Rhoi cyngor a gwybodaeth i bysgotwyr am bysgodfa

URN: LANFiM5
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi cyngor a gwybodaeth i bysgotwyr am bysgodfa. Mae'n cynnwys gweithgareddau i sicrhau bod pysgotwyr yn cydymffurfio â'r rheoliadau pysgodfeydd yn ogystal â rhoi cyngor a gwybodaeth am nodweddion y bysgodfa, ffactorau amgylcheddol, y dulliau pysgota, iechyd a diogelwch, gofynion cyfreithiol rheoli pysgota â'r dulliau trin a rhyddhau pysgod.

Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â gofynion iechyd a diogelwch cyfreithiol perthnasol a'ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch ac yn amharu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd bob amser.

Bydd y ddeddfwriaeth sydd yn rheoli cymhwyso'r safon hon yn amrywio yn dibynnu ar leoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud yr holl weithgareddau sy'n ofynnol i roi cyngor a gwybodaeth yn ddiogel i bysgotwyr am bysgodfa, yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. cadarnhau bod pysgotwyr yn cydymffurfio â'r rheoliadau a gofynion pysgodfa
  3. rhoi cyngor a gwybodaeth i bysgotwyr am nodweddion pysgodfa, y dulliau pysgota priodol a phwysigrwydd bioddiogelwch ar y bysgodfa
  4. cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol bob amser, gan ddefnyddio y dulliau priodol
  5. cynorthwyo pysgotwyr mewn ffordd gwrtais a moesgar
  6. cynnal gwybodaeth gywir i gadw cofnodion wedi'u diweddaru o weithgaredd pysgota a daliadau.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â physgota ar bysgodfa
  2. y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol sydd yn rheoli pysgodfeydd bras a physgod hela
  3. y gofynion caniatâd sydd yn rheoli mynediad i'r bysgodfa
  4. nodweddion glannau a dyfrol y bysgodfa
  5. sut i hysbysu pysgotwyr ynghylch y peryglon iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â'r bysgodfa
  6. y mathau o bysgod sydd yn bresennol yn y bysgodfa
  7. perfformiad blaenorol a phresennol y bysgodfa
  8. y dulliau pysgota sydd yn cyd-fynd orau ag amodau presennol y bysgodfa
  9. sut i ddal, trin a rhyddhau pysgod i achosi'r straen a'r niwed lleiaf posibl
  10. agweddau ymddygiad pysgod sydd yn arwyddocaol i bysgota, yn cynnwys ymddygiad bwydo
  11. sut gall ffactorau amgylcheddol ddylanwadu ar  bysgota
  12. pam y mae'n bwysig cadw cofnodion pysgodfa
  13. y dulliau o gyfathrebu y gellir eu defnyddio i roi cyngor a gwybodaeth am bysgodfa
  14. pwysigrwydd bioddiogelwch a'i rôl yn lleihau'r risg i'r bysgodfa

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Dulliau cyfathrebu:

  • Cyfryngau cymdeithasol
  • Arwyddion a hysbysiadau
  • Llafar

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFiM6

Galwedigaethau Perthnasol

Arolygwr, Gwas Pysgota, Tywysydd Pysgota, Beili/Warden, Prif Feili, Rheolwr Pysgodfa, Uwch Reolwr Pysgodfa

Cod SOC

3565

Geiriau Allweddol

pysgodfa, pysgotwyr, cyngor, gwybodaeth, rheoliadau