Goruchwylio’r gwaith o sefydlu a chynnal llinellau a lefelau

URN: LANFe14
Sectorau Busnes (Suites): Ffensio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2019

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn disgrifio sut i oruchwylio'r gwaith o sefydlu a chynnal llinellau a lefelau. 

Mae'r safon hon yn cynnwys:

–  deall a dehongli manylebau ffensio

–  trefnu'r gwaith o sefydlu manylebau ffensio

–  cynnal y gwaith o sefydlu llinellau a lefelau

–  sefydlu llinellau a lefelau.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer goruchwylwyr gosod ffensys. Gellir ei chymhwyso i gefnogi unrhyw weithrediad gosod ffensys.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cwblhau asesiad risg sy'n benodol i safle i nodi peryglon
  2. cadarnhau bod polisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a gofynion asesu risg wedi eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
  3. cadarnhau bod dillad addas ac offer amddiffynnol personol (PPE) ar gael ac yn cael eu gwisgo ar y safle
  4. cael manylebau ffensio a chyfathrebu'r gofynion i'r rheiny sydd yn gwneud y gwaith
  5. trefnu'r adnoddau gofynnol i gefnogi'r gwaith o sefydlu a chynnal llinellau a lefelau
  6. parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gwneud y gwaith
  7. cadarnhau bod yr offer, y cyfarpar a'r deunyddiau yn cael eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a'u cadw a'u storio yn ddiogel ac yn cael eu cadw mewn cyflwr sydd yn hawdd eu gwasanaethu
  8. cadarnhau bod arwyddion a rhwystrau yn cael eu sefydlu, lle bo angen, i ddiogelu pobl a chreu amgylchedd gwaith diogel
  9. gwirio a chadarnhau lleoliad y gwasanaethau a rhwystrau os oes rhai
  10. cadarnhau bod pwyntiau cyfeirio yn cael eu sefydlu  i gefnogi'r gosodiad a gynlluniwyd
  11. cadarnhau bod llinellau a lefelau wedi eu sefydlu'n gywir, gan weithio o bwyntiau cyfeirio
  12. goruchwylio'r gwaith o sefydlu a chynnal llinellau a lefelau, a sicrhau bod yr holl waith yn cael ei wneud yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau a ddarparwyd 
  13. monitro'r gwaith sy'n cael ei wneud a chymryd camau lle mae problemau neu namau yn codi
  14. cadarnhau bod y gwaith yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n effeithio cyn lleied â phosibl ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i gynnal asesiad risg a pham mae hyn yn bwysig
  2. sut i gyfathrebu polisïau a gweithdrefnau amgylcheddol, iechyd a diogelwch a gofynion asesu risg i'r rheiny sydd yn gwneud y gwaith, yn ogystal â chadarnhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau
  3. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) y dylid eu gwisgo ar y safle
  4. y gofynion cyfreithiol a safle perthnasol ar gyfer defnyddio arwyddion, rhwystrau amddiffynnol a systemau rheoli traffig
  5. ble i gael y cyfarwyddiadau a'r manylebau gofynnol a sut dylid cyfathrebu'r rhain i'r rheiny sydd yn gwneud y gwaith
  6. y gofynion o ran adnoddau sydd yn gysylltiedig â sefydlu llinellau a lefelau
  7. y rhwystrau posibl sydd yn gysylltiedig â gosod ffensys – wedi eu gwneud gan ddyn a'r rheiny sydd yn digwydd yn naturiol
  8. sut i sefydlu pwyntiau cyfeirio a'u diogelu rhag symud
  9. sut i gadarnhau cywirdeb offer mesur a dyfeisiadau canfod
  10. y dulliau a ddefnyddir i drosglwyddo lefelau
  11. goblygiadau amrywiadau rhwng dimensiynau safle penodedig a gwirioneddol
  12. pam y mae'n bwysig diogelu pwyntiau cyfeirio llinellau a lefelau
  13. sut i sefydlu newid mewn cyfeiriad, yn cynnwys onglau a chromliniau
  14. pwysigrwydd cynnal llinellau ffiniau
  15. sut i oruchwylio'r gwaith o sefydlu a chynnal llinellau a lefelau
  16. y camau i'w cymryd lle mae problemau neu ddiffygion yn codi
  17. sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi eu heffeithio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Gallai cyfarwyddiadau a manylebau gynnwys:

  • cynlluniau/darluniau
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • canllawiau'r cynhyrchydd
  • gofynion y cwsmer
  • safonau ansawdd e.e. BSI, CE
  • cyfarwyddiadau llafar

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFe14

Galwedigaethau Perthnasol

Ffensio

Cod SOC

5319

Geiriau Allweddol

ffens; onglau; mesur; dyfais canfod; pwyntiau cyfeirio; lefelau; llinellau