Dylunio a gweithredu prosiectau ymchwil pysgodfeydd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dylunio a gweithredu prosiectau ymchwil pysgodfeydd. Mae’n cwmpasu dylunio a gweithredu prosiectau, sy’n targedu anghenion ymchwil a nodwyd mewn pysgodfeydd, gan gynnwys cyflwyno adroddiadau ar ddeilliannau’r ymchwil i randdeiliaid a llunwyr polisi.
Mae’r safon hon yn gofyn am y gallu i gael a rheoli’r adnoddau canlynol:
1. pobl
2. cyfarpar
3. deunyddiau
4. amser
5. cyllideb.
Bydd yr ymchwil yn cynnwys gweithgareddau yn y maes ac mewn labordy.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n rheoli cymhwyso’r safon hon yn amrywio yn ôl lleoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau diben, cwmpas ac amcanion prosiect(au) ymchwil pysgodfeydd
- cadarnhau’r angen am ymchwil i bysgodfeydd gyda rhanddeiliaid a llunwyr polisi
- dylunio a gweithredu prosiect(au) ymchwil pysgodfeydd i fodloni’r angen ymchwil a nodwyd i bysgodfeydd
- nodi unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau safle perthnasol sydd ar waith
- nodi a chael unrhyw ganiatâd, cydsyniad neu drwyddedau penodol gofynnol y mae eu hangen i wneud ymchwil i bysgodfeydd
- nodi dulliau ymchwil priodol sy’n galluogi’r data pysgodfeydd gofynnol i gael ei sicrhau gyda chyn lleied o ddifrod neu darfu â phosibl ar y bysgodfa
- cynllunio a nodi’r gofynion adnoddau y mae eu hangen i weithredu’r prosiect(au) ymchwil pysgodfeydd
- cadarnhau bod asesiad risg wedi’i gyflawni a bod gweithdrefnau sefydliadol ar waith i amddiffyn iechyd a diogelwch y rhai sy’n ymgymryd â’r ymchwil pysgodfeydd
- cadarnhau bod mesurau priodol ar waith i amddiffyn bioddiogelwch y bysgodfa
- dewis fformatau a systemau addas ar gyfer dal a storio data pysgodfeydd sy’n cydymffurfio â safonau data perthnasol
- cynllunio dulliau dadansoddi data priodol sy’n caniatáu am ddod i gasgliadau dilys a dibynadwy er mwyn bodloni amcanion y prosiect(au) ymchwil pysgodfeydd
- cadarnhau bod pawb sy’n ymwneud â gweithredu’r prosiect(au) ymchwil pysgodfeydd yn meddu ar yr holl wybodaeth ofynnol sydd ar gael i gwblhau’r gwaith
- monitro casglu a dadansoddi data pysgodfeydd i gadarnhau ei fod yn cael ei wneud yn gywir
- cymryd y camau priodol pan fydd gwyriadau o amcanion y prosiect(au) ymchwil pysgodfeydd
- cefnogi cynhyrchu canfyddiadau terfynol yr ymchwil pysgodfeydd a’r deilliannau cysylltiedig
- lledaenu a hyrwyddo canfyddiadau’r ymchwil pysgodfeydd ymhlith rhanddeiliaid a llunwyr polisi
- cadarnhau bod yr holl ofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol, bioddiogelwch a chyfreithiol perthnasol wedi’u dilyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, cwmpas ac amcanion y prosiect(au) ymchwil pysgodfeydd
- sut i ddylunio a gweithredu prosiect(au) ymchwil pysgodfeydd i alluogi data perthnasol pysgodfeydd i gael ei gasglu
- sut i ddylunio a gweithredu prosiect(au) ymchwil pysgodfeydd i wneud y defnydd gorau o adnoddau
- y technegau ymchwil perthnasol a ddefnyddiwyd i gasglu data pysgodfeydd, a’u gofynion adnoddau cysylltiedig
- goblygiadau’r cyfyngiadau neu’r dynodiadau safle perthnasol sydd ar waith yn y bysgodfa
- yr amgylchiadau pan mae angen caniatâd, cydsyniad neu drwyddedau penodol i gasglu data pysgodfeydd
- rôl a swyddogaeth ymchwil pysgodfeydd
- sut i ddod o hyd i bapurau ymchwil ar gyfer ymchwil pysgodfeydd
- y llenyddiaeth wyddonol sy’n hyrwyddo gwyddor, rheolaeth a pholisi pysgodfeydd
- y rhanddeiliaid a’u rôl o fewn y bysgodfa
- y llunwyr polisi sy’n rheoli ac yn cefnogi’r bysgodfa a’i rheolaeth
- y polisi a’r amcanion rheoli pysgodfeydd cenedlaethol perthnasol
- sut i gyhoeddi papurau ymchwil pysgodfeydd
- y technegau cyfathrebu a chyflwyno sy’n briodol i ledaenu a hyrwyddo canfyddiadau ymchwil pysgodfeydd
- gwyddor pysgodfeydd a’i rannau cysylltiedig, yn gysylltiedig â dylunio prosiectau ymchwil pysgodfeydd
- y gofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol, bioddiogelwch a chyfreithiol perthnasol sy’n gysylltiedig â phrosiectau ymchwil pysgodfeydd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rhanddeiliad
Unrhyw berson, unigolyn neu sefydliad sydd â budd yn y bysgodfa.
Lluniwr polisi
Unrhyw unigolyn a sefydliad sy’n ymwneud â datblygu a gweithredu polisi rheoli pysgodfeydd rheoliadol.
Gwyddor pysgodfeydd
Gwyddor amlddisgyblaethol sy’n tynnu ar ddisgyblaethau bioleg dŵr croyw, ecoleg, cadwraeth, bioleg forol, dynameg poblogaeth.