Gweithredu rhaglenni ar gyfer pysgod sy’n rheoli triniaethau ac yn cynnal eu hiechyd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithredu rhaglenni ar gyfer pysgod sy’n rheoli triniaethau ac yn cynnal eu hiechyd. Mae’n gysylltiedig â chynnal iechyd pysgod, trwy adnabod arwyddion a symptomau abnormaleddau, i gynorthwyo a hyrwyddo triniaeth pysgod trwy raglen driniaeth.
I’w chyflawni, mae’n rhaid i chi ddangos eich bod yn gallu sefydlu rhaglenni cynnal iechyd, cynnal eu gweithrediad effeithiol a rheoli rhaglenni triniaeth, fel y mae meddyg yn eu rhagnodi.
Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, a’ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch a lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n rheoli cymhwyso’r safon hon yn amrywio yn ôl lleoliad y bysgodfa yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflawni gweithgareddau’n ddiogel i weithredu rhaglenni ar gyfer pysgod i reoli triniaethau a chynnal eu hiechyd, yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith sy’n ofynnol
- dewis, paratoi a chynnal a chadw cyfarpar i reoli triniaethau pysgod a chynnal eu hiechyd, i safon ofynnol y bysgodfa
- gweithredu rhaglenni i reoli triniaethau a chynnal iechyd pysgod trwy gynnal amodau amgylcheddol a dwyseddau stocio mewn unedau cadw
- gweithredu rhaglenni iechyd proffylactig i gynnal iechyd pysgod
- adnabod afiechyd a symptomau abnormaledd mewn pysgod i gynorthwyo â diagnosis
- gofyn am gyngor milfeddyg, lle y bo’n briodol, ar sail disgrifiad o symptomau
- lle y bo’n briodol, rhoi gwybod i awdurdodau perthnasol am unrhyw glefydau pysgod hysbysadwy sy’n cael eu darganfod
- gweithredu ar unwaith i leihau effaith bosibl argyfyngau iechyd pysgod
- rheoli’r gwaith o baratoi triniaethau iechyd pysgod yn ôl dosys argymelledig, yn ôl cyfarwyddiadau’r milfeddyg
- rhoi triniaethau iechyd i bysgod yn ôl dosys argymelledig, yn ôl cyfarwyddiadau’r milfeddyg
- rheoli’r gwaith o roi triniaethau er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y stoc pysgod a’r amgylchedd
- cymryd camau brys i gywiro unrhyw effeithiau andwyol y mae triniaethau’n eu hachosi i bysgod
- rheoli gwaredu gwastraff, triniaethau pysgod heb eu defnyddio a thriniaethau pysgod wedi’u defnyddio, yn ddiogel ac yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
- monitro pysgod wedi’u trin er mwyn gwerthuso’u hadferiad ac effeithiolrwydd y triniaethau
- cynnal cofnodion cywir o iechyd pysgod yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol
- cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch addas wrth weithredu rhaglenni ar gyfer pysgod sy’n rheoli triniaethau ac yn cynnal eu hiechyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli rhaglenni cynnal iechyd a defnyddio triniaethau ar gyfer pysgod
- pwysigrwydd defnyddio’r cyfarpar diogelu personol (PPE) cywir
- y cyfarpar sy’n ofynnol i weithredu rhaglenni sy’n rheoli triniaethau pysgod ac yn cynnal eu hiechyd
- pwysigrwydd gweithredu rhaglenni i bysgod sy’n berthnasol i’r triniaethau cywir
- ymddygiad arferol pysgod iach a’r arwyddion o afiechyd neu effeithiau triniaethau
- clefydau cyffredin ac achosion afiechyd yn y rhywogaethau pysgod sy’n cael eu ffermio
- sut olwg sydd ar organau mewnol pysgod a sut gall clefyd newid eu golwg
- pam mae’n hanfodol gweithredu ar unwaith os oes amheuaeth o glefydau pysgod hysbysadwy
- sut i roi gwybod am glefydau pysgod hysbysadwy
- sut caiff iechyd pysgod ei gynnal trwy gymhwyso technegau hwsmonaeth da
- triniaethau iechyd proffylactig a’u cymhwysiad wrth gynnal iechyd pysgod
- argyfyngau iechyd pysgod a sut mae’n bosibl cyfyngu eu heffaith ar stoc fferm bysgod
- y triniaethau cyffredin a ddefnyddir i atal a gwella problemau iechyd mewn pysgod
- cymhwyso triniaethau mewnol ac allanol pysgod yn gywir
- cyfrifiadau dos a phwysigrwydd cywirdeb wrth baratoi triniaethau pysgod
- gofynion rheoli sylweddau peryglus i iechyd (COSHH), a sut maent yn rheoli’r defnydd ar driniaethau pysgod
- sut gall triniaethau pysgod effeithio ar stoc heblaw’r targed ac effeithio ar yr amgylchedd
- sut i gyfrifo cyfnodau cadw o’r gadwyn fwyd
- y rhesymau dros gadw cofnodion iechyd pysgod a phwysigrwydd eu cywirdeb
- pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch a’u rôl o ran lleihau risgiau i’r bysgodfa
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Clefydau hysbysadwy
Clefydau pysgod y mae angen rhoi gwybod i DEFRA/SERAD amdanynt
Proffylactig
Triniaeth ataliol