Gweithredu a monitro didol a difa ceirw gwyllt
URN: LANGWM13
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn amlinellu’r cymwyseddau sydd yn ofynnol gan unigolion sy’n gyfrifol am weithredu a monitro didol a difa ceirw gwyllt. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i amrywiaeth o sefyllfaoedd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio fel rheolwyr ceirw ac sy’n gyfrifol am weithredu’r rhaglen didol a difa a monitro llwyddiant y rhaglen.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau allai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithredu a monitro gweithgareddau didol a difa ceirw gwyllt yn unol â phrosesau rheoli risg, yn cynnwys sefydlu rhagofalon diogelwch, paratoi cyfarpar a deunyddiau, cysylltu â llech-helwyr a staff cymorth, ymdrin â cheirw wedi eu hanafu ac ymdrin â charcasau a’u storio
- rheoli dyrannu adnoddau i gyflawni amcanion didol a difa ceirw gwyllt
- cadarnhau bod gweithgareddau didol a difa yn cynnal iechyd a diogelwch a’u bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol
- cadarnhau bod gofynion didol a difa ceirw gwyllt yn cael eu cyfathrebu’n effeithiol i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’i weithredu
- sefydlu a chynnal cyfathrebu effeithiol gyda llech-helwyr a’r rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithredu didol a difa ceirw gwyllt
- cadarnhau bod yr holl weithgareddau didol a difa ceirw gwyllt yn bodloni amcanion a’u bod yn cael eu gweithredu a’u monitro yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion cenedlaethol a lleol
- cadarnhau bod carcasau ceirw’n cael eu cludo, eu trin a’u storio yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- cadarnhau bod cofnodion didol a difa cywir yn cael eu cynnal yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- monitro a chael adborth gan y rheiny sydd yn gysylltiedig â didol a difa ceirw gwyllt i gefnogi datblygiad y cynllun rheoli ceirw gwyllt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y rolau sy’n hanfodol i weithredu didol a difa ceirw gwyllt
- yr adnoddau sydd yn ofynnol i gefnogi didol a difa ceirw gwyllt yn cynnwys pobl, trafnidiaeth, cyfarpar, cyllid ac anifeiliaid
- y dulliau o baratoi a rhoi cyfarwyddyd i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithgareddau didol a difa ceirw gwyllt
- y rheoliadau cenedlaethol a lleol perthnasol sy’n rheoli didol a difa ceirw gwyllt yn ymwneud â mynediad, y defnydd o arfau tanio ac arfau, mynediad i gefn gwlad, lles anifeiliaid, a’r defnydd o staff achlysurol a gwirfoddolwyr
- y gweithgareddau sy’n ofynnol i reoli gweithredu a monitro’r didol a difa ceirw gwyllt sydd wedi ei gynllunio yn effeithiol
- pwysigrwydd cynnal cofnodion cywir didol a difa ceirw gwyllt a’u gwerth i weithredu cynllun rheoli ceirw gwyllt effeithiol
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli trin a storio carcasau ceirw gwyllt
- pam mae cyfathrebu effeithiol yn bwysig i weithgareddau saethu
- y ffordd y mae ceirw gwyllt yn ymateb yn ystod didol a difa a’r dylanwadau a allai newid eu hymddygiad disgwyliedig
- yr angen am gynlluniau wrth gefn a phryd i’w gweithredu, er enghraifft, oherwydd dylanwadau dynol, ymddygiad annisgwyl ceirw gwyllt neu amodau amgylcheddol
- y ffordd i gellir gweithredu didol a difa ceirw gwyllt mewn ardaloedd adeiledig neu goridorau trafnidiaeth
- y peryglon diogelwch sydd yn gysylltiedig â didol a difa ceirw gwyllt a’r ffordd y gellir eu rheoli
- rôl y ddeddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, codau ymarfer, arweiniad sector a’r gofynion sefydliadol perthnasol yn ymwneud â gweithgareddau didol a difa ceirw gwyllt, yn ogystal â chofnodi manylion didol a difa
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai codau ymarfer gynnwys:
• Cod Ymarfer Saethu Da
• Canllawiau Arfer Gorau Menter Ceirw
• Canllawiau Arfer Gorau Ceirw Gwyllt yr Alban
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGWM13
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Ystadau, Rheoli Helfiod a Bywyd Gwyllt
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
saethu; ceirw; didol a difa; helfilod