Sefydlu gweithdrefnau i gefnogi’r gwaith o gasglu data pysgodfeydd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sefydlu gweithdrefnau i gefnogi'r gwaith o gasglu data pysgodfeydd yn ymwneud â'r cynefin a'r pysgod yn y bysgodfa. Mae'n cynnwys gallu adnabod y dulliau priodol ar gyfer cofnodi data a thechnegau i gefnogi'r gwaith o ddadansoddi'r data sy'n cael ei gasglu.
Mae'r safon hon yn gofyn am ddealltwriaeth o ddiben casglu data poblogaeth pysgod e.e. i nodi maint poblogaeth, ei strwythur oed a'i gyflwr.
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â'r gofynion cyfreithiol ac iechyd a diogelwch perthnasol a'ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch ac yn amharu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn rheoli'r gwaith o gymhwyso'r safon hon yn dibynnu ar leoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- coladu a dadansoddi gwybodaeth gan ffynonellau perthnasol i sefydlu gweithdrefnau er mwyn cefnogi'r gwaith o gasglu data pysgodfeydd
- sefydlu gweithdrefnau i fonitro cynefin pysgodfa, gan ystyried amodau amgylcheddol
- sefydlu gweithdrefnau samplu i gefnogi'r gwaith o gasglu data cynrychioliadol ar gyfer poblogaeth pysgod
- sefydlu gweithdrefnau ar gyfer casglu samplau a data gan bysgod unigol
- cadarnhau bod yr holl weithdrefnau yn bodloni â'r gofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol, bioddiogelwch â'r gofynion cyfreithiol perthnasol eraill
- cyfathrebu gweithdrefnau i bawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithredu
- nodi a sefydlu'r adnoddau sydd yn ofynnol i gefnogi'r gwaith o gasglu data pysgodfeydd
- nodi technegau i'w defnyddio gan y sefydliad ar gyfer dadansoddi data pysgodfeydd
- sefydlu systemau ar gyfer adrodd a chofnodi data pysgodfeydd gyda sicrwydd ansawdd priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cyflwr pysgodfa o ran ei nodweddion ffisegol, ansawdd dŵr ac agweddau biolegol
- sut i sefydlu gweithdrefnau i gefnogi'r gwaith o gasglu data pysgodfeydd
- pwysigrwydd cadarnhau bod gweithdrefnau i gefnogi'r gwaith o gasglu data pysgodfeydd yn cael eu cyfathrebu i bawb sydd yn gysylltiedig
- y technegau sydd ar gael ar gyfer casglu data cynefin a physgod
- protocolau sefydliadol a chasglu data pysgod safonol a'u rôl wrth gasglu data pysgodfeydd
- diben casglu data pysgodfeydd a sut mae hyn yn effeithio ar ddylunio'r gwaith o gasglu data
- y dulliau ar gyfer dewis safle arolwg addas ar gyfer casglu data pysgodfeydd
- sut i samplu poblogaethau pysgod
- y dulliau pysgota a'r gwaith o'u cymhwyso wrth gasglu samplau
- sut i gasglu samplau a data o bysgod byw a physgod marw
- y mathau o sefyllfaoedd brys, yn cynnwys problemau llygredd ac iechyd pysgod, a allai effeithio ar bysgodfa a sut gellir eu monitro
- y mathau o dechnegau dadansoddi data a'r defnydd o ddata pysgodfeydd yn y pen draw
- sut i sefydlu systemau ar gyfer cofnodi data pysgodfeydd, yn ôl protocolau sefydliadol safonol
- gofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol, bioddiogelwch â'r gofynion cyfreithiol perthnasol yn ymwneud â rheoli gweithgareddau mewn pysgodfa