Rheoli contractau yn erbyn cyllidebau y cytunwyd arnynt
URN: LANFe20
Sectorau Busnes (Suites): Ffensio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio sut i reoli contractau yn erbyn cyllidebau y cytunwyd arnynt.
Mae'r safon hon yn cynnwys:
- datblygu a gweithredu systemau rheoli maint a chost
- cyfrifo gwerthoedd a maint y gwaith a data costau o amcangyfrifon maint y gwaith a chyfraddau tâl.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer rheolwyr contract, arolygwyr, prynwyr a rheolwyr ansawdd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- datblygu a gweithredu'r systemau rheoli maint a chostau perthnasol er mwyn rheoli contractau yn erbyn cyllidebau y cytunwyd arnynt, a rhoi arwydd o amrywiadau
- casglu, cofnodi a throsglwyddo data ar faint a chost, yn unol â gofynion y cwmni
- cyfrifo'r gwerthoedd gwaith a maint a data cost o amcangyfrifon maint y gwaith a chyfraddau tâl
- paratoi data maint a chost yn gywir a'i gyflwyno ar fformat fydd o gymorth i wneud penderfyniadau
- nodi amrywiadau a thueddiadau o ran data maint a chost, meintioli a chostio'r rhain a'u cofnodi ac adrodd arnynt, yn unol â gofynion y cwmni
- archwilio unrhyw amrywiadau a chytuno ar weithredu perthnasol a'i roi ar waith
- datblygu a gweithredu systemau i nodi cyfleoedd ar gyfer arbedion cost
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddatblygu a gweithredu'r systemau rheoli maint a chost perthnasol i reoli contractau yn erbyn cyllidebau y cytunwyd arnynt, a rhoi arwydd o'r amrywiadau
- sut i gasglu a chofnodi data maint a chost a'i drosglwyddo, yn unol â gofynion y cwmni
- sut i gyfrifo gwerth y gwaith a data maint a chost o amcangyfrifon maint y gwaith a chyfraddau tâl
- sut i baratoi a chyflwyno data maint a chost yn gywir ar fformat fydd yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau
- sut i nodi amrywiadau a thueddiadau mewn data maint a chost
- sut i feintioli a chostio tueddiadau mewn data maint a chost
- sut i archwilio unrhyw amrywiadau a chytuno ar gamau priodol a'u rhoi ar waith
- sut i roi systemau ar waith i nodi cyfleoedd ar gyfer arbedion cost
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANFe20
Galwedigaethau Perthnasol
Ffensio
Cod SOC
5319
Geiriau Allweddol
cyllidebau; contractau; costau; maint