sy’n rheoli gweithgareddau saethu helfilod, yn ymwneud â’r defnydd o arfau tanio, mynediad at gefn gwlad, lles anifeiliaid, a’r defnydd o staff achlysurol a gwirfoddolwyr
  5. y ffordd y gall staff a gwirfoddolwyr gael eu rheoli i sicrhau gweithredu gweithgareddau saethu helfilod sydd wedi eu cynllunio yn effeithiol
  6. y camau i’w cymryd os bydd amharu bwriadol ar y gweithgareddau saethu helfilod
  7. systemau cofnodi effeithiol a’u gwerth o ran gweithredu gweithgareddau saethu helfilod
  8. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli ymdrin a storio carcasau helfilod
  9. y ffordd y mae helfilod yn ymateb ar ddiwrnodau saethu a’r hyn all ddigwydd i newid eu hymddygiad rhagweledig
  10. rôl deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, codau ymarfer, arweiniad sector a gofynion sefydliadol perthnasol i gefnogi gweithredu gweithgareddau saethu helfilod yn ddiogel


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Helfilod:
unrhyw rywogaeth gyfreithlon o ysglyfaeth yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod’ yn gwahaniaethu ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.

Gweithgareddau saethu helfilod:
trefn yr ardal saethu
paratoi cyfarpar a deunyddiau
cyswllt a threfniant gyda saethwyr 
y trefniant o guro, fflagio, atal, codi, ymdrin a storio helfilod marw

Rhaglen saethu helfilod:
gweithgareddau saethu wedi eu cynllunio yn cwmpasu tymor saethu

Saethwr:
cyfranogwr mewn gweithgareddau saethu

Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
Lloegr – DEFRA
Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
Yr Alban – NatureScot
Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru

Gallai arweiniad sector gynnwys:
Cod Ymarfer Saethu Da
Canllawiau Arfer Gorau Mentrau Ceirw 
Canllawiau Arfer Gorau Ceirw Gwyllt yr Alban
Cynllun Sicrwydd Saethu Cynghrair Helfilod Prydain

Ardal rheoli bywyd gwyllt:
unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu helfilod


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LAMGWM2

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ystadau, Rheoli Helfiod a Bywyd Gwyllt

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

helfilod; bywyd gwyllt; saethu; ystâd; gynnau; ysglyfaeth fyw