Sefydlu gweithdrefnau i reoli risg i weithgareddau mewn pysgodfa

URN: LANFiM8
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â sefydlu gweithdrefnau i reoli risg i weithgareddau mewn pysgodfa. Mae'n cynnwys adnabod y risg posibl y mae pysgodfa'n ei wynebu a'r gwaith o sefydlu gweithdrefnau priodol i gynorthwyo'r gwaith o fonitro pysgodfa. Mae'n ymwneud â sefydlu gweithdrefnau i ymdrin â digwyddiadau o weithgaredd pysgota heb awdurdod.

Mae'r safon hon yn gofyn am y gallu i gynghori a chyfathrebu â chydweithwyr a'r cyhoedd a'r gallu i gael cyngor gan awdurdodau gorfodi perthnasol.

Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn rheoli'r gwaith o gymhwyso'r safon hon yn amrywio yn dibynnu ar leoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. coladu a dadansoddi gwybodaeth gan ffynonellau perthnasol i sefydlu gweithdrefnau er mwyn rheoli risg i weithgareddau mewn pysgodfa
  2. pennu'r risg posibl a gyflwynir i'r bysgodfa yn sgil pysgota heb awdurdod
  3. sefydlu gweithdrefnau i reoli gweithgareddau pysgota, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol a risg sydd wedi'i asesu
  4. sefydlu gweithdrefnau i ymdrin â digwyddiadau o weithgareddau pysgota heb awdurdod yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
  5. cadarnhau bod yr holl weithdrefnau yn bodloni â'r gofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol, bioddiogelwch â'r gofynion cyfreithiol perthnasol eraill
  6. cyfathrebu gweithdrefnau i bawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithredu
  7. sefydlu systemau effeithiol ar gyfer adrodd a chofnodi gweithgareddau yn y bysgodfa
  8. nodi a sefydlu'r adnoddau sy'n ofynnol i reoli risg i weithgaredd pysgota yn effeithiol
  9. cadarnhau bod diogelwch y bysgodfa'n cael ei gynnal yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u sefydlu
  10. cael cyngor gan yr awdurdodau gorfodi priodol pan fo angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn gysylltiedig â rheoli gweithgareddau pysgodfa
  2. pwerau, breintiau, dyletswyddau a chyfrifoldebau beilïau, swyddogion pysgodfeydd ac awdurdodau gorfodi, sy'n berthnasol i sefydlu gweithdrefnau rheoli risg i weithgareddau mewn pysgodfa
  3. sut i bennu'r risg i bysgodfa a gyflwynir gan weithgaredd pysgota heb awdurdod
  4. sut i sefydlu gweithdrefnau i reoli risg i weithgareddau yn y bysgodfa ac ymdrin â digwyddiadau o bysgota heb awdurdod
  5. pwysigrwydd sicrhau bod gweithdrefnau i reoli risg i'r gweithgareddau yn y bysgodfa yn cael eu cyfathrebu i bawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithredu
  6. pwysigrwydd sicrhau bod diogeledd pysgodfa'n cael ei gynnal yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u sefydlu
  7. yr arwyddion sydd yn nodi pysgota heb awdurdod ac anghyfreithlon a sut i adnabod y rhain
  8. y cyfnodau o'r flwyddyn pan mae pysgod fwyaf agored i niwed yn sgil gweithgaredd pysgota heb awdurdod ac anghyfreithlon
  9. y dyfeisiadau y gellir eu defnyddio i atal pysgota heb awdurdod
  10. nodweddion eich pysgodfa, yn cynnwys ei lleoliadau a'i chynefinoedd agored i niwed
  11. sut i ymdrin yn gyfreithiol â digwyddiadau o bysgota heb awdurdod
  12. y ffordd y mae cynefinoedd yn cael eu niweidio gan weithgareddau pysgota
  13. ble i gael cyngor am sefydlu gweithdrefnau i reoli risg i weithgareddau mewn pysgodfa
  14. sut i sefydlu systemau cofnodi ac adrodd
  15. yr asiantaethau sydd yn gysylltiedig â gorfodi pysgodfeydd a'r ffordd y mae'r rhain yn rhyngweithio â'i gilydd
  16. y gofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol, bioddiogelwch a'r gofynion cyfreithiol perthnasol eraill sy'n ymwneud â rheoli risg i weithgareddau mewn pysgodfa

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFiM13

Galwedigaethau Perthnasol

Arolygwr, Perchennog/Rheolwr, Prif Feili, Rheolwr Pysgodfa, Uwch Reolwr Pysgodfa, Swyddog Datblygu Pysgodfeydd

Cod SOC

3565

Geiriau Allweddol

pysgodfa, monitro, deddfwriaeth, cydymffurfio