Rheoli adnoddau i gefnogi gosod ffensys
URN: LANFe18
Sectorau Busnes (Cyfresi): Ffensio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio sut i reoli'r adnoddau sy'n ofynnol i gefnogi gosod ffensys. Mae'n cynnwys adnoddau dynol a ffisegol.
Mae'r safon hon yn cynnwys:
- nodi'r gofynion sgiliau ar gyfer gosod ffensys
- trefnu pobl i fodloni'r gofynion sgiliau
- monitro perfformiad cyflogeion a chontractwyr
- ysgogi pobl
- hyfforddi pobl
- trefnu offer a chyfarpar i gefnogi gosod ffensys
- cynnal a chadw offer a chyfarpar.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer goruchwylwyr gosod ffensys. Gellir ei chymhwyso i gefnogi unrhyw weithrediad gosod ffensys.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rheoli adnoddau dynol i gefnogi gosod ffensys
- cadarnhau bod polisïau iechyd a diogelwch a gofynion asesu risg yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
- cadarnhau bod y gweithlu'n gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) i wneud y gwaith gofynnol
- monitro iechyd, llesiant a diogelwch y gweithlu
- defnyddio'r gweithlu gan gadarnhau bod ganddynt y sgiliau, yr hyfforddiant a'r ardystiad gofynnol i wneud y gwaith ac yn meddu ar y trwyddedau gofynnol a chardiau a gydnabyddir gan y diwydiant i weithio ar y safle
- cadarnhau bod y gweithlu wedi cael gwybod am y safonau gwaith gofynnol ac ymddygiad ar y safle
- monitro ansawdd a dibynadwyedd y gweithlu
- cefnogi'r gweithlu er mwyn sicrhau y gellir cyflawni'r gwaith o osod ffensys
- nodi ac ymdrin â diffygion y gweithlu sy'n effeithio ar gyflawni'r gwaith o osod ffensys
Rheoli adnoddau ffisegol i gefnogi gosod ffensys
- nodi'r gofynion ar gyfer offer a/neu beiriannau er mwyn gwneud y gwaith o'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- cael offer a/neu beiriannau addas i gefnogi gofynion y gwaith o osod ffensys
- gwirio a chadarnhau bod yr offer a/neu'r peiriannau yn bodloni gofynion gweithredol a gofynion cyfreithiol perthnasol
- defnyddio offer a/neu beiriannau i gefnogi gofynion y gwaith o osod ffensys
- cadarnhau bod gan y defnyddwyr y sgiliau, yr hyfforddiant a'r ardystiad gofynnol i weithredu'r offer a/neu'r peiriannau
- cadarnhau bod yr offer a/neu'r peiriannau wedi eu paratoi a'u defnyddio'n ddiogel, ac yn cael eu cadw mewn cyflwr sydd yn hawdd eu gwasanaethu
- cadarnhau bod y gofynion cynnal a chadw ac atgyweirio ar gyfer offer a/neu beiriannau yn cael eu bodloni a'u cofnodi, yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
- sicrhau bod gofynion diogeledd a diogelwch ar gyfer storio offer a/neu beiriannau yn cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Rheoli adnoddau dynol i gefnogi gosod ffensys
- sut i gyfathrebu polisïau iechyd a diogelwch a gofynion asesu risg i'r rheiny sydd yn gwneud y gwaith, a chadarnhau eu bod wedi deall eu cyfrifoldebau
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) y dylid eu gwisgo
- iechyd, llesiant a gofynion diogelwch sydd yn gysylltiedig â gwaith gosod ffensys
- sut i sicrhau bod gan y gweithlu'r sgiliau, yr hyfforddiant a'r ardystiad gofynnol i wneud y gwaith, a bod ganddynt y trwyddedau gofynnol a'r cardiau a gydnabyddir gan y diwydiant i weithio ar y safle
- sut i sefydlu ansawdd a dibynadwyedd gweithlu
- manteision ac anfanteision sydd yn gysylltiedig â gweithluoedd gwahanol yn cynnwys cyflogeion yn unig, contractwyr yn unig a chyflogeion sydd yn cydweithio
- gweithdrefnau gwerthuso ac adrodd y cwmni a ddefnyddir i reoli'r defnydd o'r gweithlu a'u haddasrwydd
- sut i ymdrin â diffygion gweithlu
- sut i gefnogi'r gweithlu i gyflawni'r gwaith a gynlluniwyd o osod ffensys
- sut i roi cyfarwyddyd i bobl a'u hyfforddi i gyflawni'r sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer gosod ffensys
**Rheoli adnoddau ffisegol i gefnogi gosod ffensys**
1. sut i nodi a chael yr offer a/neu'r peiriannau sy'n ofynnol ar gyfer gosod ffensys yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
2. galluoedd yr offer a/neu'r peiriannau sy'n ofynnol i wneud y gwaith gosod gofynnol
3. y peryglon sydd yn gysylltiedig â'r offer a/neu'r peiriannau a ddefnyddir
4. Y gofynion hyfforddiant/ardystiad penodol ar gyfer pobl sy'n defnyddio'r offer a/neu'r peiriannau
5. y gofynion cyfreithiol perthnasol a gofynion y cwmni sy'n rheoli'r defnydd o offer a/neu beiriannau
6. gofynion y cwmni o ran dogfennau ar gyfer monitro'r defnydd o offer a/neu beiriannau a'u haddasrwydd
7. pwysigrwydd dilyn y gweithdrefnau penodedig ar gyfer paratoi a defnyddio offer a/neu beiriannau
8. prosesau cynnal a chadw ac atgyweirio'r cwmni ar gyfer offer a/neu beiriannau a phwysigrwydd cynnal a chadw ac atgyweirio wrth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cyfarwyddiadau a manylebau gynnwys:
- cynlluniau/darluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau'r cynhyrchydd
- gofynion y cwsmer
- safonau ansawdd e.e. BSI, CE
- cyfarwyddiadau llafar
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANFe18
Galwedigaethau Perthnasol
Ffensio
Cod SOC
5319
Geiriau Allweddol
gweithlu; peiriannau; pobl; offer; gosodiad; ffensio