Sefydlu a gosod pyst ffensys
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio sut i sefydlu a gosod pyst ffensys.
Mae'n cynnwys yr ystod lawn o fathau o ffensys a systemau ffensio a ddefnyddir yn y diwydiant.
Mae'r safon yn cynnwys sefydlu a gosod pyst yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau.
Os ydych yn defnyddio offer neu beiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gosodwyr ffensys. Gellir ei defnyddio i gefnogi unrhyw weithrediad gosod ffensys.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau'r cwmni
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- gwneud eich gwaith yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- dewis a pharatoi'r offer a'r cyfarpar gofynnol
- gwirio er mwyn cadarnhau bod amgylchedd gwaith diogel wedi cael ei sefydlu
- cael deunyddiau ffensys o fath, deunydd, ansawdd a gradd a nodwyd
- defnyddio arferion gwaith a argymhellir gan y diwydiant i sefydlu a gosod pyst ffensys ar linellau, lefelau ac onglau penodol, yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- defnyddio, cynnal a chadw a storio offer, cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel yn mewn cyflwr glân sydd yn hawdd ei wasanaethu
- gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel er mwyn lleihau'r risg amgylcheddol, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
- gwneud eich gwaith mewn ffordd sy'n effeithio cyn lleied â phosibl ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â sefydlu a gosod pyst
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y dasg i'w chyflawni
- y gofynion a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cael mynediad i'r safle
- y gofynion penodol ar gyfer cynlluniau trwydded waith
- y mathau o arwyddion a rhwystrau amddiffynnol a ddefnyddir yn y diwydiant ffensio
- y rhesymau dros reoli traffig wrth weithio gerllaw priffyrdd a systemau trafnidiaeth eraill
- ble i gael y cyfarwyddiadau a'r manylebau sy'n ofynnol i wneud y gwaith
- y mathau o offer a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer sefydlu a gosod pyst ffensys a sut i'w paratoi, eu defnyddio a'u cynnal a'u cadw'n ddiogel ac yn gywir
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer defnyddio offer a chyfarpar wedi ei bweru
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer trin a gosod pyst a chroeslathau
- y ffactorau sy'n effeithio ar y gosodiad a'r dull o sefydlu pyst
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer darparu cymhorthion dros dro wrth osod pyst
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer alinio a lefelu pyst
- y rhesymau dros osod pyst er mwyn caniatáu ar gyfer tensiynu, a'r dulliau o wneud hynny
- y mathau o ôl-lenwad a dulliau atgyfnerthu
- y peryglon a'r risg ychwanegol sydd yn gysylltiedig â gosod pyst dros ddau fetr o uchder
- pwysigrwydd cynnal llinellau ffiniau
- terfynau eich cyfrifoldeb wrth ymdrin ag anawsterau a brofir yn ystod y gwaith
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy'n rheoli gwaredu gwastraff a deunydd dros ben
- y gofynion storio ar gyfer offer a chyfarpar
- sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi eu heffeithio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cyfarwyddiadau a manylebau gynnwys:
- cynlluniau/darluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau cynhyrchwyr
- gofynion cwsmeriaid
- safonau ansawdd e.e. BSI, CE
- cyfarwyddiadau llafar
Gallai'r dull o osod pyst gynnwys:
wedi eu ffusto
wedi eu gosod mewn sylfeini concrid
- wedi eu bolltio i lawr
- mewn soced
- wedi eu hôl-lenwi a'u hatgyfnerthu
- wedi eu gosod ar yr arwyneb
- wedi eu clampio
Mae pyst a chroeslathau yn cynnwys:
- ffens
- VRS
- pen clawdd
- clwyd