Rheoli casglu a dadansoddi data pysgodfeydd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli casglu a dadansoddi data pysgodfeydd yn gysylltiedig â’r cynefin pysgodfeydd a’r pysgod o fewn y bysgodfa. Mae’n cwmpasu’r gwaith o neilltuo adnoddau i gynorthwyo â chasglu data a rheoli’r prosesau casglu data. Mae’n cynnwys rheoli’r dadansoddiad o’r data pysgodfeydd a gasglwyd a rhoi gwybod i bawb sy’n gysylltiedig am y deilliannau.
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli pawb sy’n gyfrifol am gasglu a dadansoddi data pysgodfeydd. Hefyd, mae’n cynnwys rheoli cyfarpar, deunyddiau ac amser er mwyn samplu a chasglu data pysgodfeydd yn gysylltiedig â maint y boblogaeth, strwythur oedran y boblogaeth, cyflwr pysgod, maint pysgod unigol ac oedran pysgod unigol.
Mae’r safon hon yn gofyn am reoli gweithgareddau sy’n monitro cynefin pysgodfeydd, gan gynnwys nodweddion ffisegol, ansawdd y dŵr ac agweddau biolegol (monitro infertebratau).
Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn cadarnhau bod gwaith wedi’i gwblhau’n ddiogel yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, a’ch bod yn sicrhau bod gwaith yn cynnal bioddiogelwch ac yn lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n rheoli cymhwyso’r safon hon yn amrywio yn ôl lleoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod yr holl weithdrefnau perthnasol ar gyfer casglu a dadansoddi data pysgodfeydd ar waith a’u bod yn bodloni gofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol a bioddiogelwch perthnasol, a gofynion cyfreithiol perthnasol eraill
- cadarnhau bod y rhai sy’n ymwneud â chasglu a dadansoddi data pysgodfeydd yn defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol
- sefydlu systemau ar gyfer cofnodi’r data pysgodfeydd a gasglwyd ac a ddadansoddwyd
- cadarnhau bod yr adnoddau i reoli casglu a dadansoddi data pysgodfeydd ar gael i gyflawni’r gwaith yn llwyddiannus
- rheoli’r gwaith o weithredu gweithgareddau monitro pysgodfeydd, er mwyn casglu a dadansoddi data, gan gyfrif am amodau amgylcheddol a chyfyngiadau o ran adnoddau
- rheoli’r gwaith o gasglu a dadansoddi data pysgodfeydd a samplau o bysgod byw a marw yn unol â manylebau perthnasol a gofynion sefydliadol
- rheoli’r gwaith o gynnal gweithgareddau monitro pysgodfeydd i gadarnhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- rheoli unrhyw argyfyngau a nodwyd yn y bysgodfa wrth gasglu data pysgodfeydd
- ymateb i arwyddion a phresenoldeb rhywogaethau goresgynnol, lle y bo’n briodol
- rheoli’r dadansoddiad o ddata pysgodfeydd i bennu nodweddion y bysgodfa
- cynnal cyfathrebu â phawb sy’n ymwneud â chasglu a dadansoddi data pysgodfeydd
- cadarnhau bod data pysgodfeydd yn cael ei gyflwyno yn unol â manylebau perthnasol a gofynion sefydliadol
- cynnal cofnodion rheoli yn unol â gofynion eich sefydliad
- cadarnhau bod gwaith yn cael ei gyflawni’n ddiogel yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol a bioddiogelwch perthnasol, a gofynion cyfreithiol perthnasol eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol sy’n gysylltiedig â rheoli casglu a dadansoddi data pysgodfeydd
- sut i fonitro amodau ffisegol, biolegol a chemegol mewn pysgodfa
- pwysigrwydd sefydlu gweithdrefnau perthnasol i gynorthwyo â chasglu a dadansoddi data pysgodfeydd
- pwysigrwydd y gweithgareddau monitro i reolaeth pysgodfa
- sut i addasu gweithgareddau monitro i gyfrif am amodau amgylcheddol a chyfyngiadau adnoddau
- anatomi a ffisioleg pysgod
- sut mae pysgod yn rhyngweithio â’u hamgylchedd
- sut i reoli’r gwaith o gasglu data pysgodfeydd a samplau biolegol o bysgod byw a marw
- y mathau o dechnegau dadansoddi data a’r defnydd o ddata pysgodfeydd yn y pen draw
- y prosesau a ddefnyddiwyd i bennu oedran pysgod
- sut i adnabod clefydau a phroblemau iechyd cyffredin mewn pysgod
- sut i reoli’r adnoddau sydd ar gael i gefnogi’r gweithgareddau casglu, dadansoddi a monitro
- y ffactorau a all ddylanwadu ar gyflwr yr amgylchedd dyfrol
- y mathau o rywogaethau ymledol a’u heffaith ar gynefinoedd glan afon a physgodfa
- y protocolau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am rywogaethau ymledol
- pwysigrwydd casglu data pysgodfeydd i ymateb i argyfyngau a nodwyd (h.y. dirywiad mewn cynefin, gweithredoedd ysglyfaethwyr, clefydau a dylanwadau dynol) a’r technegau samplu priodol i’w defnyddio
- pwysigrwydd cyfathrebu â phawb sy’n ymwneud â chasglu a dadansoddi data pysgodfeydd
- y manylebau a’r gofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer cyflwyno data pysgodfeydd
- y gwahanol dechnegau ar gyfer cyflwyno data pysgodfeydd
- y safonau perthnasol ar gyfer casglu a dadansoddi data pysgodfeydd
- pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch a’u rôl o ran lleihau risgiau i’r bysgodfa