Rheoli a chyflenwi deunyddiau i fodloni gofynion y prosiect ffensio

URN: LANFe22
Sectorau Busnes (Suites): Ffensio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn disgrifio sut i reoli'r gwaith o gyflenwi deunyddiau i fodloni gofynion y prosiect ffensio.

Mae'r safon yn cynnwys dadansoddi manylebau'r prosiect a nodi'r deunyddiau sydd eu hangen i wneud y gwaith.  Mae hefyd yn cynnwys monitro perfformiad cyflenwyr, nodi unrhyw faterion a'u trafod gyda'r bwriad o'u datrys.

Mae'r safon hon wedi ei dylunio ar gyfer rheolwyr contract, goruchwylwyr contract, perchnogion, uwch amcangyfrifwyr, arolygwyr a phrynwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu gofynion er mwyn rheoli'r gwaith o gyflenwi deunyddiau yn erbyn manylebau'r prosiect
  2. gwirio cofnodion stoc a chyfrifo pa stoc newydd fydd ei angen i fodloni gofynion y prosiect ffensio o ran cyflenwi deunyddiau
  3. nodi a gweithredu cyfleoedd ar gyfer gwella'r defnydd o stoc a throsiant stoc
  4. paratoi a gwneud archebion ar gyfer deunyddiau gyda chyflenwyr perthnasol er mwyn bodloni'r gofynion cyflenwi, yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
  5. cynnal trafodaethau gyda chyflenwyr i gynnal cyflenwad cyson o ddeunyddiau sy'n bodloni gofynion y prosiect ffensio
  6. cyfrifo amserlenni ac amserau cyflwyno ar gyfer dosbarthu cyflenwadau
  7. cadw cofnodion o archebion, dosbarthu a sefyllfa'r stoc
  8. gwirio ac ymchwilio i unrhyw broblemau o ran dosbarthu a chymryd y camau perthnasol
  9. rhoi gwybodaeth i gyflenwyr am newidiadau i'r prosiect sydd yn effeithio ar ofynion cyflenwi
  10. monitro perfformiad cyflenwyr yn erbyn gofynion y cwmni a chymryd y camau perthnasol os nad yw'r perfformiad yn bodloni'r gofynion
  11. trefnu ffynonellau cyflenwi amgen, lle bo angen, sy'n bodloni manylebau'r prosiect a gofynion y cwmni, ac amharu cyn lleied ar y prosiect

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y wybodaeth sydd ei hangen i reoli cyflenwi deunyddiau i fodloni gofynion y prosiect ffensio
  2. sut i wirio cofnodion stoc a chyfrifo stoc newydd
  3. sut i nodi a gweithredu cyfleoedd ar gyfer gwella'r defnydd o stoc a throsiant stoc
  4. gweithdrefnau'r cwmni ar gyfer paratoi a gosod archebion
  5. y ffynonellau gwybodaeth am gyflenwyr addas
  6. sut i gynnal trafodaethau gyda chyflenwyr
  7. sut i gyfrifo amserlenni ac amserau cyflwyno ar gyfer dosbarthu cyflenwadau
  8. gofynion y cwmni ar gyfer cadw cofnodion o archebion a rheoli stoc a pham y mae'r rhain yn bwysig
  9. y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth ddosbarthu a'r camau perthnasol i'w cymryd
  10. pwysigrwydd hysbysu cyflenwyr ynghylch unrhyw newidiadau i brosiectau sydd yn gallu effeithio ar ofynion cyflenwi
  11. sut i fonitro a gwerthuso perfformiad cyflenwyr
  12. pwysigrwydd gweithredu pan nad yw perfformiad cyflenwyr yn bodloni gofynion y contract
  13. sut i drefnu cyflenwyr amgen pan na ellir cael stoc gan gyflenwyr ar gontract

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Gallai problemau gyda chyflenwi gynnwys:

  • manyleb cynnyrch
  • maint
  • ansawdd
  • dosbarthu
  • cludo
  • pris
  • argaeledd ac amser cyflwyno
  • colled a niwed
  • storio a thrin

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFe22

Galwedigaethau Perthnasol

Ffensio

Cod SOC

5319

Geiriau Allweddol

ffensio; prosiect; cyflenwadau; deunyddiau