Paratoi a gweithredu offer ac atodiadau pŵer llaw
URN: LANFe13
Sectorau Busnes (Suites): Ffensio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio sut i baratoi a gweithredu offer ac atodiadau pŵer llaw.
Mae'r safon hon yn cynnwys:
– dewis a pharatoi offer pŵer llaw a'u hatodiadau ar gyfer eu gweithredu
– gweithredu offer ac atodiadau pŵer llaw yn ddiogel
– cau offer pŵer llaw i lawr a'u storio ar ôl eu defnyddio.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gosodwyr ffensys sy'n defnyddio offer ac atodiadau pŵer llaw fel rhan o'u swydd.
Os ydych yn defnyddio peiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Nid yw'r safon yn darparu trwydded i ymarfer.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau'r cwmni
- dewis a pharatoi offer amddiffynnol personol (PPE) yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, sydd yn addas ar gyfer yr offer sy'n cael eu defnyddio a'r tasgau i'w cyflawni
- adnabod a dewis offer ac atodiadau pŵer llaw addas i gwblhau'r dasg
- paratoi offer ac atodiadau pŵer llaw
- cynnal gwiriadau ac addasiadau cyn cychwyn yn unol â deddfwriaeth berthnasol a chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd
- gweithredu offer ac atodiadau pŵer llaw yn ddiogel i gyflawni gofynion gwaith, yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gofynion y cynhyrchydd
- addasu gweithgareddau gwaith i ystyried newidiadau mewn amodau gwaith
- monitro perfformiad yr offer a'r atodiadau pŵer llaw a chymryd camau perthnasol, o fewn terfynau eich cyfrifoldeb, lle mae problemau neu ddiffygion
- cwblhau gwiriadau ar ôl gorffen yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd
- glanhau a storio offer ac atodiadau yn ddiogel, yn unol â pholisïau'r cwmni ac argymhellion y cynhyrchydd
- gwneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn effeithio cyn lleied â phosibl ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â pharatoi a gweithredu offer ac atodiadau pŵer llaw
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y dasg
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer defnyddio offer ac atodiadau pŵer
- diben a chyfyngiadau offer ac atodiadau pŵer llaw, a sut i ddewis y rhai mwyaf addas ar gyfer y dasg i'w chyflawni
- y gwiriadau ar ôl dechrau sydd yn gysylltiedig ag offer ac atodiadau pŵer llaw, a'r gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer gwirio offer gwaith
- diben a gwerth cyfarwyddiadau'r cynhyrchydd a gwybodaeth dechnegol
- gweithdrefnau gweithredu offer pŵer yn cynnwys y rheiny sy'n ymwneud â dechrau a diffodd
- y peryglon sydd yn gysylltiedig â defnyddio mathau gwahanol o offer ac atodiadau pŵer llaw
- pam y mae'n angenrheidiol addasu gweithgareddau gwaith i ystyried newidiadau mewn amodau gwaith e.e. y tywydd
- y problemau cyffredin a'r diffygion perfformiad sy'n effeithio ar offer ac atodiadau pŵer llaw
- sut i unioni neu hysbysu ynghylch diffygion, a pham y mae'n hanfodol gweithio o fewn terfynau eich cyfrifoldeb
- y gofynion storio ar gyfer offer ac atodiadau pŵer llaw
- sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANFe13
Galwedigaethau Perthnasol
Ffensio
Cod SOC
5319
Geiriau Allweddol
offer; atodiadau; diffygion; offer pŵer; gweithredu; paratoi