Casglu a dadansoddi data o bysgod marw
URN: LANFiM15
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chasglu a dadansoddi data o bysgod marw. Mae'n cynnwys y gallu i ddadansoddi pysgod marw er mwyn creu data pysgodfeydd, sydd yn cefnogi'r gwaith o reoli pysgodfeydd.
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â gofynion iechyd a diogelwch cyfreithiol perthnasol a'ch bod yn cynnal bioddiogelwch ac yn amharu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn rheoli'r gwaith o gymhwyso'r safon hon yn amrywio yn dibynnu ar leoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud yr holl weithgareddau sy'n ofynnol i gasglu a dadansoddi data yn ddiogel o bysgod marw, yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar priodol ar gyfer casglu a dadansoddi data o bysgod marw
- dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith sy'n ofynnol
- cynnal olrheiniadwyedd a rheolaeth samplau o bysgod marw
- paratoi samplau o bysgod marw i'w dadansoddi yn unol â gofynion eich sefydliad a phrotocolau safonol y diwydiant pysgodfeydd
- dadansoddi samplau o bysgod marw yn unol â gofynion eich sefydliad a phrotocolau safonol y diwydiant pysgodfeydd
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- diheintio, lle y bo'n biriodol, a storio cyfarpar ar gyfer casglu a dadansoddi data o bysgod marw ar ôl eu defnyddio, yn unol â'r gofynion
- cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch wrth gasglu a dadansoddi data o bysgod marw
- cofnodi a chyflwyno data o bysgod marw yn gywir gan ddefnyddio systemau sefydliadol, gan amlygu canfyddiadau annisgwyl
- cwblhau gwiriadau gwallau ar ddata a gasglwyd o bysgod marw
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â chasglu a dadansodi data o bysgod marw
- pwysigrwydd defnyddio'r cyfarpar diogelu personol (PPE) cywir
- sut i gasglu a pharatoi samplau o bysgod marw ar gyfer eu dadansoddi
- sut i ddefnyddio protocolau safonol y diwydiant pysgodfeydd i roi oed ar bysgod yn ogystal â dadansoddi ôl-gyfrifiadau o batrymau twf (cen a defnyddio esgyrn)
- sut i dynnu deunyddiau o bysgod marw i roi oed iddynt
- anatomeg a ffisioleg pysgod
- annormaleddau cyffredin pysgod a'u hachosion
- parasitiaid cyffredin pysgod (mewnol ac allanol)
- sut i adnabod a dosbarthu cynnwys stymog pysgod marw
- sut i ddadansoddi data o bysgod marw
- technegau cyflwyno data (histogramau hyd/amlder) a ddefnyddir wrth ddadansoddi data o bysgod marw
- technegau ystadegol a ddefnyddir i ddadansoddi data o bysgod marw
- technegau gwahanol ar gyfer cyflwyno data o bysgod marw
- pwysigrwydd gwirio data am wallau, i ddileu camgymeriadau a chadarnhau cywirdeb y data i gael ei ddadansoddi a/neu ei gyflwyno
- sut i gael gafael ar gyngor a chefnogaeth ychwanegol
- pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch a'i rôl yn lleihau risg i'r bysgodfa
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dulliau dadansoddi:
- dadansoddi cynnwys y stumog
- llwyth parasitiaid mewnol
- llwyth parasitiaid allanol
- rhyw ac aeddfedrwydd
- patholeg crynswth mewnol
- patholeg crynswth allanol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANFiM17
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Datblygu Pysgodfeydd, Biolegydd Pysgodfeydd, Cynorthwyydd Maes
Cod SOC
3565
Geiriau Allweddol
pysgodfeydd; data; casglu; goruchwylio