Sefydlu a gosod gatiau a rhwystrau wedi eu pweru
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio sut i sefydlu a gosod gatiau a rhwystrau wedi eu pweru.
Mae'n cynnwys yr ystod lawn o gatiau wedi eu pweru (sydd yn siglo ac yn llithro) a rhwystrau a ddefnyddir yn y diwydiant ffensio. Dylai'r gosodwr ddilyn cwrs cymeradwy'r cynhyrchydd ar gyfer y math o giât wedi ei phweru y maent yn bwriadu ei gosod.
Mae'r safon yn cynnwys gosod gatiau a rhwystrau wedi eu pweru i byst, yn unol â manylebau.
DS Nid yw'r safon yn cynnwys y gwaith trydanol sy'n ofynnol ar gyfer gatiau a rhwystrau awtomataidd, y dylid cael ei wneud gan drydanwr cymwys a medrus yn unig.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gosodwyr ffensys.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau'r cwmni
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- gwneud eich gwaith i gyd yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- dewis a pharatoi'r offer a'r cyfarpar gofynnol
- gwirio er mwyn cadarnhau bod amgylchedd gwaith diogel wedi cael ei sefydlu
- cael cydrannau gatiau neu rwystrau o'r math, deunydd, ansawdd a'r radd benodedig
- defnyddio arferion gwaith a argymhellir gan y diwydiant i baratoi a chydosod cydrannau gatiau neu rwystrau i fodloni'r manylebau
- defnyddio arferion gwaith a argymhellir gan y diwydiant i sefydlu a gosod gatiau neu rwystrau wedi eu pweru yn ddiogel
- cysylltu'r mecanwaith pweru i'r giât neu'r rhwystr yn unol â'r manylebau
- cysylltu synwyryddion a rheolwyr yn unol â'r manylebau
- cadarnhau bod y giât neu'r rhwystr wedi ei alinio a'i lefelu'n gywir
- sicrhau bod y giât yn agor, yn cau ac yn bachu'n gywir a gwneud addasiadau lle bo angen
- cadarnhau bod y nodweddion diogelwch ar y giât neu'r rhwystr yn gweithio'n gywir ac yn unol â'r manylebau
- cadarnhau bod y cwsmer wedi ei hyfforddi'n llawn ac yn ymwybodol o weithrediad y giât neu'r rhwystr, y nodweddion diogelwch a'r gofynion cynnal a chadw
- comisiynu'r giât neu'r rhwystr sydd wedi ei bweru yn unol â'r gofynion
- cynnal integredd y gorffeniadau amddiffynnol wrth osod
- defnyddio, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar yn ddiogel ac mewn cyflwr glân sydd yn hawdd eu gwasanaethu
- gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel i leihau risg amgylcheddol, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
- gwneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn effeithio cyn lleied â phosibl ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion amgylcheddol ac iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â pharatoi, sefydlu a gosod gatiau a rhwystrau wedi eu pweru
- y peryglon a'r risg sydd yn gysylltiedig â gosod gatiau a rhwystrau, gan dalu sylw i fannau sydd yn gwasgu ac yn dal
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y dasg
- y gofynion a'r gweithdrefnau ar gyfer cael mynediad i'r safle gwaith
- y gofynion penodol ar gyfer cynlluniau trwydded waith
- y mathau o arwyddion a rhwystrau amddiffynnol a ddefnyddir gan y diwydiant ffensio
- y rhesymau dros reoli traffig wrth weithio gerllaw priffyrdd a systemau trafnidiaeth eraill
- ble i gael y cyfarwyddiadau a'r manylebau sy'n ofynnol i wneud y gwaith
- y mathau o offer a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer sefydlu a gosod gatiau neu rwystrau wedi eu pweru, a sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer defnyddio offer a chyfarpar wedi eu pweru
- y cydrannau sy'n ofynnol ar gyfer y math o giât neu rwystr wedi ei bweru yr ydych yn ei osod a'u diben
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer cydosod cydrannau giât neu rwystr
- sut i nodi ac asesu pwysau a chanolbwynt cydbwysedd gatiau neu rwystrau
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer gosod gatiau neu rwystrau wedi eu pweru ar byst
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer alinio gatiau a rhwystrau fel eu bod yn agor, yn cau ac yn bachu'n gywir
- y gofynion ar gyfer nodweddion diogelwch ar gatiau a rhwystrau wedi eu pweru
- y gwiriadau i'w gwneud i gadarnhau bod y nodweddion diogelwch yn gweithio'n gywir
- y broses gomisiynu ar gyfer giât neu rwystr wedi ei bweru
- y broses o drosglwyddo i'r cwsmer
- sut i roi giât neu rwystr wedi ei bweru allan o wasanaeth os yw'n beryglus
- y mathau gwahanol o orffeniadau amddiffynnol, pam y cânt eu defnyddio a'r dulliau o gynnal eu hintegredd wrth eu gosod
- sut i ymdrin ag unrhyw anawsterau sydd yn codi yn ystod y prosiect o fewn terfynau eich cyfrifoldeb
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sydd yn rheoli gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben
- y gofynion storio ar gyfer offer a chyfarpar
- sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod â diddordeb
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cydrannau gatiau neu rwystrau gynnwys:
- giât
- rhwystr
- cyplysau
- colfachau
- cliciedi
- bolltau
- rheolyddion
- mecanweithiau pŵer
- synwyryddion
- nodweddion diogelwch
Gallai manylebau gynnwys:
- cynlluniau/darluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau cynhyrchwyr
- gofynion cwsmeriaid
- safonau ansawdd e.e. BSI, CE
Dolenni I NOS Eraill
LANFe23 Sefydlu a gosod gatiau a rhwystrau llaw