Lleoli a gosod cydrannau ffensys
URN: LANFe7
Sectorau Busnes (Suites): Ffensio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn disgrifio sut i leoli a gosod cydrannau ffensys.
Mae’n cynnwys yr ystod lawn o systemau ffensio a chydrannau ffensio a ddefnyddir yn y diwydiant.
Os ydych yn defnyddio offer neu beiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer gosodwyr ffensys. Gellir ei chymhwyso i gefnogi unrhyw weithrediad gosod ffensys.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau’r cwmni
2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
3. gwneud eich gwaith yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
4. dewis a pharatoi’r offer a’r cyfarpar gofynnol
5. gwirio er mwyn cadarnhau bod amgylchedd gwaith diogel wedi cael ei sefydlu
6. cael cydrannau ffensys o fath, deunydd, ansawdd a gradd benodol
7. defnyddio arferion gwaith a argymhellir yn y diwydiant i baratoi a chydosod cydrannau ffensys i fodloni’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
8. defnyddio arferion gwaith perthnasol i leoli a gosod cydrannau ffensys yn ddiogel ar linellau a lefelau penodedig
9. cynnal integredd gorffeniadau amddiffynnol wrth osod
10. defnyddio, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar yn ddiogel ac mewn cyflwr glân sydd yn hawdd ei wasanaethu
11. gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel i leihau perygl amgylcheddol, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
12. gwneud eich gwaith mewn ffordd sy’n effeithio cyn lleied â phosibl ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi eu heffeithio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol sy'n gysylltiedig â pharatoi, lleoli a gosod cydrannau ffensys
- y peryglon a'r risg ychwanegol sydd yn gysylltiedig â gosod ffensys dros ddau fetr o uchder
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y dasg i'w chyflawni
- y gofynion a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cael mynediad at y safle
- y gofynion penodol ar gyfer cynlluniau trwydded waith
- y mathau o arwyddion a rhwystrau amddiffynnol a ddefnyddir yn y diwydiant ffensio
- y rhesymau dros reoli traffig wrth weithio gerllaw priffyrdd a systemau trafnidiaeth eraill
- ble i gael y cyfarwyddiadau a'r manylebau sy'n ofynnol i wneud y gwaith
- y mathau o offer a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer lleoli a gosod cydrannau ffensio a sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer defnyddio offer a chyfarpar wedi eu pweru
- y cydrannau sy'n ofynnol ar gyfer y math o ffens yr ydych yn ei osod a'u diben
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer cydosod ffensys a chydrannau ffensys
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer gosod cydrannau ffensys i byst
- y mathau gwahanol o orffeniadau amddiffynnol, pam y cânt eu defnyddio a'r dulliau o gynnal eu hintegredd wrth osod
- y rhesymau dros densiynu cydrannau wrth osod systemau straen/tensiwn a'r rhagofalon i'w cymryd er mwyn osgoi camffurfio yn ystod y broses densiynu
- terfynau eich cyfrifoldeb wrth ymdrin â phroblemau sydd yn codi yn ystod y gwaith
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy'n rheoli gwaredu gwastraff a deunydd dros ben
- y gofynion storio ar gyfer offer a chyfarpar
- sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi eu heffeithio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cydrannau ffensys gynnwys:
- byrddau
- rheiliau
- paneli
- weiren wedi ei thynnu
- masgl
- bwcedi
- trawstiau
- VRS
- pontydd
- terfynellau
Gallai cyfarwyddiadau a manylebau gynnwys:
- cynlluniau/darluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau cynhyrchwyr
- gofynion cwsmeriaid
- safonau ansawdd e.e. BSI, CE
- cyfarwyddiadau llafar
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANFe7
Galwedigaethau Perthnasol
Ffensio
Cod SOC
5319
Geiriau Allweddol
ffensio; cydrannau; paneli; byrddau; weiren; VRS; masgl; rheiliau; trawstiau