Coladu, dadansoddi a chyflwyno data poblogaeth pysgodfeydd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â choladu, dadansoddi a chyflwyno data poblogaeth pysgodfeydd. Mae'n cynnwys dadansoddi data hyd/amlder, data hyd yn ôl oed, ymdrech dal/uned neu ddata toreth arall a data dosbarth toreth/blwyddyn rhywogaeth.
Mae'r safon hon hefyd yn gofyn bod y nodweddion canlynol yn cael eu pennu ar gyfer poblogaethau pysgod:
ffactor cyflwr
strwythur poblogaeth
annormaleddau yn nhwf poblogaeth.
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â gofynion cyfreithiol ac iechyd a diogelwch perthnasol yn ogystal â gofynion trwyddedu a'ch bod yn cynnal bioddiogelwch ac yn amharu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn rheoli'r gwaith o gymhwyso'r safon hon yn amrywio yn dibynnu ar leoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod coladu, dadansoddi a chyflwyno data poblogaeth pysgodfeydd yn cael ei wneud yn ddiogel, yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- cael a choladu gwybodaeth gyfeirio a data poblogaeth pysgodfeydd
- cwblhau gwiriadau i sicrhau dilysrwydd data poblogaeth pysgodfeydd
- prosesu a dadansoddi data poblogaeth pysgodfeydd gan ddefnyddio technegau cydnabyddedig i bennu nodweddion a thueddiadau poblogaeth pysgodfeydd
- cymharu canlyniadau gyda normau disgwyleidig ar gyfer poblogaeth y pysgod mewn pysgodfa
- adrodd a chyflwyno data am boblogaeth pysgodfeydd ar fformat priodol i bartïon perthnasol
- storio ac archifo holl ddata poblogaeth pysgodfeydd yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig a choladu, dadansoddi a chyflwyno data poblogaeth pysgodfeydd
- sut i goladu data poblogaeth pysgodfeydd ar gyfer ei ddadansoddi
- y prif baramedrau a ddefnyddir i asesu poblogaethau pysgodfeydd
- nodweddion a strwythur disgwyliedig poblogaeth pysgodfeydd sydd yn cael eu hastudio
- sut i gael a choladu data cyfeirio yn ymwneud â rhywogaethau gwahanol o bysgod
- sut i ddadansoddi data poblogaeth pysgodfeydd gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau
- y ffordd y gall amrywiadau naturiol effeithio ar ddata poblogaeth pysgodfeydd
- sut i nodi tueddiadau a deall eu harwyddocâd mewn data poblogaeth pysgodfeydd
- sut i gyflwyno data a chanfyddiadau poblogaeth pysgodfeydd (e.e. gan ddefnyddio graffiau, tablau a siartiau)
- pwysigrwydd storio ac archifo data poblogaeth pysgodfeydd yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Paramedrau:
- Ffactor cyflwr Folton, K
- Perthynas rhwng pwysau a hyd (WLR)
- Amledd hyd forc