Rheoli’r gwaith o roi cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar waith ac asesu’r effaith ar y bysgodfa
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r gwaith o roi cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar waith ac asesu'r effaith ar y bysgodfa, tra'n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol perthnasol. Mae'n cynnwys monitro ac adrodd am berfformiad y gweithgareddau rheoli wrth bawb sydd yn gysylltiedig.
Mae'r safon hon yn gofyn am y gallu i ymateb i amrywiadau a wneir i gynlluniau rheoli pysgodfeydd.
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau'n ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol ac iechyd a diogelwch perthnasol a'ch bod yn sicrhau bod gwaith yn cynnal bioddiogelwch ac yn amharu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn rheoli'r gwaith o gymhwyso'r safon hon yn amrywio yn dibynnu ar leoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- rheoli'r gwaith o roi cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar waith ar gyfer pysgodfa o fewn cyfyngiadau eich adnoddau
- monitro gweithgareddau rheoli'r pysgodfeydd yn y cynllun i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, sefydliadol ac iechyd a diogelwch perthnasol
- rhoi cymorth i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â rhoi cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar waith
- ymateb i amrywiadau a chyfyngiadau o gynlluniau rheoli pysgodfeydd, gan wneud addasiadau lle bo angen
- asesu effaith cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar y bysgodfa
- parhau i gyfathrebu gyda'r rhanddeiliad er mwyn hwyluso rheolaeth effeithiol o'r bysgodfa
- cadw cofnodion rheoli pysgodfeydd cywir fel sy'n ofynnol gan eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion cyfreithiol perthnasol yn ymwneud â rheoli pysgodfeydd
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sydd yn gysylltiedig â symud a stocio pysgod
- y ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol mewn perthynas â rheoli cynefin yn eich pysgodfa
- hanes bywyd a gofynion cynefin y rhywogaethau pysgod yn eich pysgodfa
- clefydau pysgod cyffredin a dulliau o'u hatal a'u rheoli
- sut i roi cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar waith ar gyfer pysgodfa
- yr adnoddau sy'n ofynnol i roi cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar waith
- dulliau arolygu a ddefnyddir i fonitro pysgodfeydd
- y ffordd y dylid casglu a chofnodi data pysgodfeydd
- y ffordd y gellir gwella stociau pysgod, yn cynnwys defnyddio rhaglenni ailstocio
- dulliau dal pysgod a sut gellir eu defnyddio i reoli pysgod mewn pysgodfa
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sydd yn rheoli symud pysgod
- y camau y gellir eu cymryd i gywiro amrywiadau yn y cynlluniau rheoli pysgodfeydd
- sut i adnabod effaith cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar y bysgodfa
- pwysigrwydd cyfathrebu wrth roi cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar waith a'r asesiad o'u heffaith ar y bysgodfa
- rheoli personél, yn cynnwys rheoli contractwyr mewn pysgodfa
- diogelwch stoc pysgod a'r ffordd y gellir rheoli presenoldeb rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid i gyfyngu eu heffaith ar ecoleg pysgodfa gynhenid
- beth yw stoc pysgod cynaliadwy a beth mae manteisio yn ei olygu
- y gofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol, bioddiogelwch a gofynion cyfreithiol eraill yn ymwneud â rheoli pysgodfeydd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithgareddau rheoli pysgodfeydd:
- cynnal cynefin
- gwella cynefin
- rheoli manteisio cynaliadwy
- rheoli stoc pysgod cynaliadwy
- monitro a chasglu data
- rheoli diogelwch stoc
- bioddiogelwch
Amrywiadau:
dylanwadau dynol
rhyngweithio rhwng ysglyfaethwr/ysglyfaeth
- clefydau
- prinder adnoddau
- dirywiad cynefin
- ymosodiad rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid