Rheoli defnyddio deunydd a chydrannau ffensio

URN: LANFe17
Sectorau Busnes (Suites): Ffensio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn disgrifio sut i reoli defnyddio deunyddiau a chydrannau ffensio.

Mae’r safon hon yn cynnwys:
  • nodi’r gofynion ar gyfer deunyddiau a chydrannau

  • cadarnhau bod y ceisiadau yn gywir

  • rheoli storfeydd

  • ymdrin â deunydd dros ben. 

Mae’r safon hon wedi ei dylunio ar gyfer goruchwylwyr gosod ffensys. Gellir ei chymhwyso i gefnogi unrhyw weithrediad gosod ffensys.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cwblhau asesiad risg sy'n benodol i'r safle i nodi peryglon
  2. cadarnhau bod polisïau a gweithdrefnau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a gofynion asesu risg wedi eu rhoi ar waith wrth ddefnyddio deunyddiau a chydrannau ffensio
  3. nodi'r gofynion ar gyfer deunyddiau a chydrannau ffensio, yn cynnwys eu hansawdd a faint sydd ei angen i fodloni'r gofynion cyfreithiol a'r manylebau perthnasol
  4. sicrhau bod ceisiadau ar gyfer deunyddiau a chydrannau ffensio yn cydymffurfio â gofynion y rhaglen
  5. archebu'r deunyddiau a'r cydrannau gofynnol
  6. derbyn dosbarthiadau deunyddiau a chydrannau ffensio
  7. rheoli storio deunyddiau a chydrannau ffensio
  8. ymdrin â deunyddiau neu gydrannau dros ben, yn unol â gofynion y cwmni
  9. rheoli defnyddio deunyddiau a chydrannau ffensio
  10. cadw cofnodion o ddeunyddiau a chydrannau a thystiolaeth o ddosbarthiadau, yn unol â gofynion y cwmni

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i gynnal asesiad risg a pham mae hyn yn bwysig
  2. sut i gyfathrebu polisïau a gweithdrefnau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a'r gofynion asesu risg i'r personél perthnasol, a chadarnhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau
  3. y ffynonellau gwybodaeth sy'n ymwneud â deunyddiau ffensio a gofynion cydrannau, yn cynnwys y gofynion cyfreithiol a'r manylebau perthnasol
  4. sut i ddehongli'r manylebau ar gyfer gofynion y deunyddiau a'r cydrannau
  5. gweithdrefnau'r cwmni ar gyfer gwneud cais am/gwneud cais yn ôl y gofyn am ddeunyddiau a chydrannau
  6. pam ddylai dosbarthiadau gyd-fynd â gofynion y rhaglen
  7. gweithdrefnau'r cwmni ar gyfer cofnodi dosbarthiad a defnydd o stoc
  8. yr anghysondebau a allai ddigwydd wrth ddosbarthu deunyddiau a chydrannau
  9. y gofynion ar gyfer rheoli'r gwaith o storio deunyddiau a chydrannau gwahanol
  10. y dulliau ar gyfer defnyddio deunyddiau a chydrannau ffensio
  11. sut i drin ffactorau sydd yn amharu ar ddefnyddio deunyddiau a chydrannau
  12. gweithdrefnau'r cwmni ar gyfer ymdrin â deunyddiau a chydrannau dros ben
  13. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai manylebau gynnwys:

  • cynlluniau/darluniau
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • canllawiau'r cynhyrchydd
  • gofynion y cwsmer
  • safonau ansawdd e.e. BSI, CE

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFe19

Galwedigaethau Perthnasol

Ffensio

Cod SOC

5319

Geiriau Allweddol

ffensio; cyflenwi; deunyddiau; cydrannau