Defnyddio technoleg monitro heb ddal i bennu nodweddion poblogaeth pysgod
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio technoleg monitro heb ddal i bennu nodweddion poblogaeth pysgod. Bydd yn cynnwys defnyddio technoleg monitro electronig i bennu nodweddion poblogaeth pysgod. Mae hefyd yn cynnwys paratoi'r cyfarpar monitro ar gyfer ei ddefnyddio, sefydlu'r ardal bysgota, defnyddio'r offer monitro a'r defnydd diogel o gyfarpar i gasglu data mewn dŵr sydd yn llifo a dŵr llonydd.
Mae hefyd yn gofyn, lle bo angen, bod y gweithgaredd pysgota'n cael ei addasu i ganiatáu ar gyfer newidiadau mewn amodau dŵr ac amgylcheddol.
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â gofynion cyfreithiol ac iechyd a diogelwch perthnasol a'ch bod yn cynnal bioddiogelwch ac yn amharu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn rheoli'r gwaith o gymhwyso'r safon hon yn amrywio yn dibynnu ar leoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud yr holl weithgareddau sy'n ofynnol i ddefnyddio technoleg monitro heb ddal, yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith gofynnol
- cael y fanyleb arolygu pysgodfeydd sy'n ofynnol i bennu nodweddion poblogaeth pysgod
- asesu'r amodau cyffredin i bennu a yw'n ddiogel i gymhwyso technegau monitro heb ddal
- paratoi a chynnal technoleg monitro heb ddal i'r safon ofynnol ar gyfer y bysgodfa
- sefydlu technoleg monitro heb ddal yn ardal y bysgodfa yn unol â gofynion yr arolwg poblogaeth pysgod
- rheoli technoleg monitro heb ddal i fodloni gofynion yr arolwg poblogaeth pysgod
- addasu gweithgareddau monitro heb ddal mewn ymateb i newidiadau mewn amodau dŵr ac amgylcheddol, er mwyn cynnal eu heffeithiolrwydd
- cofnodi data poblogaeth pysgod o'r dechnoleg monitro heb ddal fel sy'n ofynnol gan fanyleb berthnasol yr arolwg pysgodfeydd
- arsylwi perfformiad y gweithgareddau monitro heb ddal gan sicrhau cydymffurfio â manyleb ofynnol yr arolwg pysgodfeydd
- parhau i gyfathrebu'n effeithiol â phawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd monitro heb ddal
- adrodd am unrhyw broblemau gyda'r gweithgaredd monitro heb ddal wrth y person priodol
- diheintio, lle bo'n briodol, a storio technoleg monitro a chyfarpar perthnasol arall ar ôl ei ddefnyddio, yn unol â'r gofynion
- cynnal lefelau addas o fioddiogelwch wrth ddefnyddio technoleg monitro heb ddal i bennu nodweddion poblogaeth pysgod
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â gweithgareddau monitro heb ddal
- y technegau a'r dechnoleg monitro heb ddal a ddefnyddir i fonitro nodweddion poblogaeth pysgod
- manteision ac anfanteision technegau a thechnoleg monitro heb ddal a ddefnyddir i bennu nodweddion poblogaeth pysgod
- y defnydd o ddata heb ddal wrth reoli pysgodfeydd
- yr amodau amgylcheddol sy'n ofynnol ar gyfer defnyddio technoleg monitro heb ddal, yn ogystal ag effaith bosibl amodau amgylcheddol niweidiol
- sut i baratoi a chynnal technoleg monitro heb ddal briodol mewn cyflwr gweithredol diogel
- y ffordd y gall amodau dŵr effeithio ar ansawdd data poblogaeth pysgod a gasglwyd (h.y. eglurder, llif dŵr, dyfnder)
- ymateb disgwyliedig rhywogaethau gwahanol o bysgod i dechnoleg monitro heb ddal
- pwysigrwydd bioddiogelwch yn ystod gweithgareddau monitro heb ddal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae cyfarpar monitro heb ddal yn cynnwys:
- offer acwstig
- offer fideo/cydnabod symudiad
- camerâu acwstig
- offer ymwrthedd trydanol.