Stocio pysgod mewn pysgodfa

URN: LANFiM2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2018

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â stocio pysgod mewn pysgodfa. Mae’n cwmpasu trosglwyddo, trin a stocio pysgod yn ddiogel yn ôl y dwysedd stocio gofynnol. Mae’n cynnwys defnyddio dulliau trin sy’n cynnal lles trwy leihau’r straen a achosir i bysgod; mae’n cynnwys tasgau arferol ac anarferol.

Mae’r safon hon yn gofyn bod pysgod yn cael eu stocio mewn modd sy’n briodol i’r amodau amgylcheddol canlynol:

  • tywydd poeth
  • tywydd oer
  • lefel a chyflwr y dŵr
  • y cynefin sydd ar gael.

Mae’r safon hon yn gofyn bod y pysgod fydd yn cael eu stocio yn cael eu nodi yn ôl math o rywogaeth, maint a chyflwr corfforol, ac nad oes clefydau arnynt.

Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, a’ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch a lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.

Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n rheoli cymhwyso’r safon hon yn amrywio yn ôl lleoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyflawni’r holl weithgareddau sy’n ofynnol i stocio pysgod mewn pysgodfa yn ddiogel, yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. paratoi’r cyfarpar trin a throsglwyddo pysgod yn barod i symud y pysgod i bysgodfa yn ddiogel
  3. dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith, fel y bo’n ofynnol
  4. gwirio’r pysgod sydd i’w stocio i sicrhau eu bod mewn cyflwr priodol i’w rhyddhau
  5. trin pysgod mewn modd sy’n lleihau straen
  6. trosglwyddo a chynefino pysgod mewn ffordd sy’n lleihau straen ac sy’n cyfrif am yr amodau amgylcheddol sydd ohoni
  7. dosbarthu pysgod o fewn y bysgodfa yn ôl y dwysedd stocio gofynnol, yn ôl y fanyleb ar gyfer stocio pysgod
  8. cynnal y cyfarpar trin pysgod mewn cyflwr defnyddiol trwy gydol y broses stocio
  9. arsylwi ymddygiad y pysgod newydd eu stocio ac ymateb i unrhyw arwyddion o straen neu helynt
  10. diheintio a storio cyfarpar trin pysgod ar ôl eu defnyddio
  11. gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
  12. cynnal y lefelau hylendid a bioddiogelwch gofynnol wrth stocio pysgod mewn pysgodfa
  13. cynnal gwybodaeth gywir er mwyn cadw cofnodion stocio cyfredol.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sy’n gysylltiedig â stocio pysgod mewn pysgodfa
  2. sut i gynnal lles y pysgod yn ystod eu stocio mewn pysgodfa
  3. pam mae angen cynefino pysgod cyn eu rhyddhau
  4. sut i gynefino pysgod i sicrhau’r gyfradd oroesi fwyaf
  5. sut i drosglwyddo pysgod, gan ddefnyddio rhwydi a saethau, i sicrhau’r gyfradd oroesi fwyaf
  6. sut gall amodau amgylcheddol andwyol (tywydd, amodau’r dŵr) effeithio ar y weithred stocio
  7. pwysigrwydd cyflawni’r dwysedd stocio gofynnol, yn ôl y fanyleb ar gyfer stocio pysgod
  8. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli symud a stocio pysgod
  9. arwyddion o straen neu helynt ymhlith pysgod
  10. nodweddion ffisegol ac amodau amgylcheddol pysgodfa sy’n gallu effeithio ar lefelau stocio
  11. pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch a’u rôl o ran lleihau risgiau i’r bysgodfa
  12. y dulliau cywir o waredu deunydd dros ben a/neu wastraff

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Amodau amgylcheddol:

  • tywydd poeth
  • tywydd oer
  • lefel a chyflwr y dŵr
  • y cynefin sydd ar gael.

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFiM2

Galwedigaethau Perthnasol

Arolygydd, Tywysydd Pysgota, Beili/Warden, Prif Feili, Rheolwr Pysgodfa

Cod SOC

1212

Geiriau Allweddol

stocio; pysgod; pysgodfa; trosglwyddo; trin; dŵr