Casglu, dadansoddi a chyflwyno data poblogaeth pysgodfeydd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chasglu, dadansoddi a chyflwyno data poblogaeth pysgodfeydd. Mae’n cwmpasu dadansoddi data hyd/amlder, data hyd yn ôl oedran, ymdrech ddal/uned neu ddata digonedd a data dosbarth blwyddyn/digonedd rhywogaeth.
Mae’r safon hon hefyd yn gofyn bod y nodweddion canlynol yn cael eu pennu ar gyfer poblogaethau pysgod:
1. ffactor cyflwr
2. strwythur poblogaeth
3. abnormaleddau yn nhwf y boblogaeth.
Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, ynghyd â gofynion trwyddedu, a’ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch a lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n rheoli cymhwyso’r safon hon yn amrywio yn ôl lleoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod data poblogaeth pysgodfeydd yn cael ei goladu, ei ddadansoddi a’i gyflwyno’n ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch
- cael a choladu gwybodaeth gyfeirio a data poblogaeth pysgodfeydd
- cwblhau archwiliadau i sicrhau dilysrwydd y data poblogaeth pysgodfeydd
- prosesu a dadansoddi data poblogaeth pysgodfeydd gan ddefnyddio technegau cydnabyddedig i bennu nodweddion a thueddiadau poblogaeth pysgodfeydd
- cymharu canlyniadau gyda normau disgwyliedig ar gyfer y boblogaeth pysgod mewn pysgodfa
- adrodd ar a chyflwyno data poblogaeth pysgodfeydd mewn fformat priodol i bartïon perthnasol
- storio ac archifo holl ddata poblogaeth pysgodfeydd yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â choladu, dadansoddi a chyflwyno data poblogaeth pysgodfeydd
- sut i goladu data poblogaeth pysgodfeydd i’w ddadansoddi
- y prif baramedrau a ddefnyddir i asesu poblogaethau pysgodfeydd
- nodweddion a strwythur disgwyliedig y boblogaeth pysgodfeydd sy’n cael ei hastudio
- sut i gael a choladu data cyfeirio yn gysylltiedig â rhywogaethau pysgod gwahanol
- sut i ddadansoddi data poblogaeth pysgodfeydd gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau
- sut gall amrywiadau naturiol effeithio ar ddata poblogaeth pysgodfeydd
- sut i nodi tueddiadau a deall eu harwyddocaol mewn data poblogaeth pysgodfeydd
- sut i gyflwyno data a chanfyddiadau poblogaeth pysgodfeydd (e.e. gan ddefnyddio graffiau, tablau a siartiau)
- pwysigrwydd storio ac archifo data poblogaeth pysgodfeydd yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Paramedrau:
• Ffactor cyflwr Folton, K
• Perthynas pwysau-hyd (WLR)
• Amlder fforch-hyd