Rhoi cyngor a gwybodaeth i enweirwyr mewn pysgodfa

URN: LANFiM5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2018

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rhoi cyngor a gwybodaeth i enweirwyr mewn pysgodfa. Mae’n cwmpasu gweithgareddau i sicrhau bod genweirwyr yn cydymffurfio â rheoliadau pysgodfeydd ynghyd â darparu cyngor a gwybodaeth am nodweddion y bysgodfa, ffactorau amgylcheddol, dulliau pysgota, iechyd a diogelwch, gofynion cyfreithiol sy’n rheoli genweirio a dulliau o drin a rhyddhau pysgod. 
 
Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, a’ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch a lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.
 
Bydd y ddeddfwriaeth sy’n rheoli cymhwyso’r safon hon yn amrywio yn ôl lleoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyflawni’r holl weithgareddau sy’n ofynnol i ddarparu cyngor a gwybodaeth i enweirwyr mewn pysgodfa yn ddiogel, yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. cadarnhau bod genweirwyr yn cydymffurfio â rheoliadau a gofynion pysgodfa
  3. rhoi cyngor a gwybodaeth i enweirwyr ar nodweddion y bysgodfa, dulliau pysgota priodol a phwysigrwydd bioddiogelwch yn y bysgodfa
  4. cyfathrebu’n glir ac yn effeithiol bob amser, gan ddefnyddio dulliau priodol
  5. cynorthwyo genweirwyr yn gwrtais
  6. cynnal gwybodaeth gywir i gadw cofnodion cyfredol am weithgarwch pysgota a daliadau.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sy’n gysylltiedig â genweirio mewn pysgodfa
  2. y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli pysgodfeydd pysgod hela a physgod bras
  3. gofynion hawlenni sy’n rheoli mynediad i’r bysgodfa
  4. nodweddion glan afon a dyfrol y bysgodfa
  5. sut i roi gwybod i enweirwyr am y peryglon iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â’r bysgodfa
  6. y mathau o bysgod sy’n bresennol yn y bysgodfa
  7. perfformiad blaenorol a phresennol y bysgodfa
  8. y dulliau genweirio sy’n fwyaf addas i amodau presennol y bysgodfa
  9. sut i ddal, trin a rhyddhau pysgod i leihau’r straen a’r difrod iddynt
  10. yr agweddau ar ymddygiad pysgod sy’n arwyddocaol i enweirio, gan gynnwys ymddygiad bwydo
  11. sut gall ffactorau amgylcheddol ddylanwadu ar enweirio
  12. pam mae’n bwysig cynnal cofnodion pysgodfa
  13. dulliau o gyfathrebu y gellir eu defnyddio i roi cyngor a gwybodaeth am bysgodfa
  14. pwysigrwydd bioddiogelwch a’i rôl o ran lleihau risgiau i’r bysgodfa

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Dulliau cyfathrebu:

  • Y cyfryngau cymdeithasol
  • Arwyddion a hysbysiadau
  • Ar lafar

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFiM5

Galwedigaethau Perthnasol

Arolygydd, Tywysydd Pysgota, Beili/Warden, Prif Feili, Rheolwr Pysgodfa, Uwch Reolwr Pysgodfa

Cod SOC

1212

Geiriau Allweddol

pysgodfa, genweirwyr, cyngor, gwybodaeth, rheoliadau