Rheoli digwyddiadau lle mae amheuaeth o bysgota heb awdurdod
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli digwyddiadau lle mae amheuaeth o bysgota heb awdurdod. Mae’n cynnwys defnyddio adnoddau i ymchwilio, a lle y bo’n briodol, ymdrin â digwyddiadau o bysgota heb awdurdod. Mae’n cynnwys defnyddio cyfathrebu effeithiol, cadw cofnodion cywir a chysylltu ag awdurdodau gorfodi, lle y bo’n briodol.
Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â gofynion iechyd a diogelwch cyfreithiol perthnasol a’ch bod yn sicrhau bod eich gweithgaredd yn cynnal bioddiogelwch ac yn lleihau amharu amgylcheddol bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn rheoli cymhwyso’r safon yn yn amrywio yn dibynnu ar leoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud yr holl weithgareddau sy'n ofynnol i reoli digwyddiadau lle mae amheuaeth o bysgota heb awdurdod yn ddiogel, yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith, fel y bo angen
- rheoli digwyddiadau lle mae amheuaeth o bysgota heb awdurdod o fewn terfynau eich awdurdod, heb roi eich hun na phobl eraill mewn perygl
- rheoli'r gwaith o gasglu tystiolaeth yn ymwneud â digwyddiadau lle mae amheuaeth o bysgota heb awdurdod
- cysylltu â'r awdurdodau gorfodi perthnasol wrth nodi digwyddiadau lle mae amheuaeth o bysgota heb awdurdod
- rheoli adnoddau i nodi ac ymdrin â digwyddiadau lle mae amheuaeth o bysgota heb awdurdod
- paratoi a chynnal cofnodion ac adroddiadau tystiolaeth yn ymwneud â'r holl ymchwiliadau o ddigwyddiadau lle mae amheuaeth o bysgota heb awdurdod a chyfathrebu â phobl, sefydliadau ac awdurdodau gorfodi perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â rheoli digwyddiadau o bysgota heb awdurdod
- y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn rheoli pysgodfeydd a gweithgaredd pysgota
- sut i adnabod digwyddiadau o bysgota heb awdurdod ac yn anghyfreithlon
- sut i reoli digwyddiadau lle mae amheuaeth o bysgota heb awdurdod
- pwerau, breintiau, dyletswyddau a chyfrifoldebau beilïau, swyddogion pysgodfeydd a'r awdurdodau gorfodi perthnasol sydd yn gysylltiedig â rheoli pysgodfeydd
- sut, pryd a phwy sydd yn gallu arestio wrth ymateb i ddigwyddiadau lle mae amheuaeth o bysgota heb awdurdod
- pryd i gysylltu ag awdurdodau gorfodi wrth reoli digwyddiadau lle mae amheuaeth o bysgota heb awdurdod
- sut i gasglu, cofnodi ac adrodd tystiolaeth o bysgota heb awdurdod, a phwysigrwydd cywirdeb yn y materion hyn i gefnogi erlyniadau
- pwysigrwydd bod yn ddiduedd wrth gasglu tystiolaeth o bysgota heb awdurdod
- pwysigrwydd bod yn broffesiynol wrth reoli digwyddiadau lle mae amheuaeth o bysgota heb awdurdod
- y broses gyfreithiol berthnasol i'w dilyn fel rhan o erlyniad pysgota heb awdurdod, a sut i baratoi ar gyfer achos
- terfynau eich awdurdod chi yn rheoli digwyddiadau lle mae amheuaeth o bysgota heb awdurdod
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Pysgota anghyfreithlon
Unrhyw weithgaredd pysgota sydd yn torri rheolau deddfwriaeth bysgota
Awdurdodau gorfodi
Y Sefydliad Rheoli Morol (MMO), yr EA, SEPA, yr heddlu, byrddau pysgodfeydd