Datblygu rhaglen saethu helfilod
URN: LANGWM1
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn amlinellu’r cymwyseddau sydd yn ofynnol gan unigolion sy’n gyfrifol am ddatblygu rhaglen saethu helfilod. Mae wedi ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i unrhyw raglen saethu helfilod ar unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer saethu helfilod.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd a gweithio tuag at warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes cadwraeth helfilod a bywyd gwyllt sy’n gyfrifol am ddatblygu rhaglen saethu helfilod a threfnu’r tasgau sydd yn gysylltiedig â gweithredu hyn.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu amcanion realistig ar gyfer y rhaglen saethu helfilod yn seiliedig ar ddadansoddiad o’r wybodaeth a’r data perthnasol o gofynion a ffynonellau allanol eraill
- cadarnhau bod amcanion yn unol ag amcanion rheoli bywyd gwyllt ac wedi eu dylunio i fod o'r fudd i fywyd gwyllt a’r amgylchedd
- sefydlu marchnad ar gyfer yr helgig sydd wedi ei saethu
- pennu’r adnoddau sydd yn angenrheidiol i gefnogi gweithrediad llwyddiannus y rhaglen saethu helfilod
- cwblhau asesiad risg i sefydlu canllawiau i gefnogi gweithrediad diogel y rhaglen saethu helfilod
- sefydlu rolau a chyfrifoldebau pawb sydd yn gysylltiedig â gweithredu’r rhaglen saethu helfilod
- trefnu’r adnoddau sydd yn angenrheidiol i gynnal hylendid helfilod marw ar gyfer eu cynnwys yn y gadwyn fwyd ddynol
- cadarnhau bod cynllunio wrth gefn yn ei le i ymdrin â ffactorau a allai effeithio ar y rhaglen saethu helfilod, yn cynnwys dylanwadau dynol, ymddygiad annisgwyl helfilod, y tywydd neu weithredoedd pwrpasol i amharu ar y rhaglen
- cadarnhau bod y rhaglen saethu helfilod sydd wedi ei chynllunio yn ystyried gweithgareddau eraill a wneir yn yr ardal rheoli bywyd gwyllt, a’i bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, y polisïau cenedlaethol, y codau ymarfer, arweiniad y sector a gofynion sefydliadol perthnasol
- sefydlu systemau rheoli i gefnogi gweithredu’r gweithgareddau saethu helfilod a gynlluniwyd, yn cynnwys yswiriant, contractau staff, cyfathrebu ar ddiwrnodau saethu, iechyd a diogelwch a chofnodion saethu
- datblygu rhaglen saethu helfilod sydd yn gwneud y defnydd gorau o nodweddion yr ardal i ddarparu amcanion saethu, yn cynnwys cynefin, poblogaethau bywyd gwyllt, gweithgareddau eraill, mynediad cyhoeddus a hawliau tramwy a dynodiadau tir
- cyfathrebu gofynion y rhaglen saethu helfilod i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’i gweithredu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y technegau dadansoddi data a ddefnyddir wrth ddatblygu rhaglen saethu helfilod, er mwyn pennu’r elw posibl o boblogaethau helfilod
- yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer gwaredu helfilod wedi eu saethu
- y broses o osod amcanion o ran rhaglen saethu helfilod, er enghraifft, nifer y diwrnodau saethu a gynlluniwyd, yr elw posibl o’r helfilod sydd ar gael, yr elw economaidd sydd yn ofynnol a’r cyfyngiadau
- sut i gynllunio a defnyddio’r adnoddau sydd ar gael, er enghraifft, pobl, trafnidiaeth, cyfarpar, cyllid ac anifeiliaid
- yr egwyddorion sydd yn gysylltiedig ag asesu risg a’i bwysigrwydd i iechyd a diogelwch rhaglenni saethu helfilod
- dylanwad amcanion a nodweddion ardal rheoli bywyd gwyllt, yn cynnwys dynodiadau tir, cynefin, poblogaethau helfilod, gweithgareddau eraill ar ddatblygiad y rhaglen saethu helfilod
- cynllunio wrth gefn sydd yn gysylltiedig â’r ffactorau sydd yn gallu amharu ar saethu helfilod, a’i werth i raglenni saethu helfilod
- rheoliadau cenedlaethol a lleol sy’n rheoli rhaglenni saethu helfilod yn ymwneud â’r defnydd o arfau tanio, mynediad i gefn gwlad a hawliau tramwy, lles anifeiliaid, ymdrin â helgig a’r defnydd o staff achlysurol a gwirfoddolwyr
- rôl y ddeddfwriaeth berthnasol, polisïau cenedlaethol, codau ymarfer, arweiniad sector a gofynion sefydliadol eraill sy’n cefnogi gweithredu rhaglen saethu helfilod
- y ffordd y gall amcanion a nodweddion yr ardal rheoli bywyd gwyllt gael eu defnyddio i wneud y gorau o botensial chwaraeon
- y ffordd y mae helfilod yn rhyngweithio gyda’u hamgylchedd a’r ffordd y gellir defnyddio’r ymddygiad yma i wneud y gorau o botensial saethu
- barn y cyhoedd yn ymwneud â saethu helfilod, sut gellir dylanwadu arni a’r ffordd y mae’n dylanwadu ar weithgareddau saethu helfilod
- mathau a ffynonellau diogelwch yswiriant ar gyfer gweithgareddau saethu helfilod
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai’r dynodiadau gynnwys:
• Parc Cenedlaethol
• Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
• Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SAC)
• Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (SPA)
• RAMSAR
• Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
• Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
• Safle Archaeolegol
• Ymddiriedolaeth Genedlaethol
• Parth Perygl Nitrogen (NVZ)
• Parthau Diogelu Dŵr Yfed
• Henebion Cofrestredig (SM)
• Adeiladau Rhestredig (LB)
• Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
• Meysydd Brwydrau Cofrestredig (RB)
• Safleoedd a nodir ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)
Helfilod:
unrhyw rywogaeth cyfreithlon o ysglyfaeth yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod’ yn gwahaniaethu ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Rhaglen saethu helfilod:
gweithgareddau saethu wedi eu cynllunio yn cwmpasu tymor saethu
Saethwr:
cyfranogwr mewn gweithgareddau saethu
Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
• Lloegr – DEFRA
• Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
• Yr Alban – NatureScot
• Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru
Gallai arweiniad sector gynnwys:
• Cod Ymarfer Saethu Da
• Canllawiau Arfer Gorau Mentrau Ceirw
• Canllawiau Arfer Gorau Ceirw Gwyllt yr Alban
• Cynllun Sicrwydd Saethu Cynghrair Helfilod Prydain
Ardal rheoli bywyd gwyllt:
Unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu helfilod
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGWM1
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Ystadau, Rheoli Helfiod a Bywyd Gwyllt
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
helfilod; bywyd gwyllt; saethu; ystâd