Casglu samplau o bysgod byw i fonitro cyflwr pysgodfa

URN: LANFiM14
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2018

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chasglu samplau o bysgod byw i fonitro cyflwr pysgodfa. Mae’n cynnwys casglu samplau o bysgod byw mewn pysgodfa mewn ffordd sy’n lleihau’r tarfu ar y bysgodfa ac yna asesu’r pysgodyn unigol i bennu’i iechyd a’i gyflwr gan ddefnyddio tasgau arferol ac anarferol.
 
Mae’r safon hon yn gofyn bod cyflwr pysgod byw yn cael ei bennu gan eu hyd a’u pwysau, ffactor cyflwr, oedran a phresenoldeb parasitiaid a chlefyd.
 
Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, a’ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch a lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyflawni’r holl weithgareddau sy’n ofynnol i gasglu samplau’n ddiogel o bysgod byw i fonitro cyflwr y bysgodfa, yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar priodol ar gyfer casglu samplau o bysgod yn unol â safon ofynnol y bysgodfa
  3. dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith sy’n ofynnol
  4. paratoi a thrin pysgod byw mewn ffordd sy’n lleihau straen
  5. casglu samplau o bysgod byw yn barod i’w dadansoddi ymhellach
  6. monitro cyflwr pysgodfa trwy gasglu samplau o bysgod byw, gan gynnwys samplau cen pysgod
  7. lle bo angen, lladd pysgod heb iddynt ddioddef er mwyn ei gwneud hi’n haws casglu data pellach
  8. pennu nodweddion pysgod unigol gan ddefnyddio cyfarpar mesur, fel y bo’n briodol
  9. cofnodi marwolaethau er mwyn cael gwybodaeth reoli yn unol â gofynion eich sefydliad
  10. gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
  11. cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch wrth gasglu samplau o bysgod byw i fonitro cyflwr pysgodfa
  12. diheintio a, lle bo hynny’n briodol, storio cyfarpar ar gyfer casglu samplau ar ôl eu defnyddio, yn unol â gofynion
  13. cynnal gwybodaeth gywir er mwyn cadw cofnodion cyfredol am gasglu samplau ar gyfer monitro cyflwr y bysgodfa, yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â chasglu samplau o bysgod byw
  2. sut i adnabod rhywogaethau pysgod dŵr croyw a morol cyffredin Prydeinig
  3. sut i adnabod nodweddion allanol pysgod iach
  4. swyddogaeth prif organau mewnol pysgod a sut i’w hadnabod
  5. y gwahanol fathau o gyfarpar samplu pysgod a’u defnydd
  6. sut i bennu maint pysgod gan ddefnyddio mesuriadau pwysau a hyd
  7. pwysigrwydd cynnal a chadw cyfarpar mesur yn unol â’r safon ofynnol
  8. y gwallau y gall cyfarpar samplu pysgod eu hachosi i ansawdd y data a gesglir
  9. y ffactorau sy’n effeithio ar dwf a chyflwr pysgod
  10. problemau iechyd ac abnormaleddau cyffredin sy’n effeithio ar bysgod a sut i adnabod eu presenoldeb
  11. sut gall anaestheteg gael eu defnyddio i gynorthwyo â’r broses casglu data a lleihau’r straen ar bysgod
  12. y peryglon a’r gyfraith berthnasol sy’n gysylltiedig â defnyddio gwahanol anaestheteg pysgod yn y maes
  13. y dulliau a ddefnyddir i gasglu samplau oddi wrth bysgod byw i fonitro cyflwr pysgodfa
  14. achosion cyffredin marwolaeth pysgod, gan gynnwys sut mae’n bosibl pennu achos y farwolaeth
  15. clefydau hysbysadwy ymhlith pysgod a pham mae angen rhoi gwybod amdanynt
  16. sut gall nodweddion pysgod unigol gael eu defnyddio i bennu nodweddion y bysgodfa gyfan
  17. sut i waredu pysgod marw a mathau eraill o wastraff
  18. y strwythurau a ddefnyddir i bennu oedran rhywogaethau pysgod gwahanol
  19. sut i gofnodi mesuriadau’n gywir yn unol â gofynion y sefydliad a rôl data wrth reoli pysgodfa
  20. pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch a’u rôl o ran lleihau risgiau i’r bysgodfa

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFiM4

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Datblygu Pysgodfeydd, Biolegydd Pysgodfeydd, Cynorthwyydd Maes

Cod SOC

1212

Geiriau Allweddol

pysgod; samplau; pysgodfa; cyflwr; monitro