Gweithredu a monitro cynllun rheoli helgig
URN: LANGWM12
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Helgig a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn amlinellu'r cymwyseddau sydd yn ofynnol ar unigolion sydd yn gyfrifol am weithredu a monitro cynllun rheoli helgig. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso naill ai i raglen cynhyrchu adar hela neu gynllun rheoli ceirw gwyllt.
Mae'r safon hon wedi ei hanelu at y rheiny sydd yn gweithio fel rheolwyr helgig ac sydd yn gyfrifol am sicrhau gweithredu a monitro llwyddiant y cynllun rheoli helgig yn effeithiol. Gallai helgig gynnwys unrhyw rywogaethau o adar hela neu geirw gwyllt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- monitro a chynnal gweithgareddau i gadarnhau gweithredu'r cynllun rheoli helgig yn effeithiol
- rheoli dyraniad adnoddau i gyflawni amcanion y cynllun rheoli helgig
- cadarnhau bod dulliau gwaith yn cynnal iechyd a diogelwch ac yn cyd-fynd â deddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion y sefydliad
- cadarnhau bod gweithredu'r cynllun rheoli helgig yn cynnal lles anifeiliaid a bioddiogelwch bob amser
- cadarnhau bod cofnodion cywir yn cael eu cynnal i gefnogi'r gwaith o weithredu'r cynllun rheoli helgig
- gweithredu a monitro'r cynllun rheoli helgig yn unol â deddfwriaeth berthnasol, polisïau cenedlaethol, codau ymarfer, canllawiau sector a gofynion sefydliadol
- cael ac adolygu adborth gan y rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithredu'r cynllun rheoli helgig
- gwneud addasiadau i'r cynllun rheoli helgig yn seiliedig ar adborth a gafwyd a hefyd pan fydd cyfyngiadau neu argyfyngau yn effeithio ar effeithiolrwydd y cynllun
- ymateb i sefyllfaoedd brys fel bo angen
- cael cyngor proffesiynol pan fydd cyfyngiadau neu argyfyngau y tu hwnt i'ch maes arbenigedd chi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gweithgareddau sydd yn ofynnol i fonitro a chynnal y gwaith o weithredu'r cynllun rheoli helgig yn effeithiol
- yr adnoddau sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o gynnal y cynllun rheoli helgig, er enghraifft pobl, cyfarpar, cyllid
- sut i gynnal iechyd a lles rhywogaethau helgig sydd yn berthnasol i'r cynllun rheoli helgig
- y clefydau sydd yn gysylltiedig â'r rhywogaethau helgig perthnasol yn cynnwys eu hadnabod a'r camau priodol i'w cymryd
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sydd yn rheoli lles anifeiliaid, bioddiogelwch a rheoli clefydau, rheoli plâu, gwaredu gwastraff a gweithgareddau trafnidiaeth
- y technegau a ddefnyddir i asesu nodweddion perthnasol poblogaeth helgig
- technegau addas ar gyfer cofnodi a dadansoddi data
- y ffordd y mae gweithgareddau rheoli helgig yn rhyngweithio â gweithgareddau a defnyddwyr eraill yr yr ardal rheoli bywyd gwyllt, a sut i reoli neu ddylanwadu ar y rhyngweithio hyn mewn ffordd gadarnhaol
- y cyfyngiadau a'r argyfyngau a allai effeithio ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y cynllun rheoli helgig, er enghraifft amcanion busnes, pwysau gwleidyddol, clefydau, deddfwriaeth, materion adnoddau neu gyfarpar
- gwerth bioamrywiaeth ac ymarfer cynaliadwy i ardaloedd rheoli bywyd gwyllt
- rôl deddfwriaeth berthnasol, polisïau cenedlaethol, codau ymarfer, canllawiau sector a gofynion sefydliadol sydd yn cynorthwyo rheolaeth helgig
Cwmpas/ystod
Monitro a chynnal cynllun rheoli helgig ar gyfer naill ai:
- rhaglen cynhyrchu adar hela neu
- gynllun rheoli ceirw gwyllt
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rheoli plâu
- Plaladdwyr
- Llygodladdwyr
- Maglau a rhwydi
- Saethu
Gallai canllawiau sector gynnwys:
- Y Côd Ymarfer Saethu Da
- Canllawiau Arfer Gorau Menter Ceirw
- Canllawiau Arfer Gorau Scottish Natural Heritage
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGWM12
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Ystadau, Rheolwr Helgig a Bywyd Gwyllt
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
helgig; ceirw; rheoli; cynllun; bywyd gwyllt