Monitro cynefin pysgodfeydd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro cynefin pysgodfeydd. Mae’n cynnwys deall manylebau cynefinoedd, casglu gwybodaeth ac adrodd am gynefinoedd, gan gynnwys cyflwr cynefinoedd dyfrol, glan afon, clustogfeydd a swbstrad, sy’n cynnwys tasgau arferol ac anarferol.
Mae’r safon hon yn gofyn bod y canlynol yn cael eu monitro o fewn cynefin y bysgodfa:
- dyfnder y dŵr
- llif/cyfnewid dŵr
- llystyfiant glan afon
- llystyfiant dyfrol
- gorchudd canopi
- siltio
- infertebratau dyfrol
- rhywogaethau goresgynnol
- rhywogaethau gwarchodedig.
Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, a’ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch a lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth sy’n rheoli cymhwyso’r safon hon yn amrywio yn ôl lleoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflawni’r holl weithgareddau sy’n ofynnol i fonitro cynefin y pysgodfeydd yn ddiogel, yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith sy’n ofynnol
- cael manyleb arolwg arfaethedig y cynefin a’r caniatadau perthnasol, yn ôl gofynion y safle
- cadarnhau mynediad i’r bysgodfa yn unol â pherchnogaeth y dorlan a’r bysgodfa
- monitro a chofnodi cyflwr cynefin y bysgodfa
- samplu a chofnodi manylion poblogaethau infertebratau a chymunedau planhigion dyfrol
- gweithredu er mwyn rhoi gwybod am bresenoldeb rhywogaethau gwarchodedig neu rywogaethau goresgynnol yn unol â gofynion deddfwriaeth
- casglu samplau cynrychiolaidd i nodi cyflyrau amgylcheddol yn gywir yn y corff dŵr
- monitro ac adrodd ar ddylanwadau sy’n effeithio ar y bysgodfa
- dilyn protocolau perthnasol pysgodfeydd ar gyfer monitro cynefinoedd pysgodfeydd
- cynnal lefelau bioddiogelwch priodol wrth fonitro cynefin pysgodfeydd
- cynnal gwybodaeth gywir i gadw cofnodion cyfredol am gynefin pysgodfeydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sy’n gysylltiedig â monitro cynefin pysgodfeydd
- sut i fonitro cynefin pysgodfeydd gan ddefnyddio systemau cydnabyddedig
- y gwahanol fathau o gynefinoedd dyfrol a’r pysgodfeydd maent yn eu cefnogi
- y ffactorau a all ddylanwadu ar gyflwr y cynefin dyfrol (dynol ac amgylcheddol)
- rôl cynefin glan afon wrth gynnal pysgodfa
- y gofynion cynefin ar gyfer gwahanol gamau bywyd pysgod
- y ffactorau sy’n dylanwadu ar fwyd sydd ar gael mewn pysgodfa
- sut i adnabod infertebratau cyffredin
- sut i adnabod rhywogaethau planhigion cyffredin gan ddefnyddio allweddi adnabod
- arwyddocâd infertebratau dyfrol i bysgodfa
- y ffactorau a all ddylanwadu ar silio mewn pysgodfa
- achosion tebygol difrod i lan afon
- dylanwad gorchudd y canopi ar bysgodfa
- dynodiadau safle a’r amddiffyniadau a’r cyfyngiadau sy’n cael eu cynnig gan y rhain
- y planhigion o fewn y bysgodfa y mae angen eu hamddiffyn rhag pobl a physgod
- sut i sicrhau bod tramwy pysgod yn briodol er mwyn caniatáu i bysgod symud yn rhydd yn ddirwystr
- yr hawliau torlannol a’r hawliau perchnogaeth pysgodfeydd perthnasol a sut maent yn amrywio
- y mathau o rywogaethau goresgynnol a gwarchodedig a’u heffaith ar lan yr afon ac ar gynefin y pysgodfeydd
- sut i roi gwybod am rywogaethau goresgynnol a gwarchodedig
- pwysigrwydd bioddiogelwch a’i rôl o ran lleihau risgiau i’r bysgodfa.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dylai’r diffiniadau isod eich helpu i ddeall y safon:
Glan afon
Ardal o dir, gan gynnwys y lan wrth ymyl y dŵr a brig yr ardal hon
Clustogfa
Yr ardal o frig y lan i’r newid mawr mewn llystyfiant torlannol neu’r ffin atal stoc
Gorchudd canopi
Ardal wlyb dan orchudd canopïau coed neu lwyni
Dynodiad
Dosbarthiadau sy’n cael eu cymhwyso i ardaloedd o dir e.e. SoDdGA, SPAN.B
Amodau cynefin:
- dyfnder dŵr
- llif/cyfnewid dŵr
- llystyfiant glan afon
- llystyfiant dyfrol
- gorchudd canopi
- siltio
- infertebratau dyfrol
rhywogaethau goresgynnol
Torlannol
Gwlypdiroedd wrth ymyl afonydd a nentydd