Paratoi a chyhoeddi prisiadau ar gyfer y gwaith
URN: LANFe21
Sectorau Busnes (Suites): Ffensio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio sut i baratoi a chyhoeddi prisiadau ar gyfer gwaith mewn cyd-destun ffensio. Mae'r safon hon yn cynnwys: * cael y dogfennau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer prisio * eu gwirio yn erbyn gofynion y contract * cofnodi amrywiadau * adolygu'r dogfennau * nodi pwy sydd yn gyfrifol am unrhyw waith ychwanegol i gael ei wneud. |
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer rheolwyr contract, perchnogion, arolygwyr, prynwyr a rheolwyr ansawdd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael ac adolygu'r holl ddogfennau perthnasol sy'n ofynnol ar gyfer prisio, eu gwirio yn erbyn gofynion y contract a chofnodi unrhyw amrywiadau
- arolygu a gwirio'r gwaith a wnaed yn erbyn gofynion y contract, cofnodi unrhyw amrywiadau a chynnwys y rhain yn y prisiad
- sicrhau cydymffurfio â'r contract, ac ystyried y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a gofynion perthnasol y cwmni
- cytuno i weithredu i unioni diffyg cydymffurfio, yn unol â thelerau'r contract
- gwerthuso pwy sydd yn atebol am gostau unrhyw waith ychwanegol, cytuno ar hyn gyda'r cleient a chofnodi'r penderfyniad a wnaed
- paratoi a chyhoeddi prisiadau yn unol â thelerau'r contract ac o fewn y graddfeydd amser y cytunwyd arnynt
- rhoi tystiolaeth ddilys i gyfiawnhau a chefnogi'r prisiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a gofynion perthnasol y cwmni sydd yn llywodraethu contractau
- y dulliau gwahanol o fonitro cynnyrch a chydymffurfio â chontract
- sut i gael a gwirio'r holl ddogfennau perthnasol sy'n ofynnol i baratoi a chyhoeddi prisiadau, a chofnodi unrhyw amrywiadau rhwng dogfennau a gofynion contract
- sut i archwilio'r gwaith a wnaed yn erbyn gofynion y contract a chofnodi unrhyw amrywiad rhwng y gwaith a gofynion y contract
- beth mae torri contract yn ei olygu a beth i'w wneud os bydd hyn yn digwydd
- sut i werthuso pwy sydd yn atebol am gostau gwaith ychwanegol
- sut i gyhoeddi prisiadau
- y dystiolaeth y gellir ei defnyddio i gyfiawnhau a chefnogi prisiadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANFe21
Galwedigaethau Perthnasol
Ffensio
Cod SOC
5319
Geiriau Allweddol
ffensio; contractau; prisiau