Datblygu cynllun rheoli ceirw gwyllt
URN: LANGWM11
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn amlinellu’r cymwyseddau sydd yn ofynnol gan unigolion sy’n gyfrifol am ddatblygu cynllun rheoli ar gyfer ceirw gwyllt mewn ardal rheoli bywyd gwyllt. Mae wedi cael ei ddatblygu er mwyn gallu ei gymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio fel rheolwyr ceirw ac sy’n gyfrifol am ddatblygu cynllun rheoli ceirw gwyllt, gan sefydlu ac adolygu gweithdrefnau ar gyfer y cynllun ac integreiddio’r cynllun ceirw i’r cynllun rheoli cyffredinol ar gyfer yr ardal rheoli bywyd gwyllt.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a gwaith tuag at warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth, ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu systemau ar gyfer casglu a dadansoddi data yn gywir i gefnogi datblygu cynllun rheoli ceirw gwyllt
- dadansoddi’r wybodaeth a’r data perthnasol i bennu nodweddion poblogaethau ceirw gwyllt, er enghraifft, y cofnodion didol a difa blaenorol, asesiadau poblogaeth, asesiadau cynefin, amcanion ardal rheol bywyd gwyllt ac amcanion rhanbarthol rheoli ceirw
- cael cyngor arbenigol pan fo angen
- datblygu model poblogaeth ceirw gwyllt ar gyfer yr ardal rheoli bywyd gwyllt
- sefydlu blaenoriaethau a nodau mesuradwy ar gyfer y cynllun rheoli ceirw gwyllt
- pennu’r gofynion adnoddau sydd yn angenrheidiol i gefnogi gweithredu’r cynllun rheoli ceirw gwyllt yn llwyddiannus
- pennu bod dulliau gweithio’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol
- asesu unrhyw gyfyngiadau posibl a allai ddylanwadu ar y cynllun rheoli ceirw gwyllt
- sefydlu systemau ar gyfer gweithgareddau sy’n cefnogi gweithredu’r cynllun rheoli ceirw gwyllt, fel asesu poblogaeth, asesu niwed i gynefin, rheoli cynefin, ffensio, llech-hela a bwydo ategol
- sefydlu systemau i gefnogi gweithredu gweithdrefnau brys yn effeithiol
- cadarnhau bod y cynllun rheoli ceirw gwyllt yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth sy’n benodol i wlad, codau ymarfer, arweiniad sector a gofynion sefydliadol perthnasol
- ystyried safbwyntiau rhanddeiliaid eraill fel rhan o ddatblygiad y cynllun rheoli ceirw gwyllt
- cyfathrebu gofynion y cynllun rheoli ceirw gwyllt i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’i weithredu
- sefydlu gweithdrefnau ar gyfer adolygu effeithiolrwydd y cynllun rheoli ceirw gwyllt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr egwyddorion sydd yn gysylltiedig â rheoli ceirw gwyllt
- technegau dadansoddi data a rôl data wrth osod targedau wrth ddatblygu cynllun rheoli ceirw gwyllt
- ble i gael cyngor arbenigol
- y broses o sefydlu nodau ac amcanion mesuradwy sy’n berthnasol i’r cynllun, yn cwmpasu’r tymor byr - (1 – 2 fis), canolig - (12 mis), a’r hirdymor (5 mlynedd)
- y berthynas rhwng y cynllun rheoli ceirw gwyllt a’r amcanion cyffredinol ar gyfer yr ardal rheoli bywyd gwyllt
- cynllunio a defnyddio adnoddau yn cynnwys pobl, cyfarpar, cyllid
- y cyfyngiadau sy’n dylanwadu ar reoli ceirw gwyllt
- y rhyngweithio rhwng ceirw gwyllt a’u cynefin
- ecoleg ceirw gwyllt
- technegau asesu poblogaeth ceirw gwyllt
- modelau poblogaeth a dwysedd a chymarebau amrywiol i gyflawni amcanion gwahanol
- arwyddocâd diwylliannol patrymau lleol dosbarthiad ceirw gwyllt, er enghraifft, lleoliadau rhidio sydd wedi eu sefydlu, a sut gellir diogelu a gwarchod y rhain
- deddfwriaeth lles anifeiliaid fel y mae’n berthnasol i reoli ceirw gwyllt ac egwyddorion bioddiogelwch ac atal clefydau
- clefydau cyffredin ceirw gwyllt, yn cynnwys sut i’w hadnabod a’u trin
- effaith mynediad cyhoeddus a’i ddylanwad ar gynllunio rheoli ceirw gwyllt
- dylunio a chreu cynefin sy’n berthnasol i reoli ceirw gwyllt a’r ardal rheoli bywyd gwyllt
- dylunio, adeiladu a gosod ffensys, fel y mae’n berthnasol i reoli ceirw gwyllt a’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer yn ymwneud â hyn
- y ffordd y gall tir, cerbydau dŵr ac awyr gael eu defnyddio i gynorthwyo gweithgareddau rheoli ceirw gwyllt
- pryd a sut gellir defnyddio didol a difa brys ceirw gwyllt a gofynion llech-hela ceirw
- effaith economaidd-gymdeithasol bosibl gweithgareddau rheoli ceirw gwyllt
- rôl y ddeddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, codau ymarfer, arweiniad sector a’r gofynion sefydliadol perthnasol wrth ddatblygu cynlluniau rheoli ceirw gwyllt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfyngiadau sydd yn dylanwadu ar reoli ceirw gwyllt:
e.e. amcanion busnes, pwysau gwleidyddol, clefydau, deddfwriaeth, argaeledd adnoddau
Gallai arweiniad sector gynnwys:
• Y Cod Ymarfer Saethu Da
• Canllawiau Arfer Gorau Mentrau Ceirw
• Canllawiau Arfer Gorau Ceirw Gwyllt yr Alban
Ardal rheoli bywyd gwyllt:
Unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu helfilod
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGWM11
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Ystadau, Rheoli Helfiod a Bywyd Gwyllt
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
helfilod; ceirw; rheolaeth; cynllun; bywyd gwyllt