Cloddio, paratoi a ffurfio sylfeini ar gyfer systemau atal cerbydau
URN: LANFe8
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Ffensio,Adeiladu a Chynnal a Chadw Ffyrdd 
                    Datblygwyd gan: Lantra
                    Cymeradwy ar: 
2019                        
                    
                Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio sut i gloddio, paratoi a ffurfio sylfeini ar gyfer systemau atal cerbydau (VRS).
Mae'n cynnwys cloddio, paratoi a ffurfio sylfeini ar gyfer VRS yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau.
Os ydych yn defnyddio offer neu gyfarpar bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gosodwyr VRS sydd yn gweithio ar briffyrdd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau'r cwmni
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- gwneud eich gwaith yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- dewis a pharatoi'r offer, y cyfarpar a'r adnoddau gofynnol
- gwirio er mwyn cadarnhau bod amgylchedd gwaith diogel wedi cael ei sefydlu
- defnyddio arferion gwaith a argymhellir gan y diwydiant i gloddio a pharatoi'r ddaear yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau gofynnol
- gosod concrid a'i gywasgu i'r ffurf er mwyn cryfder, maint, proffil a gorffeniad y sylfaen ar gyfer systemau atal cerbydau yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- sefydlu'r ddarpariaeth ofynnol i gynnal y gwaith o osod pyst yn y dyfodol
- defnyddio, cynnal a chadw a storio offer, cyfarpar ac adnoddau yn ddiogel ac mewn cyflwr glân y gellir eu gwasanaethu
- monitro a chadw arwyddion a rhwystrau amddiffynnol mewn cyflwr gweithredol da o fewn lefel eich cyfrifoldeb
- gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben i leihau'r risg amgylcheddol, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
- gwneud eich gwaith mewn ffordd sy'n cael yr effaith leiaf posibl ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â gwaith cloddio
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y dasg i'w chyflawni
- y gofynion a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cael mynediad i'r safle
- y rhesymau dros reoli traffig wrth weithio gyferbyn â phriffyrdd a systemau trafnidiaeth eraill
- y mathau o arwyddion a rhwystrau amddiffynnol a ddefnyddir yn y diwydiant ffensio
- y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â gosod arwyddion a rhwystrau, yn cynnwys cynlluniau trwydded waith
- ble i gael y cyfarwyddiadau a'r manylebau sy'n ofynnol i wneud eich gwaith
- y mathau o offer a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer cloddio tyllau pyst a ffosydd stribed a sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- y gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd gwasanaethau neu is-strwythurau anhysbys yn cael eu canfod
- y gweithdrefnau i'w dilyn os yw'r gwasanaethau neu'r is-strwythurau wedi eu niweidio 
- sut a phryd y dylid defnyddio cymhorthion dros dro i gefnogi cloddfeydd 
- y rhagofalon i'w cymryd pan fydd siafftiau neu is-strwythurau cudd yn cael eu canfod
- y dulliau a'r cymarebau a ddefnyddir ar gyfer cymysgu, gosod, cywasgu, gorffen a chaledu concrid
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer ffurfio pocedi mewn concrid ar gyfer gosod pyst yn y dyfodol
- y technegau a ddefnyddir ar gyfer ffurfio eitemau gosod
- sut i ffurfio sylfaen mewn daear feddal neu ansefydlog
- terfynau eich cyfrifoldeb wrth ymdrin ag anawsterau sydd yn codi yn ystod y gwaith
- y gofynion storio ar gyfer offer, cyfarpar ac adnoddau
- y gofynion storio ar gyfer arwyddion a rhwystrau amddiffynnol
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy'n rheoli'r gwaith o waredu gwastraff a deunyddiau dros ben
- sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cyfarwyddiadau a manylebau gynnwys:
- cynlluniau/darluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau'r cynhyrchydd
- gofynion y cwsmer
- safonau ansawdd e.e. BSI, CE
- cyfarwyddiadau llafar
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Lantra
        
    
URN gwreiddiol
        LANFe8
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Ffensio        
    
Cod SOC
        5319
        
    
Geiriau Allweddol
            VRS; rhwystr; priffordd