Cynllunio a rheoli gweithredoedd electrobysgota i fodloni amcanion pysgota wedi’u rhaglennu
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio a rheoli gweithredoedd electrobysgota i fodloni’r amcanion pysgota wedi’u rhaglennu yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae’n cynnwys gallu sefydlu a rheoli pob agwedd ar y gweithgarwch electrobysgota.
Mae’r safon hon yn gofyn bod technegau electrobysgota yn cael eu lleoli, gan gyfrif am y diben, yr amcanion pysgota, yr amodau amgylcheddol, effeithiolrwydd y cyfarpar a dilyn manyleb y gwneuthurwr. Mae’r safon hon hefyd yn gofyn bod cyflwr y pysgod yn cael ei gynnal yn ystod dal, storio, prosesu, casglu data a rhyddhau.
Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn cadarnhau bod gwaith yn cael ei gwblhau’n ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol a gofynion trwyddedu perthnasol, a’ch bod yn sicrhau bod eich gwaith yn cynnal bioddiogelwch ac yn lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n rheoli cymhwyso’r safon hon yn amrywio yn ôl lleoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod yr holl weithgareddau sy’n ofynnol i gynllunio a rheoli gweithredoedd electrobysgota i fodloni amcanion pysgota wedi’u rhaglennu, yn cael eu cyflawni’n ddiogel yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gweithgarwch electrobysgota arfaethedig
- dewis a gweithredu’r dulliau gweithio priodol yn unol â’r risgiau a aseswyd
- cynllunio gweithredoedd electrobysgota i fodloni’r amcanion pysgota gofynnol sydd wedi’u rhaglennu
- cael y trwydded(au)/hawlen(ni) angenrheidiol ar gyfer gweithredoedd electrobysgota oddi wrth yr awdurdodau perthnasol
- rheoli’r adnoddau sy’n ofynnol i gyflawni’r amcanion electrobysgota wedi’u rhaglennu, gan gyfrif am nodweddion y corff dŵr, rhywogaethau’r pysgod a’r amodau amgylcheddol
- cadarnhau bod y bobl sy’n ymwneud â gweithredoedd electrobysgota yn defnyddio’r cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol
- cadarnhau bod y bobl sy’n ymwneud â gweithgareddau electrobysgota wedi’u hyfforddi’n llawn, yn ôl gofynion perthnasol eich sefydliad
- cadarnhau bod cyfarpar electrobysgota wedi’i baratoi a’i gynnal a chadw i’r safon berthnasol ar gyfer electrobysgota
- cadarnhau bod cyfleusterau cadw pysgod mewn cyflwr addas i dderbyn, prosesu a chynnal iechyd a lles pysgod
- rheoli gweithredoedd electrobysgota i fodloni’r amcanion pysgota wedi’u rhaglennu o fewn yr ardal bysgota, a gallu ymateb i amrywiadau
- cadarnhau bod y tîm electrobysgota yn defnyddio anaestheteg yn gywir yn ystod gweithredoedd electrobysgota
- addasu gweithredoedd electrobysgota i gyfrif am newidiadau yn yr amodau amgylcheddol
- cadarnhau bod pysgod wedi’u dal yn cael eu prosesu’n gywir a goruchwylio cyflwr, iechyd a lles pysgod wedi’u dal trwy gydol y gweithgareddau electrobysgota
- cynnal gwybodaeth gywir er mwyn cadw cofnodion cyfredol o weithredoedd electrobysgota
- cyfleu gofynion gweithredol electrobysgota i bawb sy’n ymwneud â’r gweithgaredd
- os bydd digwyddiad, rhoi gweithdrefnau brys ar waith os bydd angen
- cadarnhau bod yr holl waith yn cael ei gyflawni yn unol â gofynion bioddiogelwch, a bod pob gwastraff a deunyddiau dros ben yn cael eu gwaredu’n gywir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol sy’n gysylltiedig â gweithredoedd electrobysgota
- sut i asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gweithredoedd electrobysgota
- pwysigrwydd dewis y dulliau gweithio priodol yn unol â’r risgiau a aseswyd
- pwysigrwydd defnyddio’r cyfarpar diogelu personol (PPE) cywir
- sut, pryd ac oddi wrth bwy y mae angen cael y trwydded(au)/hawlen(ni) angenrheidiol ar gyfer gweithredoedd electrobysgota
- egwyddorion electrobysgota a’i gyfyngiadau, ei fanteision a’i anfanteision
- sut i gynllunio a rheoli gweithredoedd electrobysgota i fodloni amcanion pysgota wedi’u rhaglennu, gan gynnwys dewis ardal bysgota briodol
- y mathau o arolwg a ddefnyddir mewn electrobysgota
- sut gall gofynion adnoddau amrywio yn ôl y math o arolwg a’r lleoliad
- sut gall morffoleg, tymheredd dŵr, dargludedd dŵr a maint pysgod effeithio ar weithgareddau electrobysgota a’r canlyniadau a geir
- y mathau o wallau ac amrywiadau amgylcheddol a all effeithio ar weithredoedd electrobysgota wedi’u rhaglennu
- sut gall y defnydd cywir o gyfarpar electrobysgota leihau’r niwed posibl a achosir i bysgod
- pryd i ddefnyddio cychod bŵm ac anodau llaw
- sut mae rhywogaethau pysgod gwahanol yn adweithio yn ystod electrobysgota a sut i gynnal cyflwr, iechyd a lles pysgod sy’n cael eu dal yn ystod gweithgareddau electrobysgota
- sut i addasu gweithredoedd electrobysgota i gyfrif am niferoedd mawr o bysgod, trosglwyddiadau pysgod a newidiadau mewn amodau dŵr
- casglu data a gofynion cofnodi’r sefydliad
- sut i adnabod arwyddion straen mewn pysgod
- pa anaestheteg sy’n cael ei defnyddio yn ystod gweithgareddau electrobysgota a pham
- sut i baratoi, defnyddio a gwaredu anaestheteg ar gyfer gweithredoedd electrobysgota
- sut i sefydlu a chynnal bioddiogelwch yr ardal bysgota yn ystod gweithgareddau electrobysgota
- pwysigrwydd cyfathrebu â’r tîm electrobysgota yn ystod y gweithredoedd electrobysgota
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Anod
Mae anod yn electrod y mae cerrynt confensiynol yn llifo drwyddo i ddyfais drydanol bolar.
Morffoleg
Cangen o fioleg sy’n delio ag astudio ffurf a strwythur organebau a’u nodweddion strwythurol penodol.