Dal pysgod o bysgodfa

URN: LANFiM9
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2018

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â dal pysgod o bysgodfa, gan ddilyn manyleb berthnasol. Mae’n cwmpasu pennu’r ffordd fwyaf priodol o ddal pysgod, ynghyd â pharatoi’r cyfarpar i’w ddefnyddio i ddal a chadw pysgod byw yn ddiogel. Mae’n cynnwys cymhwyso dulliau dal a thrin diogel sy’n lleihau’r straen i’r pysgod. Hefyd, mae’n cynnwys cynnal y pysgod a ddaliwyd mewn unedau cadw. Nid yw FIM9 yn ymwneud â dal pysgod gan ddefnyddio dulliau electrobysgota; mae hyn yn cael sylw yn FIM10.
 
Bydd y rhai sy’n dal y pysgod o bysgodfa yn gweithio i’r bysgodfa.
 
Mae’r safon hon yn gofyn am ddefnyddio’r dulliau dal canlynol: 

  1. rhwydi
  2. bachyn a lein
  3. trapiau
  4. draenio i lawr o bwll

     
    Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, a’ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch a lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.
     
    Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n rheoli cymhwyso’r safon hon yn amrywio yn ôl lleoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyflawni’r holl weithgareddau sy’n ofynnol i ddal pysgod o bysgodfa yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol 
  2. dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith sy’n ofynnol
  3. cael y fanyleb sy’n ofynnol i ddal pysgod
  4. cael y trwyddedau/hawlenni angenrheidiol (os oes eu hangen) i ganiatáu am ddal pysgod
  5. asesu amodau’r dŵr (h.y. gwelededd, llif y dŵr, dyfnder) i bennu’r dull dal mwyaf priodol i’w ddefnyddio
  6. paratoi a chynnal a chadw cyfarpar dal pysgod yn unol â safon ofynnol y bysgodfa
  7. paratoi unedau cadw pysgod i dderbyn a chynnal cyflwr y pysgod sy’n cael eu dal
  8. defnyddio dulliau dal perthnasol i ddal pysgod
  9. sefydlu’r pysgod yn ddiogel mewn uned(au) cadw pysgod
  10. trin pysgod sydd wedi’u dal mewn ffordd sy’n lleihau straen
  11. monitro a gwylio’r pysgod a rhoi gwybod i’r person priodol am arwyddion o straen, trafferth neu annormaledd
  12. gwylio perfformiad y weithred dal pysgod, gan sicrhau cydymffurfedd â’r fanyleb berthnasol ar gyfer dal pysgod
  13. cynnal cyfathrebu effeithiol â phawb sy’n ymwneud â dal pysgod
  14. rhoi gwybod i’r person priodol am unrhyw broblemau â’r weithred dal pysgod
  15. diheintio a storio cyfarpar dal pysgod ar ôl eu defnyddio, yn unol â gofynion y bysgodfa a gofynion cyfreithiol
  16. cynnal lefelau addas o fioddiogelwch wrth ddal pysgod o’r bysgodfa

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol sy’n gysylltiedig â dal pysgod a defnyddio dulliau cadw
  2. y dulliau cyfreithiol perthnasol o ddal pysgod a’r gwahanol sefyllfaoedd pan y gellir eu defnyddio
  3. pam mae pysgod yn cael eu dal fel rhan o weithrediadau rheoli pysgodfeydd
  4. sut, pryd ac i bwy y mae angen gwneud cais am gydsyniad i ddal pysgod
  5. sut i bennu’r dulliau mwyaf priodol o ddal pysgod i’r bysgodfa ac amodau’r dŵr
  6. y cyfarpar dal pysgod y mae angen ei ddefnyddio mewn pysgodfa
  7. sut i baratoi a chynnal a chadw cyfarpar priodol ar gyfer dal pysgod mewn cyflwr gweithredu diogel
  8. sut a phryd y gall cyfarpar dal pysgod wneud niwed i bysgod
  9. yr amodau amgylcheddol sy’n ofynnol ar gyfer cadw pysgod wedi’u dal
  10. manteision ac anfanteision gwahanol ddulliau dal pysgod a’u defnydd mewn gwahanol sefyllfaoedd
  11. sut gall gwahanol ddulliau dal pysgod effeithio ar yr amgylchedd dyfrol
  12. effaith bosibl amodau amgylcheddol andwyol ar y weithred dal pysgod
  13. sut i adnabod cyflwr pysgod (golwg corfforol a symudedd)
  14. pwysigrwydd bioddiogelwch a’i rôl o ran lleihau risgiau i’r bysgodfa.

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Dulliau dal:
·        rhwydi
·        bachyn a llinell
·        trapiau
·        draenio i lawr o bwll


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFiM8

Galwedigaethau Perthnasol

Tywysydd Pysgota, Rheolwr Pysgodfa, Uwch Reolwr Pysgodfa

Cod SOC

1212

Geiriau Allweddol

pysgodfeydd, dadansoddi, colau, data, poblogaeth