Paratoi’r ddaear neu’r arwyneb ar gyfer gosod ffensys
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio sut i baratoi'r ddaear neu'r arwyneb ar gyfer gosod ffensys.
Mae'r safon yn cynnwys paratoi ac addasu lefelau'r ddaear ar gyfer llinellau a graddiant, gan ddefnyddio peiriannau lle bo angen. Mae hefyd yn cynnwys ffurfio sylfeini yn barod ar gyfer gosod ffensys sefydlog yn y ddaear neu baratoi arwynebeddau ar gyfer gosod ffensys sefydlog ar yr arwyneb.
Os ydych yn defnyddio offer neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gosodwyr ffensys. Gellir ei chymhwyso i gefnogi unrhyw weithrediad gosod ffensys.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau'r cwmni
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- gwneud eich gwaith yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- dewis a pharatoi'r offer, y peiriannau, y cyfarpar a'r deunyddiau gofynnol
- gwirio er mwyn cadarnhau bod amgylchedd gwaith diogel wedi cael ei sefydlu
- defnyddio arferion gwaith a argymhellir gan y diwydiant i baratoi'r ddaear neu'r arwyneb ar gyfer gosod ffensys i fodloni'r cyfarwyddiadau a'r manylebau gofynnol
- nodi ac adrodd ynghylch unrhyw wasanaethau ansiartredig, is-strwythurau, siafftiau neu rwystrau eraill, niwed neu ddiffygion yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- sefydlu arwyddion rhybudd a rhwystrau clir er mwyn diogelu a nodi presenoldeb gwasanaethau neu is-strwythurau amlwg
- defnyddio, cynnal a chadw a storio offer, peiriannau a chyfarpar yn ddiogel ac mewn cyflwr glân a hawdd i'w cynnal
- gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel i leihau'r perygl i'r amgylchedd, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
- gwneud eich gwaith mewn ffordd sy'n achosi'r effaith leiaf posibl i'r ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â pharatoi'r ddaear neu'r arwyneb ar gyfer gosod ffensys
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y dasg i'w chyflawni
- y gofynion a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cael mynediad at y safle
- y gofynion penodol ar gyfer cynlluniau trwydded waith
- y math o arwyddion a rhwystrau amddiffynnol a ddefnyddir yn y diwydiant ffensio
- y rhesymau dros reoli traffig wrth weithio gerllaw priffyrdd a systemau trafnidiaeth eraill
- ble i gael y cyfarwyddiadau a'r manylebau sy'n ofynnol i wneud y gwaith
- y mathau o offer, peiriannau, cyfarpar a deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer paratoi'r ddaear neu'r arwyneb ar gyfer gosod ffensys a sut i baratoi, defnyddio a chynnal y rhain yn ddiogel ac yn gywir
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer defnyddio offer pŵer, peiriannau a chyfarpar
- y technegau a ddefnyddir i amlinellu lefelau'r ddaear i gyd-fynd â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- nodweddion mathau gwahanol o ddaear a pha wahaniaeth y mae'r rhain yn ei wneud i'r broses o addasu'r ddaear
- y dulliau a ddefnyddir i adfer y ddaear
- sut i ffurfio sylfaen ar dir meddal neu ansefydlog
- sut a phryd y dylid defnyddio cymhorthion dros dro
- y dulliau, y graddau a'r cymarebau a ddefnyddir ar gyfer cymysgu, gosod, cywasgu, gorffen a chaledu concrid
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer ffurfio pocedi neu gastio eitemau gosod i mewn
- sut i ddrilio, trwsio a phrofi socedi sylfaen yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- y gweithdrefnau i'w dilyn os yw gwasanaethau ansiartredig, is-strwythurau, siafftiau neu rwystrau eraill, niwed neu ddiffygion yn cael eu nodi
- pwysigrwydd cynnal llinellau ffiniau
- terfynau eich cyfrifoldeb wrth ymdrin ag anawsterau a brofir yn ystod y gwaith
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy'n rheoli gwaredu gwastraff a deunydd dros ben
- y gofynion storio ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar
- sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai gael ei effeithio
Cwmpas/ystod
Paratoi'r ddaear neu'r arwyneb yn barod ar gyfer gosod ffensys neu wneud o leiaf un o'r canlynol:
- addasu lefelau'r ddaear
- cloddio tyllau pyst
- palu ffosydd stribed
- caledu concrid
- trwsio socedi sylfaen
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cyfarwyddiadau a manylebau gynnwys:
- cynlluniau/darluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau cynhyrchwyr
- gofynion cwsmeriaid
- safonau ansawdd e.e. BSI, CE
- cyfarwyddiadau llafar