Sefydlu a gosod systemau atal cerbydau
URN: LANFe9
Sectorau Busnes (Suites): Ffensio,Adeiladu a Chynnal a Chadw Ffyrdd
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio sut i sefydlu a gosod systemau atal cerbydau (VRS).
Mae'n cynnwys sefydlu, lleoli a gosod pyst a sefydlu a gosod cydrannau ar byst ar gyfer VRS, yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau.
Os ydych yn defnyddio offer neu beiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gosodwyr VRS sydd yn gweithio ar briffyrdd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau'r cwmni
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- gwneud eich gwaith yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- dewis a pharatoi'r offer, y cyfarpar a'r adnoddau gofynnol
- gwirio er mwyn cadarnhau bod amgylchedd gwaith diogel wedi cael ei sefydlu
- cael cydrannau o'r math, y deunydd, yr ansawdd a'r radd benodol sy'n ofynnol i wneud y gwaith
- defnyddio'r arferion gwaith a argymhellir gan y diwydiant i sefydlu a gosod cymhorthion ar gyfer systemau atal cerbydau ar linellau, lefelau ac onglau penodedig yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- defnyddio arferion gwaith a argymhellir gan y diwydiant i gydosod systemau atal cerbydau i fodloni'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- defnyddio arferion gwaith a argymhellir gan y diwydiant i sefydlu, gosod, tensiynu lle bo angen a gosod cydrannau wedi eu cydosod yn ddiogel ar linellau a lefelau penodedig
- cynnal integredd gorffeniadau amddiffynnol wrth osod
- defnyddio, cynnal a chadw a storio offer, cyfarpar ac adnoddau yn ddiogel ac mewn cyflwr glân y gellir eu gwasanaethu
- monitro a chadw arwyddion a rhwystrau amddiffynnol mewn cyflwr gweithredol da, o fewn lefel eich cyfrifoldeb
- gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel i leihau risg amgylcheddol, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
- gwneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn effeithio cyn lleied â phosibl ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â sefydlu, lleoli a gosod systemau atal cerbydau
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y dasg i'w chyflawni
- y gofynion a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cael mynediad i'r safle
- y rhesymau dros reoli traffig wrth weithio gyferbyn â phriffyrdd a systemau trafnidiaeth eraill
- y mathau o arwyddion a rhwystrau amddiffynnol a ddefnyddir yn y diwydiant ffensio
- y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â gosod arwyddion a rhwystrau, yn cynnwys cynlluniau trwydded waith
- ble i gael y cyfarwyddiadau a'r manylebau sy'n ofynnol i wneud eich gwaith
- y mathau o offer a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer sefydlu a gosod systemau atal cerbydau a sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- y mathau gwahanol ac adeiladwaith systemau ffensys diogelwch cerbydau
- y cydrannau a ddefnyddir mewn cysylltiad â ffensys diogelwch cerbydau a'u defnydd
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer cydosod ffensys diogelwch cerbydau a chydrannau ffensys
- yr arferion gwaith a argymhellir yn y diwydiant a ddefnyddir ar gyfer trin a gosod pyst
- yr arferion gwaith a argymhellir yn y diwydiant ar gyfer darparu cymhorthion dros dro ac alinio a lefelu pyst wedi eu gosod mewn concrid
- y rhesymau dros, a'r dulliau ar gyfer, gosod pyst i ganiatáu ar gyfer tensiwn
- y ffactorau sy'n effeithio ar sefydlu a'r dull o osod pyst a chydrannau
- y mathau o ôl-lenwi a'r dulliau atgyfnerthu
- y rhagofalon i'w cymryd i osgoi afluniad yn ystod y broses densiynu
- yr arferion gwaith a argymhellir yn y diwydiant ar gyfer gosod deunyddiau ffensys ar byst
- y materion sydd yn digwydd wrth gyfuno mathau gwahanol o ddeunyddiau
- y mathau gwahanol o orffeniadau amddiffynnol a ddefnyddir ar gyfer systemau atal cerbydau, pam y caiff y rhain eu defnyddio a'r dulliau o gynnal eu huniondeb wrth eu gosod
- y rhesymau ar gyfer defnyddio trosiannau a sut cânt eu gosod
- y rhesymau dros ddefnyddio terfynell a sut caiff ei gosod
- terfynau eich cyfrifoldeb wrth ymdrin ag anawsterau sydd yn codi yn ystod y gwaith
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy'n rheoli'r gwaith o waredu gwastraff a deunyddiau dros ben
- y gofynion storio ar gyfer offer, cyfarpar ac adnoddau
- y gofynion storio ar gyfer arwyddion a rhwystrau amddiffynnol
- sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cyfarwyddiadau a manylebau gynnwys:
- cynlluniau/darluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau cynhyrchwyr
- gofynion cwsmeriaid
- safonau ansawdd e.e. BSI, CE
- cyfarwyddiadau llafar
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANFe9
Galwedigaethau Perthnasol
Ffensio
Cod SOC
5319
Geiriau Allweddol
ffens; postyn; VRS; gosod; rhwystr; priffordd