Sefydlu a gosod gatiau a rhwystrau llaw
URN: LANFe23
Sectorau Busnes (Suites): Ffensio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio sut i sefydlu a gosod gatiau a rhwystrau.
Mae'r safon yn cynnwys sefydlu a gosod gatiau a rhwystrau ar byst, yn unol â manylebau.
Mae'n cynnwys yr ystod lawn o gatiau a rhwystrau llaw a ddefnyddir gan y diwydiant ffensio.
Os ydych yn defnyddio offer neu beiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gosodwyr ffensys. Gellir ei chymhwyso i gefnogi unrhyw weithrediad gosod ffensys.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau'r cwmni
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- gwneud eich gwaith yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- dewis a pharatoi'r offer a'r cyfarpar gofynnol
- gwirio er mwyn cadarnhau bod amgylchedd gwaith diogel wedi cael ei sefydlu
- sicrhau bod pyst â'r fanyleb gywir ar gyfer pwysau'r giât neu'r rhwystr
- cael cydrannau giât neu rwystr â gosodiadau o fath, deunydd, ansawdd a gradd benodedig
- defnyddio arferion gwaith wedi eu hargymell gan y diwydiant i baratoi a chydosod cydrannau giât neu rwystr llaw i fodloni'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- nodi ac asesu pwysau a chanolbwynt cydbwysedd y giât neu'r rhwystr
- defnyddio arferion gwaith a argymhellir gan y diwydiant i sefydlu a gosod y giât neu rwystr llaw yn ddiogel
- cadarnhau bod y giât neu'r rhwystr wedi ei alinio'n iawn ac yn agor, yn cau ac yn bachu'n gywir a gwneud unrhyw addasiadau lle bo angen
- cynnal integredd gorffeniadau amddiffynnol wrth osod
- defnyddio, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar yn ddiogel ac mewn cyflwr glân a hawdd eu gwasanaethu
- gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel i leihau perygl amgylcheddol, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
- gwneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn effeithio cyn lleied â phosibl ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi eu heffeithio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â pharatoi, sefydlu a gosod gatiau a rhwystrau
- y peryglon a'r risg ychwanegol sydd yn gysylltiedig â gosod gatiau a rhwystrau dros ddau fetr o uchder
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y dasg
- y gofynion a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cael mynediad i'r safle
- y gofynion penodol ar gyfer cynlluniau trwydded waith
- y mathau o arwyddion a rhwystrau amddiffynnol a ddefnyddir yn y diwydiant ffensio
- y rhesymau dros reoli traffig wrth weithio gerllaw priffyrdd a systemau trafnidiaeth eraill
- ble i gael y cyfarwyddiadau a'r manylebau sy'n ofynnol i wneud y gwaith
- y mathau o offer a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer sefydlu a gosod gatiau neu rwystrau a sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer defnyddio offer a chyfarpar pŵer
- pwysigrwydd sicrhau bod y pyst â'r fanyleb gywir ar gyfer pwysau'r giât neu'r rhwystr
- y cydrannau a'r gosodiadau sy'n ofynnol ar gyfer y math o giât neu rwystr llaw sy'n cael ei osod a'u diben
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer gydosod cydrannau gatiau neu rwystrau
- sut i nodi ac asesu pwysau a chanolbwynt cydbwysedd gatiau neu rwystrau
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer gosod gatiau neu rwystrau llaw ar byst
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer alinio gatiau a rhwystrau er mwyn iddynt agor, cau a bachu'n gywir
- y mathau gwahanol o orffeniadau amddiffynnol, pam y cânt eu defnyddio a'r dulliau o gynnal eu hintegredd wrth eu gosod
- terfynau eich cyfrifoldeb wrth ymdrin ag anawsterau sydd yn codi yn ystod y gwaith
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy'n rheoli gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben
- y gofynion storio ar gyfer offer a chyfarpar
- sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cydrannau gatiau neu rwystrau gynnwys:
- pyst
- giât
- rhwystr
- cyplysau
- colynnau
- systemau rhedeg (gatiau sy'n llithro)
- system gloi/fachu
Gallai cyfarwyddiadau a manylebau gynnwys:
- cynlluniau/darluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau cynhyrchwyr
- gofynion cwsmeriaid
- safonau ansawdd e.e. BSI, CE
- cyfarwyddiadau llafar
Dolenni I NOS Eraill
LANFe23 Sefydlu a gosod gatiau a rhwystrau pŵer
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANFe23
Galwedigaethau Perthnasol
Ffensio
Cod SOC
5319
Geiriau Allweddol
ffensio; cydrannau; gatiau; rhwystrau