Cynnal a gwella cynefinoedd pysgodfeydd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal a gwella cynefinoedd pysgodfeydd. Mae’n cwmpasu cynnal twf planhigion dyfrol a glan afon i gynorthwyo â rheoli pysgodfeydd a chymryd camau i wella’r cynefin dyfrol, glan afon a mewnffrwd. Mae’n cynnwys defnyddio offer a chyfarpar a gweithio mewn modd sy’n lleihau tarfu ar yr amgylchedd gan ddefnyddio tasgau arferol ac anarferol.
Mae’r safon hon yn gofyn am y gallu i ddefnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar, ac mae hefyd yn gofyn am y gallu i wella nodweddion cynefin trwy gael gwared ar silt, creu strwythurau dyfrol, atgyweirio glannau afon a gwaredu rhwystrau.
Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, a’ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch a lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth sy’n rheoli cymhwyso’r safon hon yn amrywio yn ôl lleoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflawni’r holl weithgareddau sy’n ofynnol i gynnal a gwella cynefin pysgodfeydd yn ddiogel, yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith sy’n ofynnol
- cael cydsyniad gan yr awdurdodau perthnasol ar gyfer gwaith gwella cynefin y pysgodfeydd (os oes angen)
- cael gofynion a manylebau pysgodfeydd ar gyfer gwaith cynnal a chadw a gwella cynefin pysgodfeydd
- dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer, cyfarpar ac adnoddau priodol yn unol â safon ofynnol y bysgodfa
- cynnal llystyfiant dyfrol a thorlannol i fodloni gofynion penodedig cynefin y pysgodfeydd
- cynnal gweithgareddau i wella nodweddion cynefin y pysgodfeydd er mwyn bodloni gofynion penodedig
- cwblhau’r gwaith mewn modd sy’n achosi’r tarfu lleiaf ar yr amgylchedd
- datrys unrhyw anawsterau a gafwyd yn ystod gwaith cynnal a chadw, o fewn lefelau eich awdurdod
- datrys a rheoli unrhyw broblemau o ran rhywogaethau goresgynnol a gwarchodedig
- gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
- cynnal y lefelau bioddiogelwch gofynnol wrth gynnal a chadw a gwella cynefin pysgodfeydd
- cynnal gwybodaeth gywir i gadw cofnodion cyfredol am y gwaith cynnal a chadw a gwella a gwblhawyd.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sy’n gysylltiedig â rheoli cynefin pysgodfeydd
- pwysigrwydd rheoli cynefin i bysgodfeydd
- nodweddion biolegol, ffisegol a chemegol cynefin y pysgodfeydd sy’n cael ei gynnal a chadw a’i wella
- pa welliannau i gynefin pysgodfeydd y mae’n rhaid cael cydsyniad ar eu cyfer
- pam y caiff llystyfiant ei reoli
- y dulliau sy’n cael eu defnyddio i reoli llystyfiant (e.e. torri, adfywio naturiol, plannu)
- pam mae’n bwysig lleihau tarfu ar yr amgylchedd dyfrol yn ystod gweithgareddau cynnal a chadw
- effeithiau gorchudd canopi ar gynefinoedd pysgodfeydd
- pwysigrwydd llystyfiant ymylon i gynefinoedd pysgodfeydd
- y rheoliadau cyfreithiol perthnasol ar weithgareddau rheoli cynefin, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â safleoedd dynodedig
- ble a phryd y gellir defnyddio cemegion i reoli llystyfiant ar bysgodfa a’r goblygiadau cysylltiedig
- achosion cyffredin difrod i lan afon
- pam mae’n bwysig rheoli erydiad glannau afon mewn pysgodfa
- sut gellir defnyddio bwrdd sgwrio i waredu silt o afon neu nant
- sut i adnabod rhywogaethau planhigion cyffredin gan ddefnyddio allweddi adnabod
- sut i adnabod infertebratau cyffredin
- sut i sicrhau bod tramwy pysgod yn briodol er mwyn caniatáu i bysgod symud yn rhydd yn ddirwystr
- y mathau o rywogaethau goresgynnol a gwarchodedig a’u heffaith ar gynefin glan yr afon ac ar gynefin pysgodfeydd
- pwysigrwydd bioddiogelwch a’i rôl o ran lleihau risgiau i gynefin pysgodfeydd
- cyfrifoldebau torlannol am reoli cynefinoedd
- y dulliau cywir o waredu deunydd dros ben neu wastraff
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Goblygiadau cysylltiedig defnyddio cemegion
Llai o fwyd a chynefin i bysgod ac anifeiliaid dyfrol eraill.
Dynodiad
Dosbarthiadau sy’n cael eu cymhwyso i ardaloedd o dir e.e. SoDdGA, SPAN.B
Torlannol
Gwlypdiroedd wrth ymyl afonydd a nentydd