Rheoli’r gwaith o weithredu cynlluniau rheoli pysgodfeydd ac asesu’r effaith ar y bysgodfa

URN: LANFiM22
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2018

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli’r gwaith o weithredu cynlluniau rheoli pysgodfeydd ac asesu’r effaith ar y bysgodfa, gan gydymffurfio â gofynion cyfreithiol perthnasol. Mae’n cynnwys monitro a rhoi gwybod am berfformiad y gweithgareddau rheoli i bawb sy’n gysylltiedig.
 
Mae’r safon hon yn gofyn am y gallu i ymateb i amrywiadau a wnaed i gynlluniau rheoli pysgodfeydd.
 
Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau’n ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, a’ch bod yn sicrhau bod gwaith yn cynnal bioddiogelwch ac yn lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.
 
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n rheoli cymhwyso’r safon hon yn amrywio yn ôl lleoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rheoli’r gwaith o weithredu cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar gyfer pysgodfa, o fewn cyfyngiadau eich adnoddau
  2. monitro’r gweithgareddau rheoli pysgodfeydd o fewn y cynllun i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, sefydliadol ac iechyd a diogelwch perthnasol
  3. darparu cymorth i’r rhai sy’n ymwneud â gweithredu’r cynlluniau rheoli pysgodfeydd
  4. ymateb i amrywiadau a chyfyngiadau o’r cynlluniau rheoli pysgodfeydd, gan wneud addasiadau, lle bo angen
  5. asesu effaith y cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar y bysgodfa
  6. cynnal cyfathrebu â’r rhanddeiliad er mwyn hwyluso’r rheolaeth effeithiol ar y bysgodfa
  7. cynnal cofnodion rheoli pysgodfeydd cywir, yn unol â gofynion eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol perthnasol yn gysylltiedig â rheoli pysgodfeydd
  2. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n gysylltiedig â symud a stocio pysgod
  3. y ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol yn gysylltiedig â rheoli cynefin yn eich pysgodfa
  4. hanes bywyd a gofynion cynefin y rhywogaethau pysgod yn eich pysgodfa
  5. clefydau cyffredin pysgod a dulliau atal a rheoli
  6. sut i weithredu cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar gyfer pysgodfa
  7. yr adnoddau sy’n ofynnol i weithredu cynlluniau rheoli pysgodfeydd
  8. dulliau arolwg a ddefnyddir i fonitro pysgodfeydd
  9. sut dylai data pysgodfeydd gael ei gasglu a’i gofnodi
  10. sut gellir gwella stociau pysgod, gan gynnwys defnyddio rhaglenni ailstocio
  11. dulliau dal pysgod a sut gallant gael eu defnyddio i reoli pysgod mewn pysgodfa
  12. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli symudiadau pysgod
  13. y camau y gellir eu cymryd i gywiro amrywiadau o fewn y cynlluniau rheoli pysgodfeydd
  14. sut i adnabod effaith y cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar y bysgodfa
  15. pwysigrwydd cyfathrebu yn ystod gweithredu cynlluniau rheoli pysgodfeydd ac asesu ei effaith ar y bysgodfa
  16. rheoli personél, gan gynnwys rheoli contractwyr mewn pysgodfa
  17. diogelwch stoc pysgod a sut gellir rheoli presenoldeb rhywogaethau estron er mwyn cyfyngu ar eu heffaith ar ecoleg y bysgodfa frodorol
  18. beth yw stoc pysgod cynaliadwy a beth yw ecsploetiaeth
  19. y gofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol, bioddiogelwch a chyfreithiol perthnasol eraill sy’n gysylltiedig â rheoli pysgodfeydd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gweithgareddau rheoli pysgodfeydd:
1. cynnal a chadw cynefin
2. gwella cynefin
3. rheoli ecsploetio cynaliadwy
4. rheoli stoc pysgod yn gynaliadwy
5. monitro a chasglu data
6. rheoli diogelwch stoc
7. bioddiogelwch

Amrywiadau:
dylanwadau dynol
rhyngweithiadau ysglyfaethwr/ysglyfaethau
clefyd
prinder adnoddau
dirywiad cynefin
goresgyniad rhywogaethau estron


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFiM26

Galwedigaethau Perthnasol

Perchennog/Rheolwr, Beili/Warden, Prif Feili, Rheolwr Pysgodfa, Uwch Reolwr Pysgodfa, Swyddog Datblygu Pysgodfeydd

Cod SOC

1212

Geiriau Allweddol

pysgodfeydd; rheoli; cynefin; stoc; data