Ymateb i achosion o bysgod marw
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu ymateb i achosion o bysgod marw trwy symud a gwaredu pysgod sydd wedi marw, cymryd camau i leihau neu symud yr achosion o bysgod marw a gweithio i atal mwy o farwolaethau pysgod. Mae'n cynnwys y gallu i weithio gyda phobl eraill.
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol ac iechyd a diogelwch perthnasol a'ch bod yn cynnal bioddiogelwch ac yn amharu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn rheoli'r gwaith o gymhwyso'r safon hon yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud yr holl weithgareddau sy'n ofynnol i ymateb yn ddiogel i achosion o bysgod marw, yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- monitro achosion o bysgod marw i bennu natur ac achos tebygol straen neu farwolaeth pysgod ac adrodd i'r awdurdod priodol
- dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith sydd yn ofynnol
- paratoi a chynnal a chadw cyfarpar i'r safon ofynnol ar gyfer ymateb i achosion o bysgod marw
- defnyddio cyfarpar i reoli a lleihau effaith yr achosion o bysgod marw
- paratoi unedau cadw i dderbyn a chynnal cyflwr pysgod byw sydd wedi eu dal o'r achosion o bysgod marw
- defnyddio dulliau dal i ddal a symud pysgod byw yn effeithiol, fel y bo'n briodol
- cael a labelu samplau yn gywir o'r achosion pysgod marw er mwyn cefnogi ymchwiliadau
- monitro ac arsylwi effaith ymyriadau i atal achosion pellach o bysgod marw
- gwaredu pysgod marw a gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol, amgylcheddol a sefydliadol
- cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch wrth ymateb i ddigwyddiadau o bysgod marw
- glanhau a storio cyfarpar dal pysgod ar ôl ei ddefnyddio
- cadw gwybodaeth gywir er mwyn cadw cofnodion am achosion o bysgod marw wedi eu diweddaru
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig ag ymateb i achosion o bysgod marw
- y cyfarpar sydd yn ofynnol i ymateb i achosion o bysgod marw
- pwysigrwydd defnyddio'r cyfarpar diogelu personol (PPE) cywir
- achosion straen neu farwolaeth pysgod a pham y mae'n bwysig adrodd i'r awdurdod priodol
- y ffordd y gall blodau algaidd achosi straen mewn pysgod
- sut i adnabod straen mewn pysgod
- sut i adnabod clefydau cyffredin pysgod
- beth sy'n cael ei ddosbarthu fel achos o bysgod marw
- rolau a chyfrifoldebau'r asiantaethau sydd yn gyfrifol am ymdrin ag achosion o bysgod marw
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch yn ystod achosion o bysgod marw
- sut i ymateb i achosion o bysgod marw
- sut i adrodd am bysgod marw gan ddilyn gweithdrefnau a gofynion eich sefydliad
- achosion cyffredin llygredd a'r dulliau a ddefnyddir i leihau ei effaith ar bysgod byw a'r amgylchedd
- awyriad a'i ddefnydd mewn ymatebion i bysgod marw
- sut i gasglu, storio ac anfon samplau dŵr yn ogystal â samplau o bysgod byw a marw
- y gofynion cyfreithiol, amgylcheddol a sefydliadol perthnasol sydd yn rheoli gwaredu gwastraf o achosion o bysgod marw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Achosion posibl y digwyddiad pysgod marw yn cynnwys:
- lefelau ocsigen isel
- digwyddiadau o lygru
- rheoli amgylcheddol gwael
- prinder dŵr
- cyfryngau biolegol
- clefydau
Cyfarpar:
- awyriad ysgeintio
- awyriad chwistrelliad aer
- awyriad hydrogen perocsid
- bwmau
- pecynnau gollwng
Ymyriadau
Y camau a gymerir i leihau effaith y digwyddiad e.e. symud pysgod byw, defnyddio awyriad, defnyddio bwmau
Unedau cadw
Cyfarpar a ddefnyddir i gadw pysgod byw e.e. bwcedi, biniau, tanciau ac ati