Trefnu’r safle ar gyfer gosod ffensys
URN: LANFe16
Sectorau Busnes (Suites): Ffensio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio sut i drefnu'r safle ar gyfer gosod ffensys.
Mae'r safon hon yn cynnwys:
- paratoi'r safle
- cadarnhau bod trefniadau diogelwch priodol wedi eu sefydlu
- cyfathrebu gofynion y safle i ddefnyddwyr y safle.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer goruchwylwyr gosod ffensys. Gellir ei chymhwyso i gynorthwyo unrhyw weithrediad gosod ffensys.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cwblhau asesiad risg sy'n benodol i'r safle i nodi peryglon
- cadarnhau bod polisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a gofynion asesu risg yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
- cadarnhau bod y gofynion ar gyfer offer amddiffynnol personol (PPE) wedi eu cyfathrebu i ddefnyddwyr y safle
- parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod arwyddion a rhwystrau wedi eu sefydlu, lle bo angen, i ddiogelu pobl a chreu amgylchedd gwaith diogel
- trefnu'r safle ar gyfer gosod ffensys i leihau'r effaith ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
- trefnu'r safle i amharu cyn lleied â phosibl ar y gwaith arfaethedig
- cadarnhau bod cynllun yr ardal waith, yn cynnwys mannau mynediad a gadael, wedi eu nodi'n glir a'u cyfathrebu i ddefnyddwyr y safle
- cadarnhau bod trefniadau diogelwch y safle yn bodloni'r gofynion ar gyfer personél, offer a diogelu deunyddiau
- cadarnhau bod systemau wedi eu sefydlu ar gyfer gwaredu gwastraff a deunydd dros ben yn ddiogel er mwyn lleihau'r risg amgylcheddol, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gynnal asesiad risg a pham mae hyn yn bwysig
- sut i gyfathrebu polisïau a gweithdrefnau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a gofynion asesu risg i ddefnyddwyr y safle, a chadarnhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) y dylid eu gwisgo ar y safle
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- sut caiff manylebau a gofynion gwaith ar gyfer gosod ffensys eu defnyddio i bennu gosod a sefydlu safleoedd
- sut i drefnu gweithrediadau safle i leihau'r effaith bosibl ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
- sut i sefydlu ardal waith ddiogel ac effeithlon
- y gofynion cyfreithiol a safle perthnasol ar gyfer defnyddio arwyddion, rhwystrau diogelu a systemau rheoli traffig
- pwysigrwydd cadw enw da'r cwmni
- gofynion diogelwch y safle ar gyfer diogelu personél, offer a deunyddiau
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy'n rheoli gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai manylebau gynnwys:
- cynlluniau/darluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau'r cynhyrchydd
- gofynion y cwsmer
- safonau ansawdd e.e. BSI, CE
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANFe16
Galwedigaethau Perthnasol
Ffensio
Cod SOC
5319
Geiriau Allweddol
diogeledd; diogelwch; ardal; safle; ffensys