Cyflenwi pysgod mewn pysgodfa
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflenwi pysgod mewn pysgodfa. Mae'n cynnwys trosglwyddo yn ddiogel, ymdrin a chyflenwi pysgod ar y dwysedd cyflenwi gofynnol. Mae'n cynnwys cymhwyso dulliau ymdrin sydd yn cynnal lles trwy leihau'r straen ar y pysgod; mae'n cynnwys tasgau arferol ac anarferol.
Mae'r safon hon yn gofyn bod y pysgod yn cael eu cyflenwi mewn ffordd sydd yn briodol i'r amodau amgylcheddol canlynol:
- tywydd poeth
- tywydd oer
- lefel a chyflwr y dŵr
- cynefin sydd ar gael.
Mae'r safon hon yn gofyn bod y pysgod sydd yn cael eu cyflenwi yn cael eu nodi yn ôl math o rywogaeth, maint a chyflwr corfforol a'u bod yn rhydd rhag clefydau.
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud eich gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol ac iechyd a diogelwch perthnasol a'ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch ac yn amharu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn rheoli'r gwaith o gymhwyso'r safon hon yn dibynnu ar leoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud yr holl weithgareddau sydd yn ofynnol i gyflenwi pysgod yn ddiogel mewn pysgodfa, yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- paratoi'r cyfarpar ymdrin a throsglwyddo pysgod yn barod ar gyfer symud y pysgod yn ddiogel i bysgodfa
- dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith, fel y bo angen
- gwirio'r pysgod i gael eu cyflenwi er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr priodol i gael eu rhyddhau
- ymdrin â physgod mewn ffordd sydd yn lleihau straen
- trosglwyddo a chynefino pysgod mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn rhoi cyfrif am amodau amgylcheddol cyffredin
- dosbarthu pysgod yn y bysgodfa yn unol â'r dwysedd cyflenwi gofynnol, yn unol â'r fanyleb ar gyfer cyflenwi pysgod
- cadw'r cyfarpar trin pysgod mewn cyflwr gweithredol trwy gydol y broses gyflenwi
- sylwi ar ymddygiad pysgod sydd newydd eu cyflenwi ac ymateb i unrhyw arwyddion o straen neu anhwylder
- diheintio a storio cyfarpar trin pysgod ar ôl ei ddefnyddio
- gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
- cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch gofynnol wrth gyflenwi pysgod mewn pysgodfa
- cynnal gwybodaeth gywir er mwyn cadw cofnodion diweddar o'r cyflenwi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â chyflenwi pysgod mewn pysgodfa
- sut i gynnal lles pysgod wrth gyflenwi mewn pysgodfa
- pam mae angen cynefino pysgod cyn eu rhyddhau
- sut i gynefino pysgod i gynyddu eu cyfradd goroesi
- sut i drosglwyddo pysgod, gan ddefnyddio rhwydi a nofrwydi, i gynyddu eu cyfraddau goroesi
- y ffordd y gall amodau amgylcheddol niweidiol (tywydd, amodau'r dŵr) effeithio ar y gweithrediad cyflenwi
- pwysigrwydd cyflawni'r dwysedd cyflenwi gofynnol, yn unol â'r fanyleb ar gyfer cyflenwi pysgod
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sydd yn rheoli symud a chyflenwi pysgod
- arwyddion sydd yn nodi straen neu amhwylder mewn pysgod
- y nodweddion ffisegol ac amodau amgylcheddol mewn pysgodfa sydd yn gallu effeithio ar lefelau cyflenwi
- pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch a'i rôl yn lleihau risg i'r bysgodfa
- y dulliau cywir o waredu deunyddiau dros ben a/neu wastraff
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Amodau amgylcheddol:
- tywydd poeth
- tywydd oer
- lefel a chyflwr y dŵr
- cynefin sydd ar gael.