Dal pysgod gan ddefnyddio dulliau trydanbysgota
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dal pysgod o bysgodfa gan ddefnyddio y dulliau trydanbysgota. Mae'n cynnwys pennu a yw'r amodau amgylcheddol yn briodol ar gyfer trydanbysgota. Mae hefyd yn cynnwys paratoi cyfarpar trydanbysgota i'w ddefnyddio, ynghyd â chychod, rhwydi a chyfarpar a ddefnyddir i gadw pysgod byw, sefydlu'r ardal bysgota a defnyddio cyfarpar trydanbysgota yn ddiogel i alluogi'r pysgod i gael eu dal. Mae'r gallu i arsylwi ac adrodd ar effeithiolrwydd y weithred o drydanbysgota yn bwysig hefyd.
Mae'r safon hon yn gofyn am sefydlu cyfarpar trydanbysgota ar y lan neu mewn gwarbac yn cynnwys y generadur, y blwch rheoli trydanbysgota, plwm, anodau a chathodau.
Mae'r safon hon yn galluogi addasu'r dulliau o ddal pysgod oherwydd niferoedd uchel pysgod, trosglwyddo pysgod, newidiadau yn amodau'r dŵr neu'r rhywogaethau.
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â'r gofynion cyfreithiol ac iechyd a diogelwch perthnasol a'ch bod yn cynnal bioddiogelwch ac yn amharu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn rheoli'r gwaith o gymhwyso'r safon hon yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad – yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud yr holl weithgareddau sy'n ofynnol i ddal pysgod yn ddiogel gan ddefnyddio technegau trydanbysgota yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith sy'n ofynnol
- cael y fanyleb dal pysgod berthnasol
- cadarnhau bod y drwydded/caniatâd perthnasol i drydanbysgota wedi'u sefydlu cyn dechrau'r gweithgaredd
- cynnal asesiad risg i bennu a yw'n ddiogel i drydanbysgota
- paratoi a chynnal a chadw'r cyfarpar i'r safon ofynnol ar gyfer trydanbysgota
- paratoi unedau cadw pysgod addas i dderbyn, a chynnal amodau pysgod
- paratoi'r ardal bysgota i leihau nifer y pysgod sydd yn dianc
- dewis y foltedd priodol ar gyfer yr amodau i ddal, ond nid niweidio, y pysgod
- gweithredu rhwydi ac anodau mewn tîm
- parhau i gyfathrebu gyda'r tîm trwy gydol y gweithgareddau trydanbysgota
- rheoli gweithgaredd trydanbysgota er mwyn sicrhau mai dim ond yr ardal bysgota a fwriadwyd sy'n cael ei heffeithio
- arsylwi perfformiad y weithred o drydanbysgota, gan sicrhau cydymffurfio â'r fanyleb dal pysgod berthnasol
- adnabod a chyfathrebu gyda'r tîm trydanbysgota am yr angen i atal neu addasu'r gweithgaredd o drydanbysgota
- ymdrin â physgod wedi'u dal mewn ffordd sydd yn lleihau straen
- monitro ac arsylwi adferiad pysgod ac adrodd am unrhyw arwyddion o straen, anhwylder neu annormalrwydd wrth y person priodol
- rhoi gweithdrefnau brys ar waith os bydd digwyddiad tra'n cyflawni gweithgareddau trydanbysgota
- diheintio, lle y bo'n briodol, a storio cyfarpar dal trydanbysgod ar ôl ei ddefnyddio, yn unol â'r gofynion
- cynnal lefelau addas o fioddiogelwch wrth ddal pysgod gan ddefnyddio technegau trydanbysgota
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch perthnasol a chodau ymarfer sydd yn gysylltiedig â gweithgareddau trydanbysgota
- pwysigrwydd defnyddio'r cyfarpar diogelu personol (PPE) cywir
- pam mae pysgod yn cael eu dal fel rhan o weithrediadau rheoli pysgodfeydd
- yr amodau amgylcheddol sy'n ofynnol ar gyfer cadw pysgod
- y trwyddedau/caniatâd cywir sy'n ofynnol i drydanbysgota
- pam trydanbysgota yw'r prif offeryn monitro ar gyfer llawer o bysgodfeydd
- manteision ac anfanteision trydanbysgota
- y ffordd y gall nodweddion naturiol mewn corff dŵr helpu i ddiffinio ardal bysgota
- yr ystod o dechnegau trydanbysgota, yn cynnwys y ffyrdd y cânt eu defnyddio i bysgota mewn mathau gwahanol o gyrff dŵr (dŵr sy'n llifo a dŵr llonydd) yn effeithiol
- pwysigrwydd sefydlu ardaloedd pysgota addas cyn trydanbysgota
- egwyddorion trydanbysgota, yn cynnwys y ffordd y gall trydanbysgota niweidio pysgod
- yr offer sy'n ofynnol i gefnogi trydanbysgota a sut i baratoi a chynnal a chadw yn barod ar gyfer ei weithredu'n ddiogel
- pryd i ddefnyddio cychod bŵm ac anodau llaw wrth ddal pysgod tra'n trydanbysgota
- pam y mae'n bwysig symud pysgod yn gyflym o'r maes trydan
- ymateb disgwyliedig rhywogaethau gwahanol o bysgod yn ystod gweithgareddau trydanbysgota
- sut i adnabod straen yn y pysgod sydd wedi cael eu syfrdanu
- sut i adnabod arwyddion adferiad yn y pysgod sydd wedi cael eu syfrdanu
- pam y mae'n bwysig i'r broses drydanbysgota weld pawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd trydanbysgota
- dargludedd dŵr a'i bwysigrwydd i'r cynllun a defnydd effeithiol o gyfarpar trydanbysgota
- effaith bosibl amodau amgylcheddol niweidiol ar drydanbysgota
- y ffordd y gall morffoleg, tymheredd dŵr a maint pysgod effeithio ar weithgareddau trydanbysgota
- pwysigrwydd bioddiogelwch yn ystod gweithgareddau trydanbysgota
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dylai'r diffiniadau isod eich helpu i ddeall y safon:
Anod
Anod yw electrod y mae cerrynt confensiynol yn llifo drwyddo i mewn i ddyfais drydanol wedi'i pholareiddio.
Dargludedd
Gallu dŵr i ddargludo trydan
Unedau cadw
Cyfarpar a ddefnyddir i gadw pysgod byw e.e. bwcedi, biniau, tanciau ac ati
Morffoleg
Cangen o fioleg sydd yn ymdrin ag astudiaeth ffurf a strwythur organebau a'u nodweddion strwythurol penodol.
Amodau dŵr
Eglurder, llif dŵr, dyfnder, ac ati