Cynllunio a rheoli gweithredoedd dal pysgod i fodloni amcanion pysgota wedi’u rhaglennu
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio a rheoli gweithredoedd dal pysgod er mwyn bodloni amcanion pysgota wedi’u rhaglennu. Mae’n cynnwys gallu sefydlu gweithgareddau pysgota fel bod yr adnoddau sy’n ofynnol i gefnogi’r weithred ar gael, bod y rhai sy’n ymwneud yn deall y gofynion yn llawn a bod y dull arfaethedig yn addas i nodweddion y bysgodfa a’r pysgod sy’n cael eu targedu.
Mae’r safon hon yn gofyn am reoli pobl, cyfarpar, deunyddiau ac amser i gynorthwyo â dal pysgod mewn dŵr llonydd, dŵr rhedegog a dyfroedd llanw. Mae hyn yn gofyn am gynllunio defnyddio dulliau dal mewn rhwydi, bachau a lein, trapiau a draenio i lawr o bwll. Nid yw hyn yn cynnwys electrobysgota, sy’n cael sylw yn FiM12.
Mae’r safon hon yn gofyn bod cyfarpar pysgota, cwch/cychod, cyfarpar diogelu personol, cyfarpar cyfathrebu, cludiant pysgod a chyfarpar cadw yn cael eu paratoi yn gywir. Hefyd, mae’n gofyn bod gweithredoedd dal pysgod wedi’u rhaglennu i gwmpasu’r math o arolwg a manyleb yr arolwg, y dechneg bysgota, y defnydd o gyfarpar, casglu data ac adrodd ar ddata.
Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, a’ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch a lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n rheoli cymhwyso’r safon hon yn amrywio yn ôl lleoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod yr holl weithgareddau sy’n ofynnol i gynllunio a rheoli gweithredoedd dal pysgod yn bodloni amcanion pysgota wedi’u rhaglennu, yn cael eu cyflawni’n ddiogel yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gweithgarwch dal pysgod arfaethedig
- dewis a gweithredu’r dulliau gweithio priodol yn unol â’r risgiau a aseswyd
- cynllunio gweithredoedd dal pysgod i fodloni’r amcanion pysgota gofynnol sydd wedi’u rhaglennu
- cael y trwyddedau/hawlenni angenrheidiol ar gyfer gweithredoedd dal pysgod oddi wrth yr awdurdodau perthnasol
- rheoli’r adnoddau sy’n ofynnol i gyflawni’r amcanion pysgota gofynnol wedi’u rhaglennu, gan gyfrif am nodweddion y corff dŵr
- cadarnhau bod y bobl sy’n ymwneud â gweithredoedd dal pysgod yn defnyddio’r cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol
- cadarnhau bod y bobl sy’n ymwneud â gweithgareddau dal pysgod wedi’u hyfforddi’n llawn yng ngofynion y sefydliad
- cadarnhau bod cyfarpar dal pysgod wedi’i baratoi a’i gynnal a chadw i safon ofynnol y bysgodfa
- cadarnhau bod cyfleusterau cadw pysgod mewn cyflwr addas i dderbyn, prosesu a chynnal iechyd a lles pysgod
- rheoli gweithredoedd dal pysgod i fodloni’r amcanion pysgota gofynnol wedi’u rhaglennu, a gallu ymateb i amrywiadau
- addasu gweithredoedd dal pysgod i gyfrif am newidiadau yn yr amodau amgylcheddol
- cadarnhau bod pysgod wedi’u dal yn cael eu prosesu’n gywir a goruchwylio cyflwr, iechyd a lles pysgod wedi’u dal trwy gydol y weithred
- cyfleu gofynion gweithredol dal pysgod i bawb sy’n ymwneud â’r gweithgaredd
- cynnal gwybodaeth gywir er mwyn cadw cofnodion cyfredol o weithredoedd dal pysgod
- cadarnhau bod yr holl waith yn cael ei gyflawni yn unol â gofynion bioddiogelwch, a bod pob gwastraff a deunyddiau dros ben yn cael eu gwaredu’n gywir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol sy’n gysylltiedig â gweithredoedd dal pysgod
- sut i asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gweithredoedd dal pysgod
- pwysigrwydd dewis y dulliau gweithio priodol yn unol â’r risgiau a aseswyd
- pwysigrwydd defnyddio’r cyfarpar diogelu personol (PPE) cywir
- sut, pryd ac oddi wrth bwy y mae angen cael y trwyddedau/hawlenni angenrheidiol ar gyfer gweithredoedd dal pysgod
- y cyfarpar diogelwch sy’n hanfodol i gefnogi gweithredodd pysgota
- sut i gynllunio a rheoli gweithredoedd dal pysgod i fodloni amcanion pysgota gofynnol wedi’u rhaglennu, gan gynnwys dewis ardal bysgota briodol
- sut gall gofynion adnoddau amrywio yn ôl yr amodau amgylcheddol sydd ohoni a gweithredoedd dal pysgod
- sut mae dal pysgod yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rheolaeth amgylcheddol ar bysgodfa
- sut gall gweithredoedd dal pysgod darfu ar bysgod ac achosi straen iddynt
- sut i gynnal cyflwr, iechyd a lles pysgod sydd wedi’u dal yn ystod gweithredoedd dal pysgod
- gofynion cynnal a chadw cyfarpar dal pysgod
- yr egwyddorion a ddefnyddir mewn dulliau dal pysgod
- y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli gweithredoedd dal pysgod
- sut mae nodweddion y corff dŵr yn effeithio ar weithredoedd dal pysgod
- pwysigrwydd cyfathrebu yn ystod gweithredoedd dal pysgod
- dulliau samplu angheuol a dulliau nad ydynt yn angheuol
- y mathau o rwyd (e.e. fyke, rhwyd sân, rhwyd ddrysu) a’u hegwyddorion gweithredu
- sut i sefydlu a chynnal bioddiogelwch y pysgodfeydd yn ystod gweithredoedd dal pysgod