Paratoi i stocio pysgod mewn pysgodfa
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi i stocio pysgod mewn pysgodfa. Mae’n cwmpasu sicrhau bod amodau’r dŵr yn briodol i dderbyn pysgod a bod y pysgod fydd yn cael eu rhyddhau yn iach ac mewn cyflwr addas i’w rhyddhau; mae’n cynnwys defnyddio tasgau arferol ac anarferol.
Mae’r safon hon yn gofyn bod y canlynol yn cael eu hasesu mewn cyrff dŵr:
- tymheredd y dŵr
- ansawdd y dŵr
- dyfnder
- a oes bwyd ar gael.
Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, a’ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch a lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflawni’r holl weithgareddau sy’n ofynnol i baratoi i stocio pysgod mewn pysgodfa yn ddiogel, yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith sy’n ofynnol
- cael a chadarnhau trwyddedau/hawlenni perthnasol i stocio pysgod gan yr awdurdod priodol
- cadarnhau bod y corff dŵr yn y bysgodfa (e.e. yr afon, y llyn, y pwll) yn addas ar gyfer y cynlluniau i stocio pysgod
- nodi’r pwyntiau rhyddhau priodol ar y corff dŵr er mwyn bodloni anghenion amgylcheddol y pysgod sy’n cael eu rhyddhau
- nodi rhywogaethau pysgod yn ôl math a chyflwr
- cadarnhau bod dogfennaeth ar gael i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol perthnasol
- cynnal y lefelau hylendid a bioddiogelwch priodol wrth stocio pysgod mewn pysgodfa
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sy’n gysylltiedig â pharatoi i stocio pysgod mewn pysgodfa
- gofynion amgylcheddol rhywogaethau pysgod sy’n cael eu stocio’n gyffredin
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n gysylltiedig â symud pysgod i mewn i bysgodfa a’u stocio yno
- pam mae’n bwysig nad oes clefydau ar y pysgod i’w stocio
- caniatadau stocio pysgod a sut a ble i gael trwyddedau/hawlenni i stocio pysgod mewn pysgodfa
- sut i adnabod rhywogaethau pysgod yn ôl math a chyflwr
- anghenion amgylcheddol pysgod sy’n cael eu stocio mewn pysgodfa
- sut i adnabod cynefin ac amodau i gefnogi gwahanol gamau bywyd pysgod
- y rhesymau pam y gall fod angen stocio pysgod a’r risg gysylltiedig
- y ffactorau sy’n dylanwadu ar gapasiti cario pysgodfa
- pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch a’u rôl o ran lleihau risgiau i’r bysgodfa
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Corff dŵr – croniad sylweddol o ddŵr. Mae’r term gan amlaf yn cyfeirio at gefnforoedd, moroedd a llynnoedd, ond mae’n cynnwys pyllau llai o ddŵr fel pyllau a gwlypdiroedd.
Y “capasiti cario” yw nifer y pysgod y gall corff dŵr eu dal yn llwyddiannus.
Ffactorau sy’n effeithio ar gyrff dŵr:
- tymheredd y dŵr
- ansawdd y dŵr
- dyfnder
- a oes bwyd ar gael.
Caniatadau stocio:
Caniatâd i symud pysgod i bysgodfa ac ohoni.