Derbyn, ymdrin a storio deunyddiau ffensio ar y safle
URN: LANFe4
Sectorau Busnes (Suites): Ffensio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio sut i dderbyn, ymdrin a storio deunyddiau ffensio ar y safle.
Mae'r safon hon yn cynnwys:
– derbyn deunyddiau ffensio
– dadlwytho ac ymdrin â deunyddiau ffensio yn ddiogel
– storio deunyddiau ffensio er mwyn sicrhau mynediad pan fo angen
– storio deunyddiau ffensio i atal niwed neu golled.
Os ydych yn defnyddio offer codi dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gosodwyr ffensys. Gellir ei chymhwyso i gefnogi unrhyw weithrediad gosod ffensys.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau'r cwmni
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- cael y wybodaeth ofynnol i allu derbyn a storio deunyddiau ffensio ar y safle
- gwirio math, ansawdd a faint o ddeunyddiau sydd wedi eu derbyn yn erbyn y wybodaeth, y cyfarwyddiadau a'r manylebau a chymryd y camau gofynnol i ymdrin ag ymholiadau ac anghysondebau
- defnyddio'r offer perthnasol a chymhwyso technegau ymdrin â llaw yn ddiogel a symud deunyddiau ffensio yn ddiogel
- ymdrin â deunyddiau yn ddiogel yn unol â'u nodweddion, yn cynnwys deunyddiau peryglus
- storio deunyddiau yn ddiogel mewn ardaloedd neilltuol, yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau er mwyn atal colled neu niwed a diogelu rhag yr amgylchedd
- gwneud eich gwaith mewn ffordd sy'n achosi'r effaith leiaf posibl ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi eu heffeithio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig ag ymdrin a storio deunyddiau ffensio ar y safle
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y dasg i'w chwblhau
- ble i gael y cyfarwyddiadau a'r manylebau sy'n ofynnol i wneud y gwaith
- y mathau a dibenion ffynonellau gwybodaeth gwahanol am y deunyddiau a dderbyniwyd
- pwysigrwydd trin a symud deunydd ffensio yn ddiogel
- y rhagofalon i'w cymryd wrth ymdrin â deunyddiau peryglus
- y gofynion storio ar gyfer mathau gwahanol o ddeunyddiau
- diben a'r defnydd cywir o stribedi gofodi wrth storio
- pwysigrwydd gweithdrefnau cylchdroi stoc sydd yn gysylltiedig ag oes silff
- effeithiau niwed amgylcheddol ar ddeunyddiau a'r camau ataliol i'w cymryd i gyfyngu'r effeithiau hyn
- sut i ymdrin ag ymholiadau ac anghysondebau a nodir
- sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi eu heffeithio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai gwybodaeth gynnwys:
- archebion
- anfonebau
- nodiadau dosbarthu
- pwysau
- gwybodaeth codi
- gwybodaeth storio
- taflenni data COSHH
- manylebau
Gallai cyfarwyddiadau a manylebau gynnwys:
- cynlluniau/darluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau cynhyrchwyr
- gofynion cwsmeriaid
- safonau ansawdd e.e. BSI, CE
- cyfarwyddiadau llafar
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANFe4
Galwedigaethau Perthnasol
Ffensio
Cod SOC
5319
Geiriau Allweddol
cydrannau; deunyddiau; ffensio; storio