Sefydlu llinellau a lefelau ar y safle

URN: LANFe3
Sectorau Busnes (Suites): Ffensio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2019

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn disgrifio sut i sefydlu llinellau a lefelau ar y safle wrth osod ffensys. 

Mae'n cynnwys gweithio yn unol â manylebau i sefydlu mannau cyfeirio i osod llinellau a lefelau ar safle ffensio.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gosodwyr ffensys. Gellir ei chymhwyso i gefnogi unrhyw weithrediad gosod ffensys.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau'r cwmni
  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
  3. gwneud eich gwaith yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  4. dewis a pharatoi'r offer a'r cyfarpar gofynnol
  5. cadarnhau bod amgylchedd gwaith diogel wedi cael ei sefydlu
  6. nodi ac adrodd ynghylch unrhyw amrywiadau rhwng cyfarwyddiadau a manylebau a dimensiynau gwirioneddol y safle
  7. sefydlu llinellau a lefelau yn gywir, gan weithio o fannau cyfeirio
  8. defnyddio, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar yn ddiogel ac mewn cyflwr glân a hawdd i'w gwasanaethu
  9. gwneud eich gwaith mewn ffordd sy'n achosi'r effaith leiaf posibl ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â sefydlu llinellau a lefelau ar y safle
  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y dasg i'w chyflawni
  3. y gofynion a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cael mynediad at y safle
  4. y gofynion penodol ar gyfer cynlluniau trwyddedau gwaith
  5. y mathau o arwyddion a rhwystrau amddiffynnol a ddefnyddir yn y diwydiant ffensio
  6. y rhesymau dros reoli traffig wrth weithio yn agos at briffyrdd a systemau trafnidiaeth eraill
  7. ble i gael y cyfarwyddiadau a'r manylebau sy'n ofynnol ar gyfer gwneud y gwaith
  8. y rhesymau dros sefydlu mannau cyfeirio a'r dulliau o wneud hyn a sut i'w diogelu rhag symud yn ystod y gwaith
  9. y dulliau o drosglwyddo lefelau
  10. achosion posibl amrywiadau rhwng dimensiynau penodedig a gwirioneddol y safle
  11. y dulliau a ddefnyddir ar gyfer nodi a gosod llinellau a lefelau
  12. y dulliau a ddefnyddir ar gyfer sefydlu newid mewn cyfeiriad, yn cynnwys onglau a chromliniau
  13. sut i sefydlu mannau mynediad ac allanfeydd
  14. pwysigrwydd cynnal llinellau ffiniau
  15. terfynau eich cyfrifoldeb wrth ymdrin ag anawsterau sydd yn codi yn ystod y gwaith
  16. y gofynion storio ar gyfer offer a chyfarpar
  17. sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi eu heffeithio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Gallai'r cyfarwyddiadau a'r manylebau gynnwys:

  • cynlluniau/darluniau
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • canllawiau cynhyrchwyr
  • gofynion cwsmeriaid
  • safonau ansawdd e.e. BSI, CE
  • cyfarwyddiadau llafar

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFe3

Galwedigaethau Perthnasol

Ffensio

Cod SOC

5319

Geiriau Allweddol

pegiau; ffens; llinell; lefel